Cadw Golwg ar Draethau
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn mynd ati bob blwyddyn i gynnal archwiliadau topograffig a LiDAR (Canfod a Mesur â Golau Laser) ar nifer o draethau’r sir.
Defnyddir y data yn sail ar gyfer adroddiad blynyddol sy’n rhoi crynodeb o’r modd y mae proffiliau’r traethau wedi newid ar hyd cyfnod o ddeuddeg mis. Mae’r Cyngor wedi bod yn casglu data ers tro byd bellach, sy’n golygu fod modd adnabod tueddiadau hirdymor yn y modd y mae’r traethau’n cronni ac yn erydu.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Ceredigion yn archwilio pymtheg o draethau, sef:
- Pen yr Ergyd/Aber Afon Teifi
- Aberporth
- Tresaith
- Llangrannog
- Bae’r Ceinewydd
- Llanina
- Aberaeron Traeth y De
- Aberaeron Traeth y Gogledd
- Aberarth
- Llansantffraed
- Llanrhystud
- Tan-y-bwlch
- Y Ro Fawr (De Aberystwyth)
- Rhodfa Fuddug a Glan-y-môr (Gogledd Aberystwyth)
- Y Borth
Y nod wrth gadw golwg ar y traethau yw dylanwadu ar arferion a phenderfyniadau lleol o ran rheoli’r arfordir. Wrth i bob blwyddyn fynd heibio mae swm y data’n cynyddu, sy’n ei gwneud yn haws adnabod newidiadau a thueddiadau hirdymor. Mae’n golygu bod unrhyw benderfyniadau i ymyrryd yn seiliedig ar well gwybodaeth, a hefyd bod modd ystyried gwahanol ffyrdd o ymyrryd.
Dyluniwyd cynlluniau amddiffyn yr arfordir ar Draeth y Gogledd yn Aberaeron ac yn Y Borth (Camau 1 a 2) ar sail y data a gasglwyd, sydd hefyd o fudd wrth ddylunio amddiffynfeydd i’r dyfodol yn Aberystwyth a Thraeth y De yn Aberaeron.
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru 2, gellir defnyddio’r data i lunio rhagolygon o ran y modd y bydd arfordir Ceredigion yn debygol o esblygu yn y tymor hir.
Mae dadansoddi’r data hanesyddol yng Nghynllun Rheoli’r Draethlin hefyd wedi bod yn ddefnyddiol wrth ddatblygu’r rhaglen ar gyfer cadw golwg ar draethau, ac wrth greu darlun cynhwysfawr o esblygiad y traethau hynny.