Cymraeg yn Ysgolion Ceredigion
Mae gan Gyngor Sir Ceredigion bolisi pendant ar addysgu Cymraeg a Saesneg yn ei ysgolion.
Ein nod yw addysgu disgyblion i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd. Felly, bydd y disgyblion yn darganfod eu bod yn gallu cymryd rhan lawn yn y gymuned ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. Mae manylion llawn y polisi i'w gweld yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
Os ydych yn rhiant neu'n warcheidwad rydym yn eich annog chi i ystyried sut i gefnogi datblygiad eich plentyn yn yr iaith Gymraeg. Mae modd gwneud hyn mewn sawl ffordd, er enghraifft:
- annog eich plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg, dan ofal yr Urdd, y Clybiau Ffermwyr Ifanc neu eraill
- cefnogi eich plentyn i ymarfer darllen llyfrau Cymraeg
- helpu eich plentyn i ddarganfod y cyfryngau Cymraeg - ar y teledu, y radio a'r we
- os nad ydych yn gallu siarad Cymraeg, gallwch roi cynnig ar ddysgu'r iaith law yn llaw a'ch plentyn! Mae gwersi'n hwyl ac mae dysgu'r Gymraeg yn agor drysau yn gymdeithasol ac yn y byd gwaith yn ogystal. Rydym hefyd yn sefydlu mwy a mwy o ddosbarthiadau Cymraeg i'r Teulu, gwersi sydd wedi'u teilwra'n arbennig i rieni o ran yr amser a'r cynnwys
Am fwy o wybodaeth ynghylch bod yn ddwyieithog yn Ngheredigion; lawr lwythwch y llyfryn ‘Byw a Bod: One life two languages’. Bwriad y llyfryn hwn yw ateb cwestiynau, mynd i’r afael a phryderon a nodi’r manteision sy’n gysylltiedig a bod yn ddwyieithog.
Byw a Bod
Seren a Sbarc yw arwyr y Siarter Iaith sy’n annog defnydd o’r Gymraeg ar yr iard, gartref ac yn y dosbarth. Yn y llyfryn hwn, byddan nhw’n dysgu geiriau ac ymadroddion defnyddiol i chi a fydd yn eichcefnogi chi a’ch plentyn yn yr ysgol gynradd.
Cyngor Llwyodraeth Cymru ynghylch dewis Addysg Cyfrwng Cymraeg
Fel rhiant, dewis yr addysg orau i’ch plentyn fydd un o’r penderfyniadau pwysicaf fyddwch chi’n ei wneud. Mae nifer fawr o rieni yn dweud fod dewis addysg Gymraeg i’w plentyn wedi profi yn brofiad gwerth chweil i’r plentyn ac i’r teulu yn gyffredinol. Addysg cyfrwng Cymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod eich plentyn yn ddwyieithog. Mae canllaw Llywodraeth Cymru 'Eich Canllaw i Addysg Cyfrwng Cymraeg', yn anelu at ddarparu gwybodaeth a chyngor i rieni a darpar rieni am addysg cyfrwng Cymraeg a'r cynigion dwyieithrwydd cyfleoedd. Ni fydd eich plentyn yn colli'r gallu i fod yn rhugl yn ei iaith gyntaf, ond yn ennill y gallu i gyfathrebu yn llawn yn y ddwy iaith.
Yn unol â gofynion Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019, o dan Rhan 1 a Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, roedd gan Gyngor Sir Ceredigion y cyfrifoldeb i lunio a gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg y byddai’n delio’n benodol ag Addysg.
Cymeradwywyd Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg 2022- 2032 Sir Ceredigion ar 20 Gorffennaf 2022.