Partneriaeth Dysgu Cymunedol Oedolion Ceredigion
Croeso i bartneriaeth Dysgu Oedolion Ceredigion. P’un a ydych yn edrych am ddysgu sgil newydd, archwilio hobi newydd neu gysylltu ag eraill yn y gymuned, edrychwch ar y cyrsiau mae Dysgu Bro neu ein partneriaid yn cynnig mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Ceredigion.
Mae ein partneriaeth yn ymwneud a darparu cefnogaeth, amgylchedd croesawgar lle gall oedolion o bob cefndir ddod at ein gilydd i dyfu a dysgu. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sydd wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion a diddordebau ein cymunedau, o ddatblygiadau personol i sgiliau busnes, gweithdai creadigol, a phopeth rhyngddynt.
Credwn and yw Dysgu yn dod i ben ar oedran penodol - mae’n daith gydol oes. Felly, p’un a ydych yn dychwelyd i addysg ar ôl cael egwyl neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd, rydym yma i’ch cefnogi chi gyda’r adnoddau, arweiniad ac anogaeth sydd ei hangen i lwyddo. Mae croeso i bawb, ac ni allwn aros i’ch gweld yn cymryd y cam nesaf are ich taith Dysgu efo ni.
Archwiliwch ein gwefan neu cliciwch ar y ddolen isod i’n partneriaid i ddarganfod beth sydd ar gael.
Cefnogaeth ychwanegol ar gyfer dysgwyr oedolion
Mae tîm Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion yn cynnig cymorth i gyflogaeth a hunangyflogaeth drwy leihau rhwystrau a gall gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i bobl dros 16 oed sydd yn chwilio am waith ac sy’n bodloni meini prawf cymhwysedd.
Gall Gyrfa Cymru eich helpu i gynllunio eich gyrfa, paratoi i gael swydd a dod o hyd i’r prentisiaethau, cyrsiau a hyfforddiant cywir i chi a gwneud cais amdanynt. Gall ei Chwiliwr Cwrs eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs gorau i chi.
Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) yn hyrwyddo, cefnogi a chydlynu gwaith mudiadau gwirfoddol yng Ngheredigion ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng y sector gwirfoddoli a statudol sydd yn annog arfer da.
Os yw eich grŵp cymunedol lleol eisiau mynediad i gwrs, gall CAVO rhoi cyngor ar y ffordd olau ymlaen.