Rheoli Carbon
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydnabod arwyddocâd newid hinsawdd a’r effaith hirdymor y bydd yn ei gael ar gymunedau ac ar yr amgylchedd.
Fel sefydliad ‘cyfrifol’, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i leihau ei ôl traed carbon, ac fe fydd hyn o fudd i’r Awdurdod ac i’r gymuned ehangach drwy leihau allyriadau CO2 yn ogystal â gwneud arbedion o safbwynt cost ynni.