Rolau a Chyfrifoldebau
Pam dod yn Llywodraethwr?
Mae Llywodraethwyr yn gwneud cyfraniad cadarnhaol a buddiol tuag at helpu Cyrff Llywodraethu i fod yn fwy effeithiol gan arwain at wella ysgolion. Mae hefyd yn caniatáu i Lywodraethwyr ddefnyddio eu sgiliau proffesiynol mewn cyd-destun gwahanol ac i ennill profiadau ar lefel eang.
Mae Cyrff Llywodraethu yn dwyn ynghyd ac yn defnyddio sgiliau a phrofiadau pobl o sectorau a diwydiannau amrywiol. Mae’r sgiliau proffesiynol y gallai Cyrff Llywodraethu eu cael yn werthfawr yn cynnwys rheolaeth ariannol a chyfrifyddiaeth; rheoli newid sefydliadol; y gyfraith; adnoddau dynol; rheoli eiddo ac ystadau; gwasanaethau caffael a chontractio; rheoli prosiectau; cyfleoedd cyfartal; diogelu a gofal; rheoli risg; iechyd a diogelwch; marchnata a chysylltiadau cyhoeddus; yn ogystal â TGCh.
Mae dod yn Llywodraethwr gwirfoddol yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc ac yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.
Nid oes angen profiad neu ddealltwriaeth flaenorol o addysg i fod yn Llywodraethwr oherwydd darperir hyfforddiant a chefnogaeth. Yr hyn sydd ei angen yw rhywun sydd â'r sgiliau, y meddylfryd a'r amser angenrheidiol i gyfrannu.
Y manteision o fod yn Llywodraethwr:
Gall bod yn Llywodraethwr Ysgol fod yn rôl sy'n rhoi boddhad. Dyma rai manteision y mae eraill wedi'u canfod:
- gwybod eich bod yn helpu ysgolion a disgyblion
- y boddhad o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned
- ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad
- sgiliau newydd y gellir eu trosglwyddo i feysydd eraill
- ehangu gorwelion
- ffrindiau a chyfeillion newydd
- hyfforddiant a chymorth er mwyn eich helpu i gyflawni eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau
Mae’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn llywodraethwr yn cynnwys:
- ymrwymiad a diddordeb yn nyfodol ein plant a gwella deilliannau addysgol
- natur chwilfrydig i ddarllen gwaith papur, ei ddadansoddi a’i gwestiynu
- y gallu i gymhathu gwybodaeth, llunio barn a gwneud penderfyniadau
- sgiliau rhyngbersonol da a'r gallu i weithio’n rhan o dîm
- amser
- cyfrinachedd
Y dewisiadau sydd ar gael:
Mae dau lwybr yn bodoli ar gyfer dod yn Llywodraethwr:
1. Dod yn Llywodraethwr Tymor Llawn lle bydd disgwyl i chi gyflawni'r dyletswyddau llawn fel y disgrifir isod
neu
2. Dod yn Llywodraethwr Cyswllt lle byddech yn cael eich penodi i fod yn rhan o bwyllgorau neu brosiectau penodol yn y tymor byr, lle bydd eich sgiliau yn dylanwadu ar ddatrys materion. Ni fyddai disgwyl i chi fod yn bresennol ym mhob un o gyfarfodydd y Corff Llywodraethu na chyfarfodydd Pwyllgorau, nac ymgymryd â lefel y gwaith a ddisgwylir gan lywodraethwr tymor llawn.
Rôl a Chyfrifoldebau’r Corff Llywodraethu:
Mae Llywodraethwyr Ysgol yn dîm o bobl sy’n gweithio'n agos gyda'r Pennaeth i wneud penderfyniadau allweddol sy'n effeithio’n uniongyrchol ar addysg a lles y plant.
Mae pwerau a dyletswyddau corff llywodraethu yn cynnwys:
- Darparu golwg strategol – gosod y fframwaith a ddefnyddir gan y pennaeth a'r staff i redeg yr ysgol; gosod nodau ac amcanion, cytuno ar bolisïau, targedau a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni'r amcanion hyn; monitro a gwerthuso
- Gweithredu fel ffrind beirniadol – darparu cymorth a her i'r pennaeth a'r staff, mynnu gwybodaeth ac eglurhad
- Sicrhau atebolrwydd – esbonio penderfyniadau a chamau gweithredu'r corff llywodraethu i unrhyw un sydd â diddordeb cyfreithlon
Daw Llywodraethwyr ag ystod eang o sgiliau ac arbenigedd o'u bywydau proffesiynol i'r corff llywodraethu ac mae ysgolion yn elwa'n fawr o weithio gyda gwirfoddolwyr medrus. Gall llywodraethwr sy’n meddu ar wybodaeth yn ymwneud â busnes drawsnewid y ffordd y caiff ysgol ei rhedeg.
