Coed, Cloddiau a Choetiroedd
Gorchmynion Cadw Coed
Mae Gorchmynion Cadw Coed yn ddogfennau sy'n diogelu’n gyfreithiol goed unigol penodol, grwpiau o goed neu goetiroedd o werth amwynder cyhoeddus. Gall Gorchymyn Cadw Coed fod yn berthnasol i un goeden, grŵp o goed, coetir neu bob coeden a bennir o fewn ardal.
Gall unrhyw goeden, beth bynnag fo'i maint, ei rhywogaeth neu’i oedran gael ei diogelu gan Orchymyn Cadw Coed. Caiff coed mewn cloddiau gael eu diogelu; fodd bynnag, ni ellir diogelu cloddiau a llwyni.
Mae'n drosedd torri, dadwreiddio, tocio, difrodi neu ddinistrio coeden sy’n dod o dan Orchymyn Cadw Coed, mae hyn yn cynnwys coed unigol, grwpiau o goed, pob coeden (sy’n tyfu cyn neu ar ôl gwneud y Gorchymyn Cadw Coed) o fewn Gorchymyn Cadw Coed coetir ac unrhyw goeden sy’n tyfu a wnaed ar adeg Gorchymyn Cadw Coed Ardal.
Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu na ellir gwneud gwaith, mae angen caniatâd gan yr awdurdod Cynllunio Lleol i wneud gwaith.
Mae'r tirfeddiannwr yn dal i fod yn gyfrifol am bob coeden a ddiogelir gan Orchymyn Cadw Coed, NID yw'r awdurdod lleol yn gyfrifol am y goeden na'r coed ac ni fydd yn cyfrannu at gost ei chynnal a’i chadw.
Yn ogystal, mae coed mewn Ardaloedd Cadwraeth hefyd yn cael eu diogelu: rhaid rhoi 42 diwrnod o rybudd i'r awdurdod lleol cyn gwneud unrhyw waith. Mae'r cyfnod hwn yn caniatáu i'r Cyngor ystyried rhoi Gorchymyn Cadw Coed ar y goeden neu'r coed yr effeithir arnynt.
Datblygu a ganiateir – Mae'n rhaid i chi wneud cais os ydych am weithio ar goeden a ddiogelir lle rydych yn gwneud gwaith datblygu lle nad oes angen caniatâd cynllunio llawn.
Cosbau
Mae gan y llysoedd yr awdurdod i ddirwyo unrhyw un sy'n difrodi coeden a ddiogelir. Mae dirwyon am ddinistrio coeden yn ddiderfyn, tra gall tocio heb awdurdod arwain at ddirwyon o hyd at £2,500. Os gwneir elw ariannol o waith anawdurdodedig, megis cynyddu gwerth eiddo drwy greu golygfa, gall y llys roi dirwy sy’n cyfateb i’r cynnydd yng ngwerth eiddo.
Ni all diffynnydd honni nad yw’n gwybod am statws gwarchodedig coeden oni bai bod y cyngor yn gyfrifol am y diffyg gwybodaeth hwnnw. Yn ogystal, efallai y bydd angen trwydded cwympo coed i gael gwared â choed o goetiroedd, coedwigoedd a chefn gwlad ehangach.
Sut i wneud cais
Ar gyfer gwaith ar Goed sy'n destun Gorchymyn Cadw Coed neu waith ar goed mewn ardal gadwraeth? Y ffordd hawsaf o wneud cais am ganiatâd yw ar-lein drwy'r porth cynllunio. Bydd cyflwyno’ch cais drwy’r porth cynllunio yn cyflymu’r broses o benderfynu ar eich cais a bydd yn arbed cost postio ac argraffu i chi. Nid oes ffi am y math hwn o gais.
Fodd bynnag, os byddai'n well gennych, gallwch lawrlwytho ac argraffu'r ffurflenni perthnasol yna eu llenwi a'u dychwelyd i'r swyddfa gynllunio. Unwaith eto, byddai'n well gennym pe bai'r ffurflenni hyn yn cael eu cyflwyno'n electronig trwy treepreservation@ceredigion.gov.uk
Sicrhewch fod eich cais wedi’i gwblhau neu ni fydd yn cael ei dderbyn gan Gyngor Sir Ceredigion, a gallai hyn achosi oedi diangen i chi. Fe'ch cynghorir i ddefnyddio'r porth cynllunio i gyflwyno'ch cais gan y bydd y gwasanaeth hwn yn dweud wrthych chi os yw unrhyw ran o'r ffurflen wedi'i llenwi'n anghywir.
- Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth
- Gorchymyn Cadwedigaeth Coed Llywodraeth Cymru
- Gwarchod Coed - Nodiadau Cais
- Ffurflen Cais Gwaith Coed
- Gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cofrestr Gorchymyn Cadwedigaeth Coed*
*Efallai na fydd y gofrestr yn rhestr gynhwysfawr cyn 2017 - Gwaith yn ymwneud â Choed sy'n Destun Gorchymyn Cadw Coed - Nodiadau Canllaw
Mae'r gwrychoedd a'r cloddiau - nifer ohonynt yn hynafol - yn nodwedd amlwg o gefn gwlad Ceredigion ac yn gynefin i fywyd gwyllt.
Maent hefyd o fudd i amaethyddiaeth am eu bod yn cynnig lloches i dda byw.
Oherwydd y pryderon am nifer y gwrychoedd a gollwyd, cyflwynwyd rheoliadau ym 1997 i reoli'r broses o waredu'r gwrychoedd. Caiff y system yma ei gweinyddu gan awdurdodau lleol.
- Gwneud cais am Hysbysiad Cael Gwared â Gwrych
- Cyfarwyddyd Gwrych - Nodiadau Cais
- Gwarchod Gwrychoedd
Noder: rhoddir y wybodaeth hon fel arweiniad yn unig nid yw'n ganllaw terfynol o'r sefyllfa gyfreithiol.