Skip to main content

Ceredigion County Council website

Newyddion

Cronfa Grant Cymunedol Ceredigion ar agor ar gyfer ceisiadau

Anogir grwpiau cymunedol, eglwysi a chapeli, mudiadau gwirfoddol a dielw sy'n dymuno gwella a chynyddu'r ystod o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleoedd yng Ngheredigion i wneud cais i Gronfa Grant Cymunedol Ceredigion. Mae grantiau ar gael tuag at bethau fel prynu a datblygu tir, prynu adeiladau, prynu offer ac uwchraddio cyfleusterau presennol.

23/12/2024


Dangosfwrdd newydd i fonitro maethynnau yn trawsnewid y gwaith o ddiogelu Afon Teifi

Dan arweiniad Cyngor Sir Ceredigion ac mewn cydweithrediad â Bwrdd Rheoli Maethynnau Gorllewin Cymru, mae prosiect monitro Ansawdd Dŵr afon Teifi wedi dadorchuddio’i ddangosfwrdd arloesol ar gyfer rheoli maethynnau. Dyma’r un cyntaf o’i fath ac mae nawr yn fyw ar wefan y Cyngor.

19/12/2024


Busnes Ceredigion yn pledio'n euog i naw trosedd hylendid bwyd

Plediodd Mrs Sheena Thomas a Mr Eifion Thomas o Olwg y Môr, Wauntrefalau, Tanygroes, Aberteifi, yn euog gerbron Ynadon yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth ar 12 Tachwedd 2024 i naw trosedd hylendid bwyd. Cafodd yr achos ei gyflwyno gan Dîm Amddiffyn y Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.

19/12/2024


Lansio Sefydliad Rheoli Clwstwr newydd i yrru arloesedd technoleg amaeth a thechnoleg bwyd ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru

Mae Tyfu Canolbarth Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru, M-SParc ac ArloesiAber, yn falch o gyhoeddi lansiad swyddogol y Sefydliad Rheoli Clwstwr (SRhC) i ysgogi arloesedd technoleg amaeth a thechnoleg bwyd ledled Canolbarth a Gogledd Cymru.

18/12/2024


Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn dathlu’r Nadolig gyda thrigolion Cartref Gofal Min y Môr

Bu dathlu mawr yng Nghlwb Ieuenctid Aberaeron yr wythnos diwethaf, wrth i aelodau’r grŵp ieuenctid ‘Inspire’ sy’n cael eu cynnal gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion drefnu parti, a pharatoi pryd o fwyd ar gyfer trigolion Cartref Gofal Min y Môr.

17/12/2024


Gwasanaethau gwastraff Ceredigion dros cyfnod yr Ŵyl

Bydd trefniadau ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn amrywio bob blwyddyn i adlewyrchu'r diwrnod o'r wythnos y maent yn disgyn arno.

17/12/2024


Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn sgwrsio gydag Elin Jones AS

Ar 02 Rhagfyr 2024, ymwelodd aelodau o Gyngor Ieuenctid Ceredigion â Senedd Cymru yng Nghaerdydd, a chyfarfod ag Elin Jones AS i drafod materion allweddol sy’n bwysig i bobl ifanc.

16/12/2024


Ymgynghoriad talu am barcio ar Bromenâd Aberystwyth

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymgynghori ar y cynigion i godi tâl am barcio ar hyd rhannau o’r Promenâd yn Aberystwyth.

13/12/2024


Dathlu talent eithriadol yng Ngheredigion - Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Caru Ceredigion 2024

Cynhaliwyd Gwobrau Caru Ceredigion 2024 am y tro cyntaf neithiwr, 12 Rhagfyr, i ddathlu cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion ar draws y sir.

13/12/2024


Gwaith yn parhau ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron

Mae Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron yn parhau’n raddol ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau'r tarfu ar drigolion, busnesau ac ymwelwyr ag Aberaeron.

12/12/2024


Byddwch yn wyliadwrus rhag masnachwyr twyllodrus yn eich twyllo ar ôl y storm

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn rhybuddio trigolion i gadw llygad am fasnachwyr twyllodrus a allai eu twyllo yn ystod tywydd garw. Pan fydd tywydd eithafol yn taro Cymru gan gynnwys Ceredigion, fel y gwelsom dros y dyddiau diwethaf, mae’r galw am fasnachwyr cyfreithlon yn codi. Mae'r tywydd gwael diweddar wedi gweld llawer o ddeiliaid tai gyda difrod i’w heiddo. Yn anffodus, mae tywydd fel hyn yn gyfle i fasnachwyr twyllodrus fanteisio ar lawer o ddeiliaid tai.

11/12/2024


Teuluoedd ffoaduriaid o Wcráin yn dod at ei gilydd i ddweud diolch

Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn Aberaeron yn ddiweddar i ddangos gwerthfawrogiad i’r rhai sydd wedi agor eu cartrefi i gynnal teuluoedd o Wcráin sydd wedi cyrraedd Ceredigion i ddod o hyd i ddiogelwch o’r rhyfel yn Wcráin.

