Skip to main content

Ceredigion County Council website

Canllaw Fusnesau Bwyd

Mae nifer o adnoddau sy'n ymwneud â diogelwch bwyd wedi eu rhestru isod. Dyma'r adnoddau y mae nifer o bobl yn gofyn amdanynt.


Gwybodaeth ynghylch Hylendid Bwyd

Mae nifer o adnoddau ar gael ar-lein sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth am sut i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hylendid bwyd, yn arbennig www.food.gov.uk.  Gallwch gael cyngor am bob pwnc sy'n ymwneud ag hylendid ar y wefan hon, a gallwch lawrlwytho copïau newydd o'r pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell.


Cofrestru Busnes Bwyd

Rhaid i’r sawl sy’n rhedeg busnes bwyd gofrestru’r busnes gyda’r awdurdod perthnasol 28 diwrnod cyn agor. I gofrestru busnes bwyd, defnyddiwch y ddolen ganlynol:

Cofrestru Busnes Bwyd

Ar sail y gweithgareddau a gyflawnir, mae gofyn bod rhai sefydliadau yn cael eu cymeradwyo yn hytrach na'u cofrestru. Os nad ydych yn sicr a fyddai unrhyw agwedd ar eich gweithrediadau bwyd yn gofyn bod eich sefydliad yn cael ei gymeradwyo, cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Bwyd ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.


Rheoli Diogelwch Bwyd

O 1 Ionawr 2006, daeth Rheoliadau Hylendid Bwyd newydd y Gymuned Ewropeaidd yn lle'r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd Cyffredinol) 1995, sydd bellach wedi eu diddymu. Mae'r prif newid yn ymwneud â rheoli diogelwch bwyd, a bydd angen rhoi'r trefniadau ar ffurf ddogfennol er mwyn sicrhau bod y bwyd a werthir i gwsmeriaid yn ddiogel.

Erbyn hyn, mae gofyniad cyfreithiol ar bob busnes bwyd i ddarparu'r dogfennau a'r cofnodion priodol sy'n dangos sut y gweithredir egwyddorion HACCP.

Datblygwyd nifer o becynnau sy'n cynorthwyo staff i gydymffurfio â'r Rheoliadau uchod. Gallwch glicio yma i gael eglurhad ynghylch HACCP. Fel arall dilynwch y dolenni gyferbyn i gael rhagor o esiamplau o Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd.


Hyfforddiant

Mae'n rhaid i fusnesau bwyd sicrhau bod pob aelod o staff sy'n trin bwyd yn cael eu goruchwylio a'i bod yn cael cyfarwyddyd neu/a hyfforddiant mewn hylendid bwyd mewn modd sy'n briodol i'r gwaith y maent yn ei wneud.

Mae gwefan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd yn rhoi gwybodaeth fanwl am yr hyfforddiant hylendid bwyd sydd ar gael a cheir cronfa ddata ar y wefan sy'n cynnwys manylion am gwmnïau hyfforddi sy'n cynnig cyrsiau hyfforddi.

Fel arall, defnyddiwch y ddolen gyferbyn i gael gwybodaeth am ddarparwyr hyfforddiant yn lleol.


Arolygiadau Cyfraith Bwyd a'ch Busnes

Os ydych yn rhedeg busnes sy'n gwneud neu'n paratoi bwyd, caiff y busnes ei arolygu er mwyn sicrhau eich bod yn dilyn cyfraith bwyd.

Os yw'ch busnes wedi ei leoli yn ardal yr Awdurdod, bydd yr arolygwyr yn swyddogion gorfodi o Gyngor Sir Ceredigion.

Mae'r gwefan hwn yn egluro'r hyn y gallai arolygiadau ei gynnwys a'r camau y gall arolygwyr eu cymryd os gwelant broblem yn eich busnes.

Gellir darllen y tudalen we drwy glicio yma: Arolygiadau diogelwch bwyd a chamau gorfodi