Beth a ddisgwylir gan Lywodraethwr?
Mae addysg yn ymwneud â newid pethau er gwell yn barhaus ac fel llywodraethwyr, rydych chi'n chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o sicrhau'r newidiadau hynny. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch – mae angen gwirfoddolwyr â chyfoeth o brofiadau bywyd ar ysgolion.
I fod yn llywodraethwr, rhaid i chi fod:
- yn barod ac yn gallu paratoi ar gyfer cyfarfodydd. Os na allwch baratoi ar gyfer cyfarfodydd, a'u mynychu, ni fyddwch yn gallu helpu'r ysgol yn effeithiol
- yn gallu bod yn bresennol a chymryd rhan mewn cyfarfodydd: rhaid i'r corff llywodraethu gyfarfod o leiaf unwaith y tymor, ond mae'n debyg y bydd gofyn i chi wasanaethu ar fwy nag un Pwyllgor. Mae’n amrywio pa mor aml y mae’r pwyllgorau hyn yn cyfarfod, ond nid yw'n anarferol i un Pwyllgor gyfarfod bob hanner tymor
- ar gael i fynychu cyfarfodydd a gynhelir yn gynnar fin nos yn bennaf neu yn ystod y dydd
- cymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd a gofyn cwestiynau priodol i’r Pennaeth er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn cael ei rhedeg yn strategol gywir
- monitro a gwerthuso perfformiad yr ysgol, gan ddarparu her adeiladol a chefnogol i'r Pennaeth a’r tîm sy’n arwain/rheoli’r ysgol
Ymrwymiad o ran amser:
Ar gyfer Llywodraethwr Llawn, rydym yn cynghori oddeutu 20 awr y tymor (bob 4 mis), yn aml fin nos. Ar gyfer Llywodraethwr Cyswllt, bydd hyn yn llawer llai gan y byddwch yn ymwneud â rhai materion yn unig.
Mae gan Gyrff Llywodraethu y rhyddid i drefnu eu strwythur eu hunain ond efallai y byddwch yn ymwneud â:
- darllen gwaith papur a pharatoi cwestiynau o flaen llaw cyn cyfarfodydd
- mynychu cyfarfodydd llawn o’r corff llywodraethu a/neu bwyllgorau
- ymweld â'r ysgol
- prosiectau arbennig
- recriwtio staff
- adolygu polisïau a chyllideb yr ysgol
- hyfforddiant
Cyfnod yn y Swydd:
Mae pob llywodraethwr yn gwasanaethu am gyfnod o bedair blynedd o’r adeg y caiff ei ethol neu’i benodi, ond gall ef neu hi ymddiswyddo ar unrhyw adeg trwy roi rhybudd ysgrifenedig i Glerc y Corff Llywodraethu. Gall llywodraethwr gael ei ail-ethol neu’i ail-benodi am dymor pellach. Fodd bynnag, dylai rhiant lywodraethwyr fod yn ymwybodol na allant sefyll i gael eu hail-ethol neu’u hail-benodi oni bai eu bod yn rhiant i ddisgybl sydd wedi’i gofrestru yn yr ysgol. Mae’r Awdurdod Lleol yn gofyn bod Llywodraethwyr penodol yn cael gwiriad datgelu a gwahardd (DBS) yn unol â’i bolisi.
Amser i ffwrdd o’r Gwaith:
O dan y gyfraith cyflogaeth, rhaid i gyflogwyr roi "amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith" i weithwyr sy'n llywodraethwyr ysgol er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau. Mae'n rhaid i'r gweithiwr a'r cyflogwr gytuno ar yr hyn yw “amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith”.
Peidiwch â phoeni a theimlo eich bod yn cael eich gorlethu â gofynion y rôl; bydd y cymorth a'r hyfforddiant a ddarperir yn rhoi'r ddealltwriaeth a'r hyder i chi chwarae eich rhan yn sicrhau y bydd ein hysgolion bob amser yn ymdrechu i ddarparu'r addysg orau bosibl i'n plant.
Y Camau Nesaf:
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn llywodraethwr, cwblhewch y Ffurflen Mynegi Diddordeb neu cysylltwch â ni am sgwrs. Bydd unrhyw wybodaeth y gallwch ei rhoi am eich diddordebau, eich sgiliau a'ch arbenigedd, yn ddefnyddiol dros ben. Ni ddylech gyfyngu hyn i wybodaeth am eich cyflogaeth yn unig, a dylai gynnwys gwybodaeth am unrhyw waith gwirfoddol, diddordebau ac unrhyw glybiau a chymdeithasau yr ydych yn perthyn iddynt neu wedi bod yn perthyn iddynt.