11/12/2024


Trosglwyddo preswylwyr Tregerddan i Gartref Gofal Hafan y Waun

Mae preswylwyr sy'n byw yng Nghartref Gofal Tregerddan yn Bow Street wedi symud i Gartref Gofal Hafan y Waun yn Aberystwyth yn gynharach yr wythnos hon. Digwyddodd y cam hwn yn dilyn wythnosau o drafodaethau manwl a phroses ymgynghori gyda phreswylwyr, teulu, ffrindiau a staff yng Nghartref Gofal Tregerddan ac amryw o rhanddeiliaid eraill.

11/12/2024


Ceredigion yn arwain y ffordd wrth fonitro ansawdd dŵr gyda thechnoleg arloesol

Mae prosiect Monitro Maethynnau Teifi wedi cyflwyno dulliau arloesol o ddiogelu ac adfer system afon Teifi gan dorri tir newydd yng Nghymru ar sawl achlysur. Dan arweiniad Cyngor Sir Ceredigion ac mewn cydweithrediad â'r Bwrdd Rheoli Maethynnau, mae’r prosiect yn cyfuno technoleg arloesol gydag ymdrechion a yrrir gan y gymuned i fynd i'r afael â heriau ynghylch ansawdd dŵr.

10/12/2024


Canolfannau galw heibio ar agor i’r cyhoedd

Mae’r Canolfannau Hamdden Aberteifi a Phlascrug Aberystwyth ar agor heddiw tan 10.00yh ar gyfer aelodau’r cyhoedd sydd am alw heibio, neu am aros er mwyn cadw’n gynnes, cael cawod neu wefru ffonau symudol os ydych wedi bod heb drydan am beth amser. Bydd paned cynnes yn eich disgwyl. Mae nifer o staff Cyngor Sir Ceredigion wedi gwirfoddoli i gynorthwyo yn y canolfannau hyn, ac fe fydd croeso cynnes iawn yno i chi. Mae Swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa ar agor yn ogystal am baned a chyfle i wifrio’ch ffonau symudol. Rydym hefyd yn gweithio i drefnu darpariaeth yn ardal Llambed, a byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth maes o law.

08/12/2024


PERYGL - Disgwylir tywydd eithafol yng Ngheredigion yn dilyn rhybudd tywydd Coch am wyntoedd cryfion

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd Coch am wynt ar gyfer Ceredigion a fydd mewn grym o 03:00 tan 11:00 ar ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr 2024. Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld gwyntoedd a fydd yn cyrraedd 90mya neu mwy yn gynnar ar fore Sadwrn.

06/12/2024


Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2024

Mae rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2024 wedi’i datgelu’n swyddogol, gyda rhestr drawiadol o gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cynrychioli 12 categori.

05/12/2024


Rhybudd Ambr am wyntoedd cryfion wrth i Storm Darragh daro Ceredigion

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd Ambr am wynt a fydd mewn grym o 03:00 dydd Sadwrn 07 Rhagfyr tan 21:00 ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr, 2024.

05/12/2024



Dathlu’r ‘dolig yn Theatr Felinfach

Mae’r Nadolig yn nesáu ac mae sawl cyfle i ddathlu’r ŵyl yn Theatr Felinfach eleni.

05/12/2024


Parcio am ddim am dri dydd Sadwrn cyn y Nadolig

Bydd siopa Nadolig yng Ngheredigion yn cael hwb eto eleni gyda pharcio am ddim drwy’r dydd ar dri dydd Sadwrn yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

29/11/2024


Al Lewis i berfformio yn Amgueddfa Ceredigion

Mae Amgueddfa Ceredigion yn hapus iawn i groesawu y canwr a’r cyfansoddwr, Al Lewis, i’r Amgueddfa am y tro cyntaf eleni fel un o'i berfformiadau Nadolig ar draws Cymru.

25/11/2024


Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi fydd y gorau eto

Mae gorymdaith llusernau ysblennydd wedi’i gynllunio gan Theatr Byd Bach yn Aberteifi ar gyfer dydd Gwener 6 Rhagfyr, gyda’u cerfluniau llusernau enfawr ar thema afon Teifi a cherddorion lleol tan gamp Samba Doc a Drymwyr Affrica Aberteifi.

25/11/2024


Hyfforddiant Ceredigion Training yn cynnal Bore Coffi Macmillan llwyddiannus

Mwynhaodd staff a dysgwyr Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) gymryd rhan mewn Bore Coffi Macmillan hwyr ar 14 a 15 Hydref 2024. Dyma’r digwyddiad sy’n codi’r swm fwyaf o arian bob blwyddyn ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth hanfodol i bobl yr effeithir arnynt gan gancr.

22/11/2024


Cyfle i adolygu cynigion llefydd parcio oddi ar y stryd yng Ngheredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu gwneud newidiadau i’r ddogfen ‘Gorchymyn Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd’.

22/11/2024


Lleisiau Eraill Aberteifi yn dathlu'r nifer mwyaf erioed o bobl wedi mynychu gyda'r ŵyl fwyaf llwyddiannus hyd yma

Daeth digwyddiad Lleisiau Eraill Aberteifi 2024 i ben gyda chynhyrchwyr yr ŵyl yn adrodd y ffigyrau uchaf erioed ar gyfer pumed rhifyn y digwyddiad yn gynharach y mis hwn. Denodd y digwyddiad tri diwrnod hwn, a gynhaliwyd 31 Hydref tan 2 Tachwedd, filoedd o ddilynwyr cerddoriaeth i dref arfordirol Aberteifi, gan drochi eu hunain mewn rhaglen wedi’i churadu gan ddathlu cerddoriaeth, cyfeillgarwch, iaith, syniadau a diwylliant o’r ddwy ochr o Fôr Iwerddon a thu hwnt.

