Grant Hanfodion Ysgol
Noder nad yw’r hawl i Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) yn golygu hawl i’r Grant Hanfodion Ysgol – gweler isod mewn print bras.
Mae’r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i blant a phobl ifanc sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYDd), Plant sy'n Derbyn Gofal, a'r rhai nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus o’r flwyddyn dderbyn i Flwyddyn 11. Gweler y dudalen PYDd am fanylion y meini prawf cymhwyso, dolen ar waelod y dudalen hon.
Mae cyllid o £125 ar gael i bob dysgwr cymwys ac eithrio dysgwyr Blwyddyn 7, a fydd â hawl i £200 (i adlewyrchu cost uwch dechrau yn yr ysgol uwchradd).
Pwrpas y Cynllun yw rhoi cymorth grant i deuluoedd ar incwm is i brynu darpariaethau megis:
- Gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
- Cit chwaraeon ysgol, gan gynnwys esgidiau chwaraeon;
- Cyfarpar TG: gliniadur a thabledi YN UNIG (Dylid defnyddio’r Grant Hanfodion Ysgol o dan amgylchiadau cyfyngedig yn unig, lle nad yw ysgol yn gallu benthyca offer i'r teulu)
- Gwisg grwpiau cyfoethogi, gan gynnwys, ymhlith eraill, sgowtiaid; geids; cadetiaid; crefft ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawnsio;
- Cyfarpar – ee bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu;
- Cyfarpar arbenigol ar gyfer gweithgareddau'r cwricwlwm newydd, ee dylunio a thechnoleg;
- Cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol/dysgu yn yr awyr agored – ee dillad sy'n dal dŵr.
Bydd y cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2025. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud pob ymdrech i brosesu’r holl hawlwyr presennol yn awtomatig dros yr haf, yn barod ar gyfer mis Medi.
Gall teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gwneud cais os oes ganddynt blentyn mewn addysg llawn-amser, o’r Derbyn i Flwyddyn 11.
Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys ar gyfer y grant, p'un a ydynt yn gymwys i brydau ysgol am ddim ai peidio.
Dim ond unwaith y plentyn, fesul blwyddyn ysgol, y mae gan deuluoedd hawl i wneud cais.
Bydd gan bob disgybl llawn-amser sy'n mynychu’r sector cynradd yng Ngheredigion hawl awtomatig i Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) ym mis Medi 2024.
Noder os yw’ch plentyn/plant yn mynychu’r blynyddoedd penodedig yma, ni fyddwch o reidrwydd yn deilwng i dderbyn y Grant Hanfodion Ysgol yn awtomatig. Felly os yr ydych am dderbyn y grant penodol hwn, fe fydd dal angen i chi gwblhau ffurflen gais am Brydau Ysgol am Ddim.
Os nad ydych yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim yna cwblhewch ffurflen gais am Brydau Ysgol am Ddim a bydd eich Grant Hanfodion Ysgol yn cael ei ystyried ar yr un pryd.