Skip to main content

Ceredigion County Council website

Mis Iechyd y Galon

Mis Chwefror yw Mis Cenedlaethol y Galon. Mae pawb yn gwybod y pwysigrwydd o fod yn fwy egnïol a’r fudd i iechyd y galon. Mae gwario amser yn yr awyr iach a natur hefyd yn dod â manteision ychwanegol. Yma yng Ngheredigion, mae llawer o gyfleoedd i bawb fynd allan, bod yn fwy actif a gofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Am weddill y mis, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn rhannu rhai syniadau am deithiau cerdded a fydd yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb.  Bydd y rhain yn dechrau gyda llwybrau byrrach, o ansawdd uchel, ag arwyneb a gydag y lleiafrif o lethr, sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai sy'n dewis taith gerdded llai heriol.  Fe fydd hefyd llwybrau hirach ar gael gydag arwynebau naturiol, llethrau mwy serth a rhai heriau mordwyo.

Pa bynnag lwybrau a ddewiswch, byddwch yn siŵr o weld golygfeydd gwych, wedi’ch amgylchynu gan natur a mwynhau rhywfaint o ymarfer corff sy’n hybu iechyd y galon.

Cyn cychwyn ar unrhyw daith gerdded, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r tywydd a gwisgwch esgidiau cryf a dillad priodol. Cariwch ddŵr bob amser. Efallai y bydd angen byrbrydau a hufen haul hefyd. Mae'r rhan fwyaf o lwybrau'n croesi tir preifat. Dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob amser, gan gadw cŵn dan reolaeth agos a glanhau ar eu hôl. Gadewch gatiau fel y dewch o hyd iddynt, cadwch at y llwybr, peidiwch â gadael sbwriel a rhowch ddigon o le i da byw a bywyd gwyllt.

Mae'r cyfleoedd hyn ar gael ar draws y sir. Mae llawer o rai eraill. Mae rhai syniadau pellach i'w weld yma Crwydro a Marchogaeth - Cyngor Sir Ceredigion

I gefnogi Mis Cenedlaethol Iechyd y Galon, isod mae nifer o deithiau cerdded byrrach sy'n addas i bawb. 

Mae'r llwybrau hyn wedi'u harwynebu i safon uchel efo y lleiafrif o inclein. Mae hyn yn eu gwneud yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, y rhai sy'n defnyddio cymhorthion cerdded, cadeiriau gwthio ac unrhyw un sydd eisiau taith gerdded hamddenol neu sydd newydd ddechrau ar daith iechyd y galon. 

Yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig hefyd yw golygfeydd anhygoel, mynediad at natur a'r manteision lles corfforol a meddyliol hollbwysig. 

Dilynwch y Côd Cefn Gwlad.

Llwybr y Clogwyn Aberporth

Llwybr y Clogwyn Aberporth

aberporth-cliff-top-trail.pdf

Pellter 1.8 km / 1.1 milltir

Llwybr y Clogwyn Gwbert

Llwybr y Clogwyn Gwbert

gwbert-cliff-top-trail.pdf

Pellter: 1.5 km / 0.9 milltir

Llwybr Hen Domen

Llwybr Hen Domen

hen-domen-trail-promoted-route.pdf

Pellter: 900 medr

Cenarth

Cenarth

cenarth-circular.pdf

Pellter: 1.9 km / 1.2 milltir

Dyma ddetholiad o deithiau cerdded rhwng 3 a 4 milltir o hyd.

Maent ar arwynebau naturiol sy'n anwastad ac sydd â llethrau mwy serth a hirach. Maent yn mynd â defnyddwyr llwybrau ymhellach i gefn gwlad agored ac efallai y bydd angen map arnoch.

Cyn belled â bod gennych esgidiau cryf, maen nhw i gyd yn ffordd wych o gynnwys mwy o symudiadau ac ymarfer corff a gall hynny ond fod yn newyddion da i'ch calon.

Dilynwch y Côd Cefn Gwlad.

 

Aberaeron

Aberaeron

Layout

Pellter: 6.8km / 4.2 milltir

Gwbert

Gwbert

gwbert-circular.pdf

Pellter: 5.6 km / 3.5 milltir

Constitution Hill

Constitution Hill

consti-hill-pr-with-writing.pdf

Pellter: 6km / 3.8 milltir

Trefilan

Trefilan

trefilan-circular.pdf

Pellter: 4.8 km / 3 milltir

Detholiad o lwybrau ar gyfer defnyddwyr ffit ac abl a allai fod yn chwilio am her. Mae'r rhain yn llwybrau hirach, yn aml yn croesi tir anodd, a gall fod ganddynt heriau mordwyo. Bydd angen esgidiau heicio arnoch chi.

Mae'r rhain yn ffyrdd gwych o adeiladu a herio'ch ffitrwydd a chadw'ch calon yn iach. Fel erioed yng Ngheredigion, bydd eich ymdrech yn cael ei wobrwyo â golygfeydd godidog, gemau cudd a'r holl fanteision a ddaw yn sgil bod yn yr awyr agored.

Dilynwch y Côd Cefn Gwlad.

Cei Newydd i Gwmtydu

Cei Newydd i Gwmtydu

new-quay.pdf

Pellter: 12.8 km / 8 milltir

NantyrArian

NantyrArian

nantyarian.pdf

Pellter: 11 km / 7 milltir

Bontgoch

Bontgoch

PROW_Promoted_Routes_Project_v2024_01

Pellter: 14.5 km / 9 milltir

Tanybwlch

Tanybwlch

tanybwlch-circular.pdf

Pellter: 9.3 km / 5.8 milltir

Mwnt - Ferwig

Mwnt - Ferwig

mwnt-ferwig-circular.pdf

Pellter: 9.4 km / 5.8 milltir