20/11/2024


Gwrthod system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy

Mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2023, pleidleisiodd Cynghorwyr Ceredigion yn erbyn mabwysiadu'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) ar gyfer etholiadau lleol Cyngor Sir Ceredigion.

15/11/2024


Canolfan Gyfiawnder Aberystwyth yn dedfrydu dau am droseddau difrifol yn ymwneud â lles anifeiliaid

Ar 6 Tachwedd yng Nghanolfan Cyfiawnder Aberystwyth, dedfrydwyd Ms. Rosie Crees a Mr. John Morgan am 8 trosedd yr un o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Methodd â diwallu anghenion dros 500 o ddefaid ar draws dau ddaliad. Roedd y defaid yn cael eu hamddifadu o gyflenwad parhaus o ddŵr yfed ffres, glân. Yn ogystal, roedd y defaid yn dioddef o gloffni heb ei drin, cyflwr poenus sy'n effeithio ar eu gallu i gerdded a phori. Roedd llawer yn cael eu cadw mewn siediau gyda chasgliadau o dail o sawl troedfedd, i'r graddau roedd pennau'r anifeiliaid yn cyffwrdd â tho'r sied.

15/11/2024


Agoriad Cylch Meithrin newydd sbon yn Llambed

Mae Cylch Meithrin newydd sbon wedi agor ei ddrysau ar ôl misoedd o baratoi.

15/11/2024


Dedfrydu preswylydd o Geredigion am gynhyrchu a gwerthu DVDs ffug

Mae David Thomas, o Sarnau, Ceredigion, wedi’i dedfrydu i 20 mis o garchar wedi'i ohirio am 18 mis, ar ôl pledio'n euog i gyhuddiadau dan Ddeddf Nodau Masnach 1994 trwy gynhyrchu a gwerthu DVDs ffug.

13/11/2024


Arloesi cysylltedd gwledig yn trawsnewid monitro amgylcheddol yng Ngheredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o fod yn rhan o brosiect Sbarduno Cysylltedd Gwledig (Rural Connectivity Accelerator (RCA)) sy’n torri tir newydd ac wedi’i ariannu gan yr Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT). Mae’r prosiect arloesi yn defnyddio cysylltiadau cyfathrebu lloeren Cylchlwybr Isel y Ddaear (Low Earth Orbit (LEO)) i oresgyn heriau cysylltedd mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell gan osod model ar gyfer datblygiadau monitro amgylcheddol.

11/11/2024


Y Cyngor a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i adolygu opsiynau i ddarparu Cylch Caron

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 17 Gorffennaf 2024, gwahoddwyd tendrau am Bartner Cyflawni a fyddai'n gweithio gyda'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd i ddarparu canolfan iechyd, gofal cymdeithasol a thai newydd integredig yn Nhregaron, Cylch Caron. Fodd bynnag, ni phenodwyd Partner Cyflawni yn ystod y broses dendro.

11/11/2024


Ymweliad y Gweinidog yn tynnu sylw at Fuddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y gwaith o Adfywio Aberystwyth

Ddydd Iau, 7 Tachwedd, ymwelodd y Fonesig Nia Griffith AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru, ag Aberystwyth i weld y prosiectau adfywio a gafodd eu hariannu yn rhannol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig: Adfywio Promenâd Aberystwyth ac ailddatblygiad hanesyddol yr Hen Goleg.

08/11/2024


Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio mewnbwn y cyhoedd ar y polisi trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat diwygiedig

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd trigolion i roi eu barn ar y Polisi a’r Amodau ar gyfer Cerbydau Tacsi a Cherbydau Hurio Preifat sydd wedi’i ddiwygio. Nod yr ymgynghoriad hwn yw sicrhau bod tacsis a cherbydau hurio preifat yn parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i gymunedau gwledig, yr economi gyda'r nos, a theithwyr anabl, tra hefyd yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.

08/11/2024


Yr alwad olaf am enwebiadau ar gyfer gwobrau cymunedol a busnes Ceredigion

Wythnos yn unig sydd gan fusnesau, prosiectau cymunedol ac entrepreneuriaid yng Ngheredigion i gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2024 y mae disgwyl mawr amdanynt.

06/11/2024


Llyfrgell Ceredigion yn hyrwyddo llyfrau newydd ar gyfer pobl ifanc

Bydd llyfrau newydd yn cael ei hyrwyddo ar draws y sir i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc.

06/11/2024


Cynefin yng Ngheredigion

Yn Amgueddfa Ceredigion ar 26 Hydref, bu teuluoedd yn mwynhau gweithgareddau i ddathlu holl ddiwylliannau a threftadaeth wahanol bobl sy'n byw yng Ngheredigion. Ariennir y digwyddiad gan Gronfa Cydlyniant Cymunedol De Orllewin a Chanolbarth Cymru.

06/11/2024


Cabinet Ceredigion yn datblygu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer opsiynau addysg ôl-16

Yn ystod cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2023, rhoddodd Aelodau’r Cabinet gyfarwyddyd i’r Gwasanaeth Ysgolion a Dysgu Gydol Oes i gynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl i Opsiwn 2 ag Opsiwn 4 yn yr ‘Adolygiad o’r Ddarpariaeth Ôl-16 yng Ngheredigion’.

