Skip to main content

Ceredigion County Council website

Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth Costau Byw

Cymorth Costau Byw

Llwybr Arfordir Ceredigion

Llwybr Arfordir Cymru

Ymgysylltu ac Ymgynghoriadau

Ymgysylltu ac Ymgynghoriadau

Newyddion

Y diweddaraf ar y tywydd yng Ngheredigion

Mae cerbydau graeanu wedi bod allan dros nos yn trin y ffyrdd ond dylai gyrwyr barhau i gymryd gofal gan fod cesair/eira/glaw yn gwneud amodau gyrru yn beryglus. Mae’r cerbydau allan ar y ffyrdd ar hyn o bryd yn patrolio ac yn ymateb i faterion wrth iddynt godi.

20/11/2024

Lleisiau Eraill Aberteifi yn dathlu'r nifer mwyaf erioed o bobl wedi mynychu gyda'r ŵyl fwyaf llwyddiannus hyd yma

Daeth digwyddiad Lleisiau Eraill Aberteifi 2024 i ben gyda chynhyrchwyr yr ŵyl yn adrodd y ffigyrau uchaf erioed ar gyfer pumed rhifyn y digwyddiad yn gynharach y mis hwn. Denodd y digwyddiad tri diwrnod hwn, a gynhaliwyd 31 Hydref tan 2 Tachwedd, filoedd o ddilynwyr cerddoriaeth i dref arfordirol Aberteifi, gan drochi eu hunain mewn rhaglen wedi’i churadu gan ddathlu cerddoriaeth, cyfeillgarwch, iaith, syniadau a diwylliant o’r ddwy ochr o Fôr Iwerddon a thu hwnt.

20/11/2024

Gwrthod system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy

Mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2023, pleidleisiodd Cynghorwyr Ceredigion yn erbyn mabwysiadu'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) ar gyfer etholiadau lleol Cyngor Sir Ceredigion.

15/11/2024

Canolfan Gyfiawnder Aberystwyth yn dedfrydu dau am droseddau difrifol yn ymwneud â lles anifeiliaid

Ar 6 Tachwedd yng Nghanolfan Cyfiawnder Aberystwyth, dedfrydwyd Ms. Rosie Crees a Mr. John Morgan am 8 trosedd yr un o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Methodd â diwallu anghenion dros 500 o ddefaid ar draws dau ddaliad. Roedd y defaid yn cael eu hamddifadu o gyflenwad parhaus o ddŵr yfed ffres, glân. Yn ogystal, roedd y defaid yn dioddef o gloffni heb ei drin, cyflwr poenus sy'n effeithio ar eu gallu i gerdded a phori. Roedd llawer yn cael eu cadw mewn siediau gyda chasgliadau o dail o sawl troedfedd, i'r graddau roedd pennau'r anifeiliaid yn cyffwrdd â tho'r sied.

15/11/2024