Rheoli Peryglon Llifogydd Lleol
Bu Cyngor Sir Ceredigion wastad yn gyfrifol am rai pethau sydd a wnelont â chyrsiau dŵr cyffredin o dan Ddeddf Draenio Tir 1991, ac yn y gorffennol mae wedi arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â llifogydd dŵr arwyneb.
Fodd bynnag, ar ôl nifer o lifogydd eithafol yn 2007, penodwyd Syr Michael Pitt i ganfod ffyrdd o ddeddfu’n well ar gyfer rheoli llifogydd yn effeithiol.
Cyhoeddwyd Adolygiad Pitt ym mis Mehefin 2008 (Dysgu Gwersi o Lifogydd 2007) ac roedd yn cynnwys 92 o argymhellion, gan gynnwys pymtheg o argymhellion brys ar gyfer gwella’r gwasanaeth a ddarparwyd i’r cyhoedd.
Yr argymhellion hyn yn bennaf oedd y sail ar gyfer y mesurau a gyflwynwyd yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, a thrwy hynny’r Strategaeth Genedlaethol.
Ynghyd â’r Rheoliadau Perygl Llifogydd (2009) a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2009, roedd gan Awdurdodau Lleol fwy o gyfrifoldebau o ran mynd i’r afael â pherygl llifogydd.
Mae Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 a Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 wedi newid y ffordd yr ydym yn ymdrin â llifogydd, ac felly’r gwaith o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009
O dan Reoliadau Perygl Llifogydd 2009 mae’n ofynnol i bob Cyngor wneud Asesiad Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd, gan nodi’r ardaloedd hynny lle mae pobl mewn perygl o lifogydd o ddŵr arwyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin.
Mae’r Asesiad Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd yn ymarfer sgrinio lefel uwch sy’n cyfuno gwybodaeth sydd ar gael o amrywiaeth o ffynonellau ynglŷn â llifogydd yn y gorffennol a llifogydd posib yn y dyfodol. Drwy hynny gall Cyngor Sir Ceredigion wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch perygl llifogydd lleol.
Cwblhaodd Cyngor Sir Ceredigion Asesiad Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd ym mis Mehefin 2011, ac fe’i hadolygir yn 2017.
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010
Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn diffinio awdurdodau rheoli perygl llifogydd fel ‘sefydliadau sydd â chyfrifoldeb statudol dros reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol’. Yng Ngheredigion, y rhain yw:
- Cyngor Sir Ceredigion (fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol)
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Dŵr Cymru
- Cyngor Sir Ceredigion (fel yr Awdurdod Priffyrdd)
- Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar Gynghorau Sir o ran rheoli dŵr arwyneb, ac yn pennu’n eglur eu swyddogaethau fel Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol.
Mae llunio Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd yn un o blith nifer o ddyletswyddau statudol y mae’r Ddeddf yn eu rhoi ar y Cyngor Sir, sydd hefyd yn cynnwys:
- cydymffurfio â’r Strategaeth Genedlaethol
- cydweithio gydag awdurdodau eraill
- ymchwilio i’r holl lifogydd yn ei ardal
- cadw cofrestr o strwythurau a nodweddion sy’n debygol o gael effaith ar y perygl o lifogydd
- cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy
- cyhoeddi adroddiadau S19 os ydy 10 eiddo neu fwy wedi’i gorlifo mewn un lleoliad
Mae gan Gyngor Sir Ceredigion bwerau caniataol eraill hefyd, gan gynnwys:
- pwerau i fynnu gwybodaeth am lifogydd a draenio
- pwerau i ddynodi rhai strwythurau penodol a allai gael effaith ar y perygl o lifogydd neu erydu arfordirol
- pwerau i wneud gwaith, gan gynnwys gwaith ehangach i reoli peryglon
- y gallu i achosi llifogydd neu erydu arfordirol o dan rai amgylchiadau penodol
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi llunio Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd, sy’n ategu’r Strategaeth Genedlaethol a lansiodd Llywodraeth Cymru yn 2011. Yn y strategaeth pennir pedwar amcan cyffredinol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol:
- lleihau sgîl-effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol
- codi ymwybyddiaeth ac ennyn diddordeb pobl mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol
- rhoi ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd ac achosion o erydu arfordirol
- blaenoriaethu buddsoddi yn y cymunedau mwyaf agored i niwed
Mae’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd Ceredigion yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd.
Bydd pawb yn gyfrifol am gyflawni’r amcanion hyn, gan gynnwys Cyngor Sir Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â chymunedau a pherchnogion unigol.
Mae’r gofrestr asedau ar gael i’r cyhoedd ei harchwilio ar gais.