Skip to main content

Ceredigion County Council website

Lles a Chymorth i ddysgwr

Mae gan holl ddysgwyr Dysgu Bro fynediad at Ddarpariaeth Dysgu Cyffredinol. Gall hyn cynnwys y canlynol:

  • Creu Cynllun Dysgu Unigol ar ddechrau eich cwrs le allwch chi drafod a chofnodi unrhyw anghenion cymorth unigol.
  • Mynediad at ein Hymgynghorydd Hyfforddiant Lles a Chynhwysiant am gyngor a chyfeirio at wasanaethau cymorth ac adnoddau eraill.
  • Cefnogaeth bersonol gan eich Ymgynghorydd Hyfforddiant
  • Benthyciad am ddim o liniadur neu iPad wrth fynychu un o’n cyrsiau.

Mae’n bosib fydd angen Cymorth ychwanegol ar ein dysgwyr os nad yw ein hanghenion yn cael i ddiwallu gan y Ddarpariaeth Dysgu Gyffredinol. Gellir cynnig y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol isod i’r rhai sydd â thystiolaeth gefnogi gymwys o angen Dysgu ychwanegol:

  • Benthyciad pen darllen a geiriaduron dyslecsia am ddim
  • Mynediad at staff arbenigol i gael tystiolaeth ychwanegol i gefnogi ceisiadau ar gyfer arholiadau (nodwch, and ydyn yn cynnig asesiadau anghenion Dysgu ychwanegol fel awtistiaeth)
  • Yn anffodus, nid ydyn yn gallu cynnig cefnogaeth cynorthwyydd addysgu yn ein dosbarthiadau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â admin@dysgubro.org.uk neu ffoniwch 01970 633540 a gofynnwch i siarad â’n cydlynydd ALN.

Os ydych yn berson ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol yn gadael addysg ac yn ymuno ac addysg a hyfforddiant ôl 16, mae yna ragor o wybodaeth ar gael yma