05/11/2024


Cyngor yn penodi Hyrwyddwr Lluoedd Arfog newydd

Mewn cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ddydd Iau 24 Hydref 2024, penodwyd Aelod Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog newydd.

04/11/2024


Amdani yn lansio Ton Newydd Cymru cystadleuaeth ffilm fer i feithrin ffilm Gymraeg ledled Cymru

Mae’r cwmni cynhyrchu ffilm a theledu o Geredigion wedi lansio cystadleuaeth sy’n cynnig rhaglen datblygu talent, a sy’n cael ei beirniadu gan Huw Penallt Jones, Mererid Hopwood, a Gwenllian Gravelle.

21/10/2024


Rhybuddion llifogydd ar gyfer rhannau o arfordir Ceredigion

Mae rhybuddion llifogydd wedi cael eu cyhoeddi yn Borth, ac ardal y llanw yn Aberystwyth, Aberteifi, Aberaeron a Clarach.

20/10/2024


Cyhoeddi canlyniad isetholiad Ward Tirymynach

Etholwyd y Cynghorydd Gareth Lewis yn ystod isetholiad ward Tirymynach a gynhaliwyd ddydd Iau, 17 Hydref 2024.

18/10/2024


Ysgol Berfformio Theatr Felinfach yn perfformio ‘Mimosa’

Bydd Ysgol Berfformio Theatr Felinfach yn cyflwyno’r sioe gerdd ‘Mimosa’ gan Tim Baker a Dyfan Jones ar lwyfan y theatr ar ddiwedd mis Hydref.

18/10/2024


Rhybudd llifogydd ger Ardal y Llanw Aberteifi

Mae rhybudd llifogydd wedi’i gyhoeddi ddydd Gwener 18 Hydref 2024 ar gyfer Ardal y Llanw yn Aberteifi.

18/10/2024


Preswylydd o Geredigion yn sicrhau cyflogaeth yn dilyn cymorth cynllun Cymunedau am Waith+

Mae dyn ifanc 20 oed o Geredigion wedi sicrhau cyflogaeth gyda chwmni adeiladu, LJV Ltd, ar ôl ei gyfnod o brofiad gwaith (gyda thâl) drwy Dîm Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion.

17/10/2024


Adroddiad perfformiad yn tynnu sylw at gyflawniadau'r Cyngor

Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi ei fesurau perfformiad yn erbyn ei Amcanion Llesiant Corfforaethol ar ei wefan. Mae hyn yn galluogi’r cyhoedd weld sut mae'r Cyngor yn perfformio yn erbyn ei dargedau, ac mewn rhai achosion sut mae'n perfformio o'i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru.

16/10/2024


Cydnabyddiaeth i warchodwyr plant Ceredigion yn Nigwyddiad Dathlu Pacey Cymru

Ddydd Sadwrn, 5 Hydref 2024, teithiodd nifer o warchodwyr plant o Geredigion i Landudno lle cynhaliodd Pacey Cymru eu hail ddigwyddiad blynyddol i ddathlu llwyddiannau aelodau yng Nghymru a chydnabod eu hymrwymiad parhaus i'r sector gofal plant a blynyddoedd cynnar.

16/10/2024


Llwyddiant i Raglenni Haf Bwyd a Hwyl 2024

Cymerodd 201 o ddisgyblion Ceredigion ran yng Nghynllun Bwyd a Hwyl y Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yr haf hwn.

15/10/2024


Perfformiad Ensemble Siambr Llundain yn Amgueddfa Ceredigion

Dydd Mercher 30 Hydref, bydd Ensemble Siambr Llundain yn perfformio yn Amgueddfa Ceredigion ac yn creu noson o gerddoriaeth siambr i'ch llonyddu a'ch llonni.

14/10/2024


Lawnsio Gwobrau Caru Ceredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw am geisiadau wrth iddynt baratoi ar gyfer dathliad o fusnesau a chymunedau'r sir.

14/10/2024


Gwaith adeiladu yn dechrau i adfywio Promenâd Aberystwyth

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o roi diweddariad am gynnydd y gwaith adfywio ar Bromenâd Aberystwyth sy'n ceisio trawsnewid Promenâd Aberystwyth i fod yn lle mwy hygyrch, deniadol a chynaliadwy ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr.

10/10/2024


Ymweliad Gweinidogol Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron

Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies ag Aberaeron i weld cynnydd y Cynllun Amddiffyn yr Arfordir ddydd Gwener 04 Hydref.

08/10/2024


Aelodau Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn ymweld â San Steffan

Ar 10 Medi 2024, teithiodd Aeron Dafydd, disgybl Ysgol Bro Teifi sy’n cynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Prydain fel Aelod Seneddol Ifanc a Rosa Waby, disgybl Ysgol Gyfun Penweddig a Chadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion i Lundain i gwrdd ag AS Ceredigion, Ben Lake.

07/10/2024


Rhannwch eich barn ar Bolisi Dyrannu Cyffredin Ceredigion

Gofynnir i drigolion am eu barn ar Bolisi Dyrannu Cyffredin drafft Cyngor Sir Ceredigion sy'n nodi cynnig y Cyngor ar gyfer dyrannu tai cymdeithasol yn y Sir.

