Trwydded Hebryngwr
Rhaid i blant sy’n ymwneud ag adloniant megis gweithgareddau teledu, ffilm, gwaith modelu am dâl neu chwaraeon, gael eu goruchwylio gan Hebryngwr wedi’u cymeradwyo gan y cyngor oni bai eu bod yng ngofal eu rhiant, gwarcheidwad cyfreithiol neu mewn rhai amgylchiadau, gofal athro. Caiff hyn ei reoleiddio dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1993/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.
Rôl yr Hebryngwr yw gweithredu er budd pennaf y plentyn, gan gynnwys eu hiechyd, eu lles a’u haddysg trwy gydol y perfformiad neu’r gweithgarwch. Rhaid i Hebryngwyr aros gyda’r plentyn drwy’r amser, rhaid eu bod yn gallu gweld y plentyn pan fyddant ar lwyfan, ar set neu’n perfformio. Bydd yr union ddyletswyddau tra bod y plentyn yn y man perfformio neu man y weithgarwch yn amrywio, gan ddibynnu ar y math o berfformiad neu weithgarwch dan sylw. Fodd bynnag, eu prif ddyletswyddau yw sicrhau bod y plentyn/plant yn cael eu goruchwylio mewn ffordd gywir pan na fyddant yn perfformio, a’u bod yn cael prydau digonol, cyfle i orffwys a hamddena. Yn ogystal, rhaid i Hebryngwyr sicrhau bod y cwmni neu leoliadau yn trefnu cyfleusterau newid addas, gydag ystafelloedd newid ar wahân i fechgyn a merched dros bump oed.
Gall Hebryngwr oruchwylio hyd at 12 o blant. Fodd bynnag, o ganlyniad i alwadau’r perfformiad, neu oedrannau, rhyw neu anghenion arbennig y plant, gall yr awdurdod lleol benderfynu mai dim ond am nifer lai o blant y gall Hebryngwr fod yn gyfrifol amdanynt, er mwyn sicrhau y cânt eu diogelu mewn ffordd briodol.
I wneud cais i fod yn Hebryngwr, bydd angen cyflawni’r canlynol:
- Llenwi ffurflen gais
- Bydd gofyn darparu un ffotograff maint pasbort
- Mynychu cyfweliad
- Bydd gofyn cael geirda boddhaol gan ddau ganolwr
- Tystysgrif Datgelu a Gwahardd (DBS) manylach
- Cael hyfforddiant diogelu perthnasol i hebryngwyr
Gwneud Cais am Drwydded Hebryngwr:
Dogfennau Rheoliadau a Chanllawiau:
Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015
Canllawiau Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015 (Saesneg yn unig)
Dyletswyddau a Rhwymedigaethau Cyfreithiol Hebryngwyr
Canllawiau Dyletswyddau a Rhwymedigaethau Cyfreithiol Hebryngwyr
Cadw Perfformwyr Ifanc yn Ddiogel
Canllawiau Cadw Perfformwyr Ifanc yn Ddiogel
Os bydd angen i chi siarad gyda rhywun am drwyddedau Hebryngwr, cysylltwch â’r Gwasanaeth Ysgolion ar 01545 570881.
Gellir gweld gwybodaeth bellach ar wefan y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Plant mewn Cyflogaeth ac Adloniant.