Cofrestru a Ffyrdd o Dalu
Os nad ydych yn sicr pa un yw’r cwrs gorau i chi, ffoniwch neu e-bostiwch ni am arweiniad a gwybodaeth bellach.
I sicrhau eich lle ar y cwrs o’ch dewis, llenwch y Ffurflen Cofrestru Cwrs Ar-lein a thalu gan ddefnyddio un o’r dulliau isod.
Ni fydd unrhyw ddosbarth yn dechrau oni bai bod ganddo’r nifer gofynnol o fyfyrwyr felly cofrestrwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi. Mae ffi ar gyfer y tymor a ffi achredu gychwynnol yn daladwy wrth gofrestru.
Mae gan Ddysgu Bro sawl ffordd i chi dalu ffioedd eich cwrs:
Cerdyn debyd neu gredyd - Gallwch dalu am eich cwrs gydag unrhyw un o'r mathau canlynol o gardiau credyd/debyd (Visa, Mastercard, Switch, Solo a Visa Delta). Unwaith y bydd gennych y swm sy'n daladwy cysylltwch â'n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid (CLIC) ar 01545 570881 a dywedwch eich bod yn talu am gwrs Dysgu Bro.
Ar-lein - Er mwyn talu â cherdyn debyd neu gredyd eich hun gan ddefnyddio system talu ar-lein y cyngor - rhaid i chi gadw lle ar y cwrs yn gyntaf. Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn byddwch yn cael rhif cyfeirnod archebu a fydd yn caniatáu ichi dalu ar-lein. Ceir mynediad i'r system dalu ar y tudalen Taliad Ar-lein.
Unwaith y byddwch ar y wefan:
- dewisiwch "Presilwyr"
- yna dewisiwch "Taliad ar-lein" ac yna pwyswch y botwm “Taliad ar-lein”
- o’r gwmplen dewiswch “Arall”, cliciwch Dysgu Bro
- o’r gwymplen dewiswch “Ffioedd cwrs”
- llenwch eich enw, cyfeiriad a swm y taliad ac yn y blwch "Cyfeirnod y Taliad" teipiwch y rhif cyfeirnod archebu y byddwch wedi’i gael pan gadarnheir eich cofrestriad