Cludiant Ysgol
Yn gyffredinol, cyfyngir cludiant am ddim i ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol a ddynodir gan yr AALl fel yr un sy'n gwasanethu'r ardal lle maent yn byw, ac i ddisgyblion sy'n preswylio o fewn y pellter angenrheidiol i'r ysgol.
Dyma'r pellteroedd perthnasol:-
- Disgyblion Oed Cynradd (o 5 mlwydd oed) - 2 filltir new fwy o'r Ysgol
- Disgyblion Oed Uwchradd - 3 milltir neu fwy o'r Ysgol
Caiff pellter ei fesur yn ôl y ffordd fyrraf i'w cherdded rhwng cartref ac ysgol. (O ffordd fawr a gynhelir gan y cyngor sydd agosaf at yr eiddo, i'r fynedfa ysgol agosaf sy'n arwain at safle'r ysgol)
Gall cymorth gael ei ddarparu hefyd ar gyfer disgyblion o dan amgylchiadau arbennig ar sail:-
- ysgol yn llawn
- cau'r ysgol/ail drefnu ysgol(ion)
- diogelwch
- meddygol
- datganiad o anghenion addysgol arbennig
- newid man preswylio yn ystod blywddyn olaf arholiadau
- parhau gyda chwrs astudio safon uwch nad yw ar gael yn yr ysgol a ddynodwyd
- credo grefyddol (o fewn 8 milltir i'r ysgol)
- myfyrwyr ôl-16
Sut fedraf i wneud cais?
Cludiant Ysgol / Coleg - Canllaw i Rieni, Gwarcheidwad a Dysgwyr