04/10/2024


Cyhoeddi Strategaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion ar gyfer 2024-2027

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion wedi cyhoeddi ei Strategaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2024-2027.

04/10/2024


Trosglwyddo Pwll a Neuadd Goffa Aberteifi i berchnogaeth y Cyngor

Bydd Pwll a Neuadd Goffa Aberteifi yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth y Cyngor yn dilyn penderfyniad gan Ymddiriedolaeth Pwll Coffa a Neuadd Aberteifi i gau'r pwll ar 11 Mawrth 2024, a phenderfyniad pellach mewn cyfarfod Cabinet ar 19 Mawrth 2024, a chydsyniad y Comisiwn Elusennau i'r trosglwyddiad trwy Orchymyn dyddiedig 25 Mehefin 2024 (fel y'i diwygiwyd ar 26 Mehefin 2024).

03/10/2024


Ymdrechion gwirfoddol y Ramblers yn cyfateb i £500,000 dros 30 mlynedd

Mae gwirfoddolwyr Hawliau Tramwy Cyhoeddus wedi casglu dros £500,000 o arian dros 30 mlynedd o waith gwirfoddoli. Er mae syniad aelodau Ramblers Aberystwyth oedd hyn i ddechrau, mae'r gweithgor wythnosol wedi hen ennill eu plwyf ledled Ceredigion.

01/10/2024


Cynllun Gohebwyr Ifanc Chwaraeon Ceredigion: Tu ôl Y Meic

Daeth 24 o gefnogwyr pêl droed ynghyd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Iau 19 Medi i fwynhau gweithdy meistr cyfrwng Cymraeg o’r enw ‘Tu Ôl Y Meic’ gyda’r sylwebydd pêl droed proffesiynol Mei Emrys.

26/09/2024


Cynlluniau Ynni Ardal lleol yn cael eu cymeradwyo i gynorthwyo gweithgarwch pontio i sero net

Yn ddiweddar, mae Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys wedi cymeradwyo eu Cynlluniau Ynni Ardal Lleol (CYALl).

25/09/2024


Cylch Chwarae Ceredigion yn ennill gwobr yng Ngwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru

Mae Cylch Chwarae Ceredigion wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru a gynhaliwyd yn Aberporth ddydd Mercher, 11 Medi 2024.

24/09/2024


Gŵyl Grefft Cymru yn llwyddiant ysgubol wrth i 3,500 o bobl fynychu’r digwyddiad yng Nghastell Aberteifi

Cynhaliwyd Gŵyl Grefft Cymru am y tro cyntaf rhwng dydd Gwener y 6ed o Fedi a dydd Sul yr 8fed o Fedi ac roedd wedi “mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau” medd y trefnwyr wrth i dros 3,500 o bobl o bob oed fynychu’r digwyddiad.

23/09/2024


Cyflwyno Tystysgrif Siarter Troseddau Casineb i Geredigion

Mewn cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ddydd Iau 19 Medi 2024, cyflwynwyd tystysgrif Nod Ymddiriedaeth i Gyngor Sir Ceredigion gan Elusen Cymorth i Ddioddefwyr am ein hymrwymiad i’r Siarter Troseddau Casineb.

19/09/2024


Isetholiad Ward Tirymynach

Cynhelir isetholiad Cyngor Sir ar gyfer Ward Tirymynach ddydd Iau 17 Hydref 2024, yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Paul Hinge ym mis Awst 2024.

12/09/2024


Dewch i ddathlu diwylliant yn Theatr Felinfach yr hydref a'r gaeaf hwn

Dewch i fwynhau rhaglen ddiwylliannol lawn yn Theatr Felinfach dros y misoedd nesaf wrth iddynt ddatgelu eu rhaglen dros yr hydref a’r gaeaf.

11/09/2024


Cynllun y Cyngor yn darparu buddion ychwanegol i gymunedau Ceredigion

Mae Logan McFarlane, un o breswylwyr Ceredigion wedi cael gwaith cyflogedig yn dilyn ei brentisiaeth gyda LEB Construction.

10/09/2024


Ehangu Band Eang Gigadid er mwyn Hybu Cysylltedd yng Ngheredigion a Phowys

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn falch o gyhoeddi cam mawr ymlaen o safbwynt seilwaith digidol ar gyfer y rhanbarth.

09/09/2024


Tynnu sylw at Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd 2024

Cynhelir Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi 2024, ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gefnogi’r ymgyrch eto eleni.

09/09/2024


Digwyddiad Lansio Ceredigion Oed Gyfeillgar

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal digwyddiad i nodi lansiad Ceredigion Oed Gyfeillgar ar Ddydd Llun 30 Medi 2024.

06/09/2024


Tîm Cefnogi’r Gymraeg Ceredigion yn lansio podlediad newydd arloesol

Mae Tîm Cefnogi’r Gymraeg Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi lansiad cyfres o bodlediadau newydd, “Pod yr Ysgol,” sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer y gweithlu addysg.

05/09/2024


Tyfu Canolbarth Cymru yn lansio Adnodd Gwirio Signal Dyfeisiau Symudol

Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi bod yn cydweithio â Streetwave, sy’n dadansoddi signal dyfeisiau symudol, i fapio signal dyfeisiau symudol ar draws y rhanbarth gan ddefnyddio cerbydau casglu gwastraff.

