Sachau Tywod
Gwasanaeth gwirfoddol yw darparu sachau tywod, ac ni all Cyngor Sir Ceredigion warantu y bydd yn gallu dod â rhai i bobman lle bo angen.
Perchennog yr eiddo sy’n bennaf gyfrifol am amddiffyn yr eiddo hwnnw rhag llifogydd.
Blaenoriaethu
Mewn tywydd garw pan geir perygl mawr o lifogydd, gallwch wneud cais i Gyngor Sir Ceredigion ddod â sachau llawn tywod atoch chi.
Caiff pob cais ei ystyried a’i roi yn nhrefn blaenoriaeth yn ôl y sefyllfa ar y pryd, beth bynnag sy’n achosi’r llifogydd.
Rhoddir blaenoriaeth i’r canlynol:
- Diogelu bywydau
- Diogelu pobl agored i niwed, pobl hŷn a phobl fregus
- Diogelu seilwaith allweddol
- Diogelu cyfleusterau ac adeiladau allweddol yn y gymuned
- Diogelu busnesau ac eiddo masnachol
Os oes modd, bydd Cyngor Sir Ceredigion hefyd yn ymateb i geisiadau gan y Gwasanaethau Brys am sachau tywod i ddiogelu eiddo strategol.
Dosbarthu
Pan fydd perygl mawr o lifogydd, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud ei orau glas i ymateb i geisiadau i ddod â sachau tywod i dai pobl lle mae llifogydd ar fin digwydd. Serch hynny, ni fydd hynny’n bosibl bob amser oherwydd maint y galw a/neu’r tywydd.
Fel arfer bydd y Cyngor yn dod â sachau tywod i’r fynedfa at yr eiddo sydd agosaf i’r briffordd.
Ni chaiff aelodau o’r cyhoedd ddod i gasglu sachau llawn tywod o unrhyw un o ddepos Cyngor Sir Ceredigion.
Pan ddarperir sachau tywod, y sawl sy’n eu derbyn a fydd yn gyfrifol amdanynt o hynny ymlaen. Ni fydd Cyngor Sir Ceredigion yn atebol am ble cânt eu rhoi, nac yn gyfrifol am gasglu sachau tywod a chael gwared arnynt.
Cyngor ar Lifogydd
Fe gewch chi fwy o gyngor ar lifogydd a’r perygl llifogydd lle’r ydych chi’n byw ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am:
- Ffyrdd o ddiogelu’ch eiddo rhag llifogydd
- Lleihau’r difrod posib i’ch eiddo yn sgil llifogydd
- Offer a gwasanaethau amddiffyn rhag llifogydd
- Cofrestru gyda gwasanaeth rhybuddion Floodline