Nadolig 2024
Bydd gwasanaethau'r Cyngor yn cau am 3yp ar 24 Rhagfyr a byddant ar gau ar 25 a 26 Rhagfyr.
Os ydych angen cysylltu â’r Cyngor ar frys yn ystod y cyfnod hwn, ffoniwch:
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (gan gynnwys asedau ac eiddo'r Cyngor, ond eithrio tai):
Gogledd: 01970 625277
De: 01239 851604
Gwasanaethau Cymdeithasol:
0300 4563554
Cymorth Ariannol a Chymorth Aelwydydd
Rhagor o wybodaeth ar y dudalen Cymorth Costau Byw.
Tudalennau Poblogaidd
Newyddion a Digwyddiadau
Cymorth Costau Byw
Cymorth Costau BywLlwybr Arfordir Ceredigion
Llwybr Arfordir CymruYmgysylltu ac Ymgynghoriadau
Ymgysylltu ac YmgynghoriadauNewyddion
Cronfa Grant Cymunedol Ceredigion ar agor ar gyfer ceisiadau
Anogir grwpiau cymunedol, eglwysi a chapeli, mudiadau gwirfoddol a dielw sy'n dymuno gwella a chynyddu'r ystod o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleoedd yng Ngheredigion i wneud cais i Gronfa Grant Cymunedol Ceredigion. Mae grantiau ar gael tuag at bethau fel prynu a datblygu tir, prynu adeiladau, prynu offer ac uwchraddio cyfleusterau presennol.
23/12/2024
Dangosfwrdd newydd i fonitro maethynnau yn trawsnewid y gwaith o ddiogelu Afon Teifi
Dan arweiniad Cyngor Sir Ceredigion ac mewn cydweithrediad â Bwrdd Rheoli Maethynnau Gorllewin Cymru, mae prosiect monitro Ansawdd Dŵr afon Teifi wedi dadorchuddio’i ddangosfwrdd arloesol ar gyfer rheoli maethynnau. Dyma’r un cyntaf o’i fath ac mae nawr yn fyw ar wefan y Cyngor.
19/12/2024
Busnes Ceredigion yn pledio'n euog i naw trosedd hylendid bwyd
Plediodd Mrs Sheena Thomas a Mr Eifion Thomas o Olwg y Môr, Wauntrefalau, Tanygroes, Aberteifi, yn euog gerbron Ynadon yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth ar 12 Tachwedd 2024 i naw trosedd hylendid bwyd. Cafodd yr achos ei gyflwyno gan Dîm Amddiffyn y Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.
19/12/2024
Lansio Sefydliad Rheoli Clwstwr newydd i yrru arloesedd technoleg amaeth a thechnoleg bwyd ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru
Mae Tyfu Canolbarth Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru, M-SParc ac ArloesiAber, yn falch o gyhoeddi lansiad swyddogol y Sefydliad Rheoli Clwstwr (SRhC) i ysgogi arloesedd technoleg amaeth a thechnoleg bwyd ledled Canolbarth a Gogledd Cymru.
18/12/2024