04/09/2024


Rhannwch eich barn ar fywyd yng Ngheredigion

Mae cyfle i drigolion rannu eu barn ar fywyd yng Ngheredigion i helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac o ran darparu gwasanaethau.

04/09/2024


Cyngor yn cymeradwyo cynnal proses ymgynghori ar gyfer codi tâl am barcio ar bromenâd Aberystwyth

Mewn cyfarfod Cabinet Ceredigion a gynhaliwyd ar ddydd Mawrth 03 Medi 2024, cytunodd y Cabinet i gefnogi cynnal proses ymgynghori ar y cynigion a gyflwynwyd ynghylch codi tâl am barcio ar hyd rhannau o bromenâd Aberystwyth.

04/09/2024


Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu adroddiad arolygu rhagorol gan Estyn

Mae Estyn, arolygiaeth ei fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yn Nghymru wedi dyfarnu adroddiad cadarnhaol iawn i Gyngor Sir Ceredigion ar ansawdd y Gwasanaethau Addysg.

03/09/2024


Bwrsari Ieuenctid Ceredigion 2024 wedi’i wobrwyo

Mae tri person ifanc o Geredigion wedi elwa o fwrsariaeth a ddarparwyd unwaith eto eleni gan West Wales Holiday Cottages.

03/09/2024


Gofyn barn ar gynllun amddiffyn yr arfordir ar gyfer Aberystwyth

Gofynnir am farn y cyhoedd ar gynllun amddiffyn yr arfordir ar gyfer Aberystwyth.

27/08/2024


Llwyddiannau TGAU yn Ysgolion Ceredigion

Mae’r canlyniadau TGAU a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn cyrraedd safonau uchel.

22/08/2024


Sesiwn hawl i holi Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn Siambr y Cyngor

Cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Ceredigion sesiwn cwestiwn ac ateb lwyddiannus yn Siambr y Cyngor ar 12 Gorffennaf 2024. Dyma’r seithfed flwyddyn i Gyngor Ieuenctid Ceredigion gynnal digwyddiad o’r fath.

21/08/2024


Cais am farn trigolion ar Gynllun Cynefin ac Arfarniad Ardaloedd Cadwraeth

Gofynnir i drigolion a phartïon sydd â diddordeb am eu barn i helpu i lunio datblygiad yng Nghei Newydd.

21/08/2024


Ceisio barn a gwybodaeth trigolion am ardal cadwraeth

Gofynnir i drigolion a phartïon sydd â diddordeb am eu mewnbwn i lywio Cynllun Arfarnu a Rheoli Ardal Gadwraeth Llansanffried.

20/08/2024


Rali Ceredigion 2024: Ymgysylltu â’r Gymuned yn Dwyn Ysbryd y Rali i Ganolbarth a Gorllewin Cymru

Nid digwyddiad chwaraeon modur yn unig yw JDS Machinery Rali Ceredigion; mae’n ddathliad o gymuned, addysg a chynaliadwyedd. Yn ystod y cyfnod cyn penwythnos y rali ar 30 Awst i 01 Medi 2024, mae trefnwyr y rali wedi bod yn ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau i feithrin ymdeimlad o gyffro a chynnwys pobl.

19/08/2024


Cystadleuaeth ciciau pêl-droed i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024

Cynhaliwyd Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru eleni rhwng 23 a 30 Mehefin 2024. Roedd yn gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth Gwaith Ieuenctid ledled Cymru.

19/08/2024


Angen i’r gymuned gyd-weithio er mwyn trawsnewid dyfodol technoleg Aberteifi, Llandysul, a Maesycrugiau

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i fod yn un o’r siroedd gwledig sydd a’r cyswllt gorau yn y DU, gyda'r nod o wella pob math o gysylltedd sefydlog a symudol er mwyn cefnogi twf busnes, yr economi, ansawdd bywyd trigolion, twristiaeth a'r amgylchedd.

19/08/2024


Llwyddiannau Safon Uwch yn ysgolion Ceredigion

Mae’r canlyniadau Safon Uwch a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion, unwaith eto, yn cyrraedd safonau uchel.

15/08/2024


Sioe Deithiol Haf gyntaf Ceredigion yn llwyddiant mawr

Daeth dros 400 o bobl ifanc, plant a theuluoedd ledled y sir i Sioe Deithiol Haf gyntaf Cyngor Sir Ceredigion yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth ar 26 Gorffennaf 2024.

13/08/2024


Teyrngedau i Gynghorydd a cyn-Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion

Mynegwyd cydymdeimladau dwysaf yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Paul Hinge.

12/08/2024


Prosiect gardd Dysgu Bro yn hau hadau rhifedd a lles

Mae Dysgu Bro Ceredigion sy’n ddarparwr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, wedi partneru gydag Ysbyty Dydd Gorwelion yn Aberystwyth i gynnal sesiynau rhifedd ochr yn ochr â’u grŵp garddio sydd eisioes wedi’i sefydlu.

08/08/2024


Crwydro Ceredigion: cyfleoedd marchogaeth a beicio ar draws y Sir

Mae Ceredigion, gyda'i arfordir a'i chefn gwlad ysblennydd, wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i gerddwyr ers amser maith, ond mae llawer o lwybrau sydd hefyd yn addas ar gyfer marchogaeth a beicio.

