Cynllun Bioamrywiaeth Lleol Ceredigion
Mae Ceredigion yn gyfoethog o ran ei chynefinoedd a'i bywyd gwyllt.
Mae'r rhostiroedd llaith wedi'u gorchuddio gan laswellt y gweunydd a gwahanol rywogaethau o frwyn (sydd hefyd yn gynefin i'r glöyn byw prin, brith y gors). Ceir yno hefyd diroedd gwlyb o bwysigrwydd rhyngwladol sy'n gynefin i adar hela ac adar hirgoes a choedwigoedd derw sydd oll yn cyfrannu at fioamrywiaeth y Sir. Yn ogystal â hynny, mae Ceredigion yn un o gadarnleoedd y Barcud Coch a'r Frân Goesgoch.
Mae arfordir ac aberoedd Bae Ceredigion hefyd yn bwysig i adar y môr ac mae'r Dolffiniaid Trwynbwl, Llamhidyddion yr Harbwr a Morloi Llwyd yr Iwerydd i'w gweld o gwmpas y Bae.
Lluniwyd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yn 2002 gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Ceredigion, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n gyfrifol am fywyd gwyllt. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar rai o elfennau pwysicaf amgylchedd naturiol Ceredigion gan ystyried amcanion a thargedau cenedlaethol. I weld y fersiwn diweddaraf o Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Ceredigion ac i gael rhagor o wybodaeth ewch i Wefan y System Cofnodi Gweithredu ar Fioamrywiaeth (BARS).
Mae gan y Bartneriaeth Bioamrywiaeth Lleol swyddogaeth bwysig o ran datblygu bioamrywiaeth yng Ngheredigion. Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys amrywiaeth dda o sefydliadau sy'n chwarae eu rhan yn y gwaith o ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd yn y Sir.
Mae gan y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol fframwaith ar gyfer cynnal bywyd gwyllt yng Ngheredigion ac mae'n ffordd y gall y gymuned weithio gyda'i gilydd i sicrhau lles bioamrywiaeth y Sir at y dyfodol. Caiff y cynllun ei adolygu a'i ddiweddaru drwy ychwanegu cynlluniau gweithredu ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau newydd.
Tarwch olwg ar y Cynlluniau Gweithredu Cynefinoedd a Rhywogaethau sy'n rhan o'r cynllun: