Skip to main content

Ceredigion County Council website

Isod mae rhai o'r prosiectau y mae Tîm Arfordir a Chefn Gwlad Ceredigion wedi gweithio arnynt. 

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r prosiectau cysylltwch â’r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus drwy anfon e-bost at clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch am gael siarad ag aelod o’r tîm.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi fod y gwaith o osod llwybr pren pwrpasol ar hyd Afon Teifi yng Nghenarth wedi gwblhau.

 Ariannwyd y cynllun drwy rhaglen gyfalaf y Cyngor a grant gan gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru. Derbyniwyd rhodd hefyd gan Gyngor Cymuned Beulah.

Mae gwella lled ac arwyneb y llwybr wedi cynyddu mynediad i groestoriad ehangach o drigolion ac ymwelwyr ac mae’n dyst i ymrwymiad y Cyngor i dargedu cael gwared ar rwystrau i gael mynediad i gefn gwlad a chymhwyso’r egwyddorion mynediad lleiaf cyfyngol.

Mae gwirfoddolwyr lleol wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect yn y broses adeiladu gychwynnol ac wrth helpu i gynnal y llwybr pren er mwynhad cenedlaethau’r dyfodol.

Gellir hefyd gwneud rhoddion tuag at reoli a datblygu’r llwybr pren yn y dyfodol ar-lein ar y tudalen Taliad Ar-lein.

Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn £50,000 gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer 2018/19 (a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Gyngor Gweinyddu Gwirfoddol Cymru) i wneud gwelliannau yng nghyffiniau Bryngaer Pen Dinas yn Aberystwyth.

Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i helpu i gael mwy o fynediad i safle o bwysigrwydd hanesyddol (Bryngaer Pen Dinas, Gwarchodfa Natur Leol a Heneb Gofrestredig) a darparu gwell cyswllt i’r Llwybrau Beicio Ystwyth/Rheidol, Llwybr Arfordir Ceredigion a Chymru a chyfleusterau ac atyniadau lleol eraill. Bydd gwella lled ac arwyneb y llwybrau yn hwyluso mynediad i drawstoriad ehangach o bobl leol ac ymwelwyr ac yn targedu’r rhwystrau presennol at gefn gwlad.

Yn rhan o’r prosiect, yr ydym yn bwriadu ymgysylltu â thrigolion lleol er mwyn iddynt fod yn rhan o’r gwaith a fydd yn cael ei wneud; gall hyn gynnwys gwirfoddoli amser i helpu â gwaith ymarferol neu drwy ddarparu syniadau ynglŷn â sut y gellir gwella’r safle ymhellach; am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect neu ynglŷn â sut y gallwch chi gymryd rhan, anfonwch e-bost at clic@ceredigion.gov.uk   neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch i siarad ag aelod o’r tîm.

Diolch i Grant Adfer Mannau Gwyrdd Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gallu creu llwybr troed mynediad diogel o Dalybont i Daliesin. Diolch i gymorth a chydweithrediad tirfeddianwyr lleol a Chynghorau Cymuned Ceulanmaesmawr a Llancynfelin, mae’r llwybr yn darparu llwybr diogel ar hyd yr A487 brysur, gan alluogi defnyddwyr i osgoi’r ffordd yn gyfan gwbl.

Mae'r prosiect yn cyflawni Cynlluniau Mynediad Cymunedol Talybont (a nodwyd trwy ein holiadur 'Dweud Eich Dweud' sydd i'w weld yma - Yr Arfordir a Chefn Gwlad - Cyngor Sir Ceredigion   , sy'n gwella ac yn annog cyfleoedd teithio llesol gwledig. 

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â’r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881 a gofyn am gael siarad ag aelod o’r tîm.

Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn ffodus i dderbyn £50,000 o gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Cynnal y Cardi, sy’n ceisio cefnogi datblygiad economaidd Ceredigion, ac £20,000 gan Raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sef cynllun a fwriadwyd i alluogi ardaloedd o amddifadedd i wella ac adfer byd natur ar drothwy’r drws. Mae’r cyllid wedi ein galluogi i adnewyddu’r hen lwybr pren sydd wedi pydru, trwy Warchodfa Natur Cilgerran, cartref Corsydd Teifi sef un o’r safleoedd gwlyptir gorau yng Nghymru, a gosod llwybr pren mynediad aml-ddefnyddiwr diogel wedi’i wneud o blastig wedi’i ailgylchu yn ei le.

Mae Corsydd Teifi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) ac yn cynnig y cyfle i weld cyfoeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys glas y dorlan, dyfrgwn, byffalo dŵr, gïach, y gylfinir, gwiberod a math o was y neidr. Gellir dod o hyd i amrywiaeth o gynefinoedd yma hefyd gan gynnwys tir pori agored, gwrychoedd coediog, banciau llaid llanw a thrai, a thir cors. 

Mae’r gwelliannau i’r llwybr pren yn cynnig cyfle i bobl fynd allan i archwilio byd natur mewn modd mwy diogel a hygyrch.

Gellir mwynhau’r llwybr pren fel rhan o daith gylchol fer (2.9KM/1.8 milltir) drwy’r corsydd, gan roi cyfleoedd i ymweld â rhai o’r cuddfannau niferus ar hyd y ffordd a gweld rhywfaint o fywyd gwyllt.

Bob dydd, mae ein Ceidwaid Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn gwneud gwelliannau bach ond pwysig i’r rhwydwaith hawliau tramwy. Gall y rhain gynnwys newid camfeydd a phontydd peryglus, gatiau a grisiau diffygiol, clirio llystyfiant, a gosod cyfeirbwyntiau. 

Isod gweler rhai enghreifftiau o'r math o waith y mae ein Ceidwaid yn ei wneud bob dydd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch am gael siarad ag aelod o’r tîm.

Llwybr Troed 17/25, Cwmrheidol
Llwybr troed 15/15, Llanfarian

Mae carfan o wirfoddolwyr yn cynorthwyo ein Ceidwaid Hawliau Tramwy yn wythnosol i wneud gwelliannau i'r rhwydwaith. Gall gwelliannau gynnwys ailosod pontydd, camfeydd a grisiau, ynghyd â chlirio llystyfiant a gwell cyferbwyntiau.

Am ragor o wybodaeth, neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â’r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch am gael siarad ag aelod o’r tîm.

Llwybr Troed 5/34, Tre'r Ddol

Llwybr Troed 5/27/D and 5/30, Glanfred

Capel Betws Lleucy, 47/3

Aberporth newid camfeydd a phontydd