Theatr Felinfach
Prif waith Theatr Felinfach yw hwyluso a chynnal cyfleoedd creadigol sy’n cynnig mynediad a llwybr gydol oes i ddiwylliant a chelfyddyd Cymru a’r byd, trwy ddatblygu rhaglenni cyfranogi i greu ac i ddathlu creadigrwydd fel rhan naturiol a greddfol o fywyd a llesiant unigolion a chymunedau.
Rydym yn cynllunio a darparu cyfleoedd cyfranogi creadigol, celfyddydol sy’n cyfrannu at lesiant, cydlyniad cymdeithasol, hunan hyder, hybu hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn. Rydym am sicrhau drws agored, sicrhau ecwiti mewn cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion Ceredigion, mewn ardal lle mai mynediad at wasanaethau yn un o brif ffactorau o ddifreintedd.
Yn ogystal â bod yn theatr gymunedol, mae’r theatr 242 sedd hefyd yn leoliad i lwyfannu digwyddiadau a chynyrchiadau teithiol, proffesiynol a gwaith cymunedol. Cyhoeddir rhaglen ddigwyddiadau bob tymor ac maent hefyd i’w gweld ar theatrfelinfach.cymru
Gwerthoedd Theatr Felinfach yw:
- Cymuned
- Creadigrwydd
- Yr Iaith Gymraeg a’i Diwylliant
- Ehangu Mynediad
- Dysgu Gydol Oes
- Lles a Llawenydd
theatrfelinfach.cymru / 01570 470697 / Facebook / Instagram / X