Cynnal a Chadw Cyrsiau Dŵr
Os ydych chi’n berchen ar dir ar lan cwrs dŵr neu os oes cwrs dŵr yn rhedeg drwy’ch tir neu oddi tano, rydych yn ‘Berchennog Glannau’r Afon’.
Mae perchnogion tir, preswylwyr a busnesau sydd ag eiddo ar lan afon, nant neu ffos yn debygol o fod yn Berchnogion Glannau’r Afon, ac mae yno gyfrifoldebau’n gysylltiedig â hynny.
Os oes afon neu nant gefngefn ag unrhyw eiddo, perchennog yr eiddo hwnnw fydd perchennog glannau’r afon yn ôl pob tebyg, ac ef neu hi fydd piau’r tir hyd at ganol y cwrs dŵr. Gyda hynny daw rhai hawliau a chyfrifoldebau penodol, gan gynnwys:
Hawliau
- Derbyn llif y dŵr yn ei gyfaint a’i ansawdd naturiol, heb ymyrraeth ormodol yn hynny o beth
- Amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd o’r cwrs dŵr ac atal glannau’r cwrs dŵr ac unrhyw strwythurau gerllaw rhag erydu
Cyfrifoldebau
- Sicrhau bod y llif yn mynd heibio heb ei rwystro, ei lygru na’i wyro
- Cynnal a chadw glannau’r cwrs dŵr a’i wely (gan gynnwys unrhyw goed neu lwyni sy’n tyfu ar y glannau) ynghyd ag unrhyw amddiffynfeydd rhag llifogydd
- Bydd yn rhaid cael caniatâd y Cyngor neu Gyfoeth Naturiol Cymru cyn adeiladu strwythur newydd sy’n gorgyffwrdd â’r cwrs dŵr neu’n newid llif y dŵr
Rhoddir y cyfrifoldebau hyn ar bobl gyda’r nod o helpu i reoli perygl llifogydd a diogelu’r amgylchedd.
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau Perchnogion Glannau’r Afon yn nogfen Cyfoeth Naturiol Cymru, Canllaw i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau fel perchennog glannau afon yng Nghymru. Mae’r ddogfen honno hefyd yn rhoi cyngor ar ddod i ddeall perygl llifogydd, cyrsiau dŵr llanw, ceuffosydd, melinau, argaeau, Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2000 a’r posibilrwydd o ddynodi strwythurau penodol yn asedau rheoli perygl llifogydd.
Bydd angen i berchnogion glannau’r afon gadw’r cwrs dŵr yn rhydd o unrhyw sbwriel, gwastraff o’r ardd ac unrhyw falurion eraill boed hynny’n falurion naturiol ai peidio. Nid yw gwaredu gwastraff gwyrdd / gwastraff o’r ardd yn arfer derbyniol. Mi all hyn ledu rhywogaethau planhigion ymledol a hefyd llygru’r cwrs dŵr. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd ac y mae gwybodaeth bellach ar y gwasanaeth yma ar y dudalen Gwastraff o’r Ardd.
Mae’n hanfodol cynnal a chadw cyrsiau dŵr cyffredin a’u clirio er mwyn rheoli perygl llifogydd yn lleol, ac os na fyddwch yn sicrhau bod y cwrs dŵr yn llifo’n rhydd, a bod llifogydd yn digwydd o ganlyniad i hynny, gall Cyngor Sir Ceredigion fynnu’ch bod yn gwneud gwaith i gynnal a chadw’r cwrs dŵr a gallai gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.
Fodd bynnag, mae’n rhaid i berchennog glannau’r afon gael caniatâd y corff rheoleiddio cyn gwneud unrhyw waith mewn unrhyw gwrs dŵr neu ar y glannau, ar wahân i lanhau a chynnal a chadw yn gyffredinol (er enghraifft, drwy chwynnu neu glirio sbwriel). Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen ar Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin.
Efallai y bydd yn rhaid cael caniatâd cynllunio hefyd cyn gwneud gwaith ar gwrs dŵr, yn ogystal â chaniatâd amddiffyn rhag llifogydd a chaniatâd cwrs dŵr cyffredin. Holwch y Cyngor i gael gwybod a fydd angen caniatâd cynllunio arnoch cyn gwneud unrhyw waith; efallai y bydd gofyn ichi wneud asesiad o berygl/canlyniadau llifogydd i fynd gyda’ch cais.