08/08/2024



Cyfle i rannu eich barn ar Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Ceredigion

Gofynnir i breswylwyr rannu eu sylwadau ar Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg 2024-2029 Ceredigion.

30/07/2024


Dathlu Llwyddiannau Chwaraeon Ceredigion yng Ngwobrau Chwaraeon 2024

Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Ceredigion 2024 ddydd Gwener, 05 Gorffennaf 2024 yn Swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Gyngor Chwaraeon Ceredigion mewn partneriaeth â Ceredigion Actif, yn dathlu llwyddiannau chwaraeon eithriadol pobl y Sir a’r rhai sy’n eu cefnogi.

26/07/2024


Cered ar y Prom ’24

Dewch i fwynhau prynhawn llawn adloniant Cymraeg yn Bandstand Aberystwyth ddydd Mercher 31 Gorffennaf gyda digwyddiad arbennig sydd wedi ei drefnu gan Cered: Menter Iaith Ceredigion.

26/07/2024


Cydnabod gwaith Effeithlonrwydd Ynni Ceredigion yn Seremoni Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Cymru

Llwyddodd Cyngor Sir Ceredigion i guro cystadleuaeth gref trwy ennill categori Corff Rhanbarthol y Flwyddyn Cyngor/Awdurdod Lleol yng Ngwobrau Effeithlonrwydd Ynni Cymru 2024, a gynhaliwyd yng ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd ddydd Gwener 5 Gorffennaf 2024. Noddwyd y wobr hon gan Improveasy.

25/07/2024


Ffenest gyllido ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ yn agor

Mae Partneriaeth Natur Ceredigion wedi lansio ei chynllun grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Yng nghyfarfod chwarterol Partneriaeth Natur Ceredigion ddydd Gwener 19 Gorffennaf yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llanerchaeron, cyhoeddodd y Bartneriaeth Natur Leol fod ganddynt £350,000 i’w ddosbarthu. Mae’r cynllun nawr yn gwahodd ceisiadau ar gyfer prosiectau gwerth hyd at £50,000 i wneud cais am gyllid cyfalaf.

25/07/2024


Dathlu entrepreneuriaid ifanc Ceredigion: y lle delfrydol i fyw a llwyddo

Ar faes y Sioe Frenhinol ar brynhawn ddydd Mercher 24 Gorffennaf, roedd panel o entrepreneuriaid ifanc o Geredigion yn trafod eu huchelgeisiau o dan arweiniad y Cadeirydd Endaf Griffiths.

24/07/2024


Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal trafodaeth arloesol ar rôl Hydrogen mewn amaethyddiaeth yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru

Ar ddydd Mawrth 23ain o Orffennaf, 2024 cyflwynodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion sef y Cynghorydd Bryan Davies, banel o arbenigwyr yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru i drafod y cyfleoedd a'r opsiynau presennol ynghylch y defnydd o hydrogen yn y dyfodol fel tanwydd mewn amaethyddiaeth a meysydd eraill.

23/07/2024


Cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth y DU i dyfu economi Canolbarth Cymru

Ar faes Sioe Frenhinol Cymru ar ddydd Llun yr 22ain o Orffennaf gwnaeth y Fonesig Nia Griffith DBE AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru, gyfarfod â'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, i drafod y cynnydd a wneir wrth dyfu economi Canolbarth Cymru.

22/07/2024


Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn Datgelu Diweddariad i’w Chynllun Cyflogaeth a Sgiliau yn y Sioe

Ar 22 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru, datgelodd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (PSRh) Canolbarth Cymru ei diweddariad i Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2022-2025. Mae’n rhoi sylw i anghenion cyflogaeth a sgiliau y rhanbarth sy’n esblygu, gan adlewyrchu twf sectorau a galwadau economaidd.

22/07/2024


Cyngor Sir Ceredigion yn lansio sioeau teithiol yr haf gyda gweithgareddau am ddim i blant a theuluoedd

Yr ystod haf eleni, bydd tîmau amrywiol o Gyngor Sir Ceredigion yn darparu gweithgareddau haf rhad ac am ddim i blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd mewn tri lleoliad o fewn Ceredigion gyda chymorth ariannol gan Cynnal Y Cardi.

22/07/2024


Arloesedd yn economi canolbarth Cymru

Cynhaliwyd digwyddiad ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Llun 22 Gorffennaf. Amlygodd y digwyddiad bwysigrwydd arloesi i economi'r Canolbarth.

22/07/2024


Croeso i’r Sioe Frenhinol

Cynhaliwyd digwyddiad ‘Croeso i’r sioe’ brynhawn ddydd Llun, 22 Gorffennaf ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, gan mai Ceredigion yw’r Sir nawdd eleni.

22/07/2024


Dirwyo ffarmwr am beidio â glynu at reoliadau cadw gwartheg

Ar ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2024, yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth, pasiodd yr Ynadon ddedfryd ar Mr. Gary Davies, o Bercoed Uchaf, Bangor Teifi, Llandysul.

19/07/2024


Gwahodd tendrau ar gyfer Cylch Caron

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 17 Gorffennaf 2024, gwahoddir tendrau am Bartner Cyflawni a fydd yn gweithio gyda'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd i ddarparu canolfan iechyd, gofal cymdeithasol a thai newydd integredig yn Nhregaron, Cylch Caron. Disgwylir y bydd y Partner Cyflawni yn tendro contract dylunio ac adeiladu yn ystod 2025.

