Tal-y-Bont - Taliesin
Diolch i Grant Adfer Mannau Gwyrdd Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gallu creu llwybr troed mynediad diogel o Dalybont i Daliesin.
Diolch i gymorth a chydweithrediad tirfeddianwyr lleol a Chynghorau Cymuned Ceulanmaesmawr a Llancynfelin, mae’r llwybr yn darparu llwybr diogel ar hyd yr A487 brysur, gan alluogi defnyddwyr i osgoi’r ffordd yn gyfan gwbl.
Mae'r prosiect yn cyflawni Cynlluniau Mynediad Cymunedol Talybont (a nodwyd trwy ein holiadur 'Dweud Eich Dweud' sydd i'w weld yma - Yr Arfordir a Chefn Gwlad - Cyngor Sir Ceredigion, sy'n gwella ac yn annog cyfleoedd teithio llesol gwledig.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â’r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881 a gofyn am gael siarad ag aelod o’r tîm.