Arfordir Treftadaeth
Rhwng aberoedd y Dyfi a'r Teifi, fe ddewch o hyd i arfordir arbennig: y twyni tywod yn Ynyslas, stormdraethau, cilfachau tywodlyd a chlogwyni serth. Mae hanes morwrol cyfoethog i'r trefi a'r pentrefi hynny sydd ar hyd yr arfordir.
Mae'r arfordir yn creu delweddau bythgofiadwy, megis proffil Ynys Lochtyn a Bae Ceredigion hyd at Benrhyn Llun.
Dynodir pedair rhan o arfordir Ceredigion yn Arfordir Trefadaeth. Sefydlwyd Arfordir Treftadaeth Ceredigion yn 1982 ac mae'n cynnwys pedair rhan wahanol o'r arfordir sy'n ymestyn dros 22 o filltiroedd (35 o gilometrau):
- Borth - Clarach
- Twll Twrw - Llanrhystud
- Ceinewydd - Tresaith
- Pen-peles - Gwbert
Mae Arfordiroedd Treftadaeth yn cynnwys y rhannau gorau o'r arfordir yng Nghymru a Lloegr ac mae'n ceisio:
- nodi'r rhannau gorau o arfordir nad ydynt wedi ei datblygu
- sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod a'u rheoli
- hyrwyddo mynediad iddynt a boddhad ohonynt