18/07/2024


Prosiect Cynllun Gohebwyr Ceredigion

Mae Cered: Menter Iaith Ceredigion, mewn partneriaeth â’r orsaf radio Cymru Sport, wedi cydweithio ar brosiect Cynllun Gohebwyr Ifanc Ceredigion.

18/07/2024


Cynigiodd un o drigolion Aberystwyth swydd yn dilyn Cyfle Gwaith Tâl

Cynigiwyd cyflogaeth yn y diwydiant adeiladu i Harvey, yn dilyn chymorth gan Dîm Cymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion.

18/07/2024


Rali Ceredigion 2024: Sêr Ewropeaidd yn ymuno ar gyfer digwyddiad chwaraeon modur sy'n cwmpasu Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys

Bydd Pencampwriaeth Ralïo Ewropeaidd FIA yn dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf mewn 28 mlynedd wrth i JDS Machinery Rali Ceredigion ddychwelyd eleni gyda llwybr newydd cyffrous sy'n cwmpasu tirluniau godidog Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys.

18/07/2024


Rhannwch eich barn ar y system bleidleisio yn etholiadau Cyngor Sir Ceredigion

Mae cyfle i breswylwyr rhannu eu barn ar y system pleidleisio yn etholiadau Cyngor Sir Ceredigion.

17/07/2024


Cyngor Ysgol Rhydypennau wedi lansio “diwrnod di-ynni” yn yr ysgol

I godi ymwybyddiaeth o effaith eu cymuned ar yr amgylchedd, gwnaeth Cynghorwyr Ysgol Rhydypennau, Bow Street, datblygu syniad gwreiddiol.

17/07/2024


Agoriad cae pob-tywydd Canolfan Hamdden Plascrug

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch iawn o gyhoeddi bod y cae pob-tywydd newydd ger Canolfan Hamdden Plascrug wedi'i gwblhau ac ar agor i’w ddefnyddio. Mae'r cyfleuster yma, sydd o'r radd flaenaf, nawr ar gael i'w ddefnyddio gan bawb yn y gymuned.

17/07/2024


Dewch i ymweld â ni yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru

Mae croeso cynnes i bawb yn ein stondin ar faes y Sioe Frenhinol wythnos nesaf (stondin 477-E ar y map).

16/07/2024


Grŵp Cynghori Economaidd yn Cydweithio i roi Hwb i Ddatblygu Rhanbarthol

Yn ddiweddar, cyfarfu aelodau presennol ac aelodau newydd Grŵp Cynghori Economaidd (GCE) Tyfu Canolbarth Cymru am y tro cyntaf gydag Arweinwyr cynghorau Sir Ceredigion a Phowys yng nghanolfan ymwelwyr Cwm Elan i drafod mentrau strategol Bargen Twf Canolbarth Cymru a chydweithio ar ddatblygu twf economaidd y rhanbarth.

15/07/2024


Dyn o Geredigion i gael ei ddedfrydu am dorri Nodau Masnach a gwerthu DVDs ffug

Yn dilyn ymchwiliad cymhleth gan Dîm Safonau Masnach Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion, gyda chefnogaeth tîm cyfreithiol y Cyngor, ymddangosodd David R Thomas, 47, o Sarnau Ceredigion yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 05 Gorffennaf 2024, a phlediodd yn euog i droseddau nod masnach.

11/07/2024


Dathlwch ryfeddodau bywyd gwyllt Waunfawr: digwyddiad rhad ac am ddim i anrhydeddu Biosffer Dyfi UNESCO

Mae croeso cynnes i bawb i ddigwyddiad rhad ac am ddim Rhyfeddodau Bywyd Gwyllt Waunfawr, yn Neuadd Gymunedol Waunfawr ar ddydd Gwener 12 Gorffennaf rhwng 17:00 a 19:00.

11/07/2024


Hafan y Waun i ddarparu cefnogaeth yn ystod atgyweiriadau i do'r ysbyty

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion i ddarparu gofal i gleifion oherwydd bod Ward Meurig yn Ysbyty Bronglais wedi cau dros dro tra bod atgyweiriadau brys yn cael eu gwneud i do'r ward.

11/07/2024


Etholwyd Ben Lake yn Aelod Seneddol etholaeth Ceredigion Preseli

Yr Aelod Seneddol ar gyfer etholaeth Ceredigion Preseli yw Ben Lake, ar ran Plaid Cymru.

05/07/2024


Atgoffa pleidleiswyr i ddod a dogfen adnabod â llun i bleidleisio ddydd Iau

Cynhelir Etholiad Senedd y Deyrnas Unedig ar gyfer Aelod Seneddol Etholaeth Ceredigion Preseli ar ddydd Iau 04 Gorffennaf 2024.

01/07/2024


Cyngor Sir Ceredigion yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024

Cynhelir Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni rhwng 23 a 30 Mehefin 2024. Mae’n rhoi’r cyfle i ni ddathlu straeon cadarnhaol a’n llwyddiannau dros y 12 mis diwethaf, gan uwcholeuo’r arloesi, gwydnwch a dyfeisgarwch a welwyd gan y sector yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

26/06/2024