Cyllideb 2024-2025
Ar 29/02/24, pennodd Cyngor Sir Ceredigion ei gyllideb ar gyfer 2024/25 ar £193.572m sydd wedi arwain at godiad o 11.1% yn Nhreth y Cyngor. Mae'r codiad hwn yn cynrychioli codiad o 10.0% ar gyfer Gwasanaethau craidd y Cyngor ac 1.1% pellach er mwyn ariannu cynnydd yn ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2024/25. Mae'r cynnydd at ddibynion y Cyngor Sir (gan gynnwys yr ardoll Tan) yn golygu bod eiddo Band D yng Ngheredigion yn talu £1,726.05 - cynnydd o £172.45 (Mae hyn yn gyfwerth a £3.32 ychwanegol yr wythnos).
Cyfrifoldeb bob Awdurdod Lleol cyfansoddol yn y rhanbarth yw’r gwaith o ariannu Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer ei weithredu, gyda phob un yn ysgwyddo cyfran gymesur yn seiliedig ar boblogaeth. Mae’r cyfraniad sydd ei angen gan Gyngor Sir Ceredigion (a elwir yn Ardoll Tân) wedi codi o £4.856m yn 2023/24 i £5.440m yn 2024/25 (a cynnydd o 12.0%). Yn wahanol i gost Plismona sy’n Braesept ac a ddangosir ar wahân ar eich bil Treth y Cyngor, mae’r Ardoll Tân yn rhan o Gyllideb £193.572m y Cyngor. Mae mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Tân ar gael yn www.mawwfire.gov.uk.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn agored mai ei Chyllideb ar gyfer 24/25 yw'r “un fwyaf cyfyng a phoenus ers datganoli”. Yn dilyn cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 07/02/24 mae Ceredigion dal ond yn derbyn cynnydd o 2.8% yn ei gyllid craidd (14eg o blith y 22 Awdurdod Lleol). Dyma felly yw Cyllideb fwyaf cyfyng Cyngor Sir Ceredigion hyd yn hyn ac mae’n waeth nag a ragwelwyd yn flaenorol.
Mae'r Cyngor hefyd yn casglu Treth y Cyngor ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys (codiad o 6.2%) a'r Cynghorau Tref a Chymuned (codiad cyfartalog o 9.1%). Yn gyffredinol, cynyddodd bil Treth y Cyngor ar gyfer eiddo band D 10.25% (mae hyn yn cyfateb i £3.76 yr wythnos yn ychwanegol ar gyfer aelwydydd Band D).
Mae Llywodraeth Cymru yn gosod Asesiad o Wariant Safonol ar gyfer Cynghorau bob blwyddyn. Mae Asesiad o Wariant Safonol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2024/25 yn £186.4m.
Mae rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf gwerth cyfanswm o £59.1m wedi’i chynllunio ar gyfer 2024/25 (£87.2m ar gyfer cyfnod y rhaglen gyfalaf aml-flwyddyn 2024/25 – 2026/27).
Cyd-Destun Y Gyllideb
Mae'r heriau ariannol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu wedi'u gosod yng nghyd-destun yr heriau economaidd cenedlaethol ehangach y mae'r Deyrnas Unedig gyfan yn eu hwynebu.
Cyfanswm y pwysau o ran costau a wynebir gan y Cyngor ar gyfer 2024/25 yw £18m, sy'n cyfateb i ffactor chwyddiant penodol i Geredigion o 10%. Mae hyn yn cymharu â chwyddiant cyffredinol o 4% (ffigur CPI Ionawr 2024). Felly bu angen dod o hyd i ddiffyg yn y gyllideb o £14m o gyfuniad o Arbedion o £7.3m yn y Gyllideb ac ystyriaethau Treth y Cyngor.
Yn gyffredinol, nid yw'r meysydd lle gwelir pwysau o ran Costau yn unigryw i Geredigion. Maent yn amrywio o Ddyfarniadau Cyflog uwch na'r arfer (a bennwyd yn genedlaethol) i chwyddiant Contractau i gynnydd yng nghostau'r ardoll Tân. Mae'r galw ar gyllidebau sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn parhau i gynyddu'n sylweddol, mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gweithwyr Gofal Cymdeithasol Cofrestredig yng Ngheredigion yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol (sydd wedi codi o £10.90 i £12.00 yr awr – cynnydd o 10.1%).
Yn dilyn penderfyniad y Cyngor Llawn ar 14/12/23 i gynyddu premiymau Treth y Cyngor y gellir eu codi ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Tymor Hir, roedd angen cydbwyso'r awydd i neilltuo holl arian premiymau Treth y Cyngor gyda sefyllfa ehangach y Gyllideb a'r gallu i leihau baich Treth y Cyngor ar holl drigolion Ceredigion. O ganlyniad, mae'r Cynllun Tai Cymunedol newydd yn parhau i fod ar gael i gefnogi preswylwyr yng Ngheredigion gyda llwybr at berchen cartref (mae rhagor o fanylion ar gael o dan y pennawd ‘Cynllun Tai Cymunedol - Cyngor Sir Ceredigion’, mae hwn yn cael ei ariannu gan 25% o arian Premiwm Treth y Cyngor. Mae'r 75% sy'n weddill o arian Premiwm Treth y Cyngor yn cynorthwyo gyda sefyllfa'r gyllideb gyffredinol er mwyn lleihau'r hyn a fyddai wedi bod yn fwy o faich o ran Treth y Cyngor ar drigolion Ceredigion.
Treth Y Cyngor
Beth yn hollol y mae elfen y Cyngor Sir o Dreth y Cyngor yn talu amdano?
Mae Treth y Cyngor yn dreth gyffredinol sy’n seiliedig ar werth eiddo ac nid yw’n gweithredu ar sail Gwasanaeth talu a defnyddio. Bydd preswylwyr yn gweld ac yn defnyddio gwahanol wasanaethau’r Cyngor ar wahanol adegau yn eu bywydau:
- Bydd hyn yn dechrau gyda chofrestru genedigaeth ac yna’n symud ymlaen i gynnwys darparu a chludo i addysg Feithrin, Cynradd ac Uwchradd ac addysg Ôl-16 - boed hynny’n addysg chweched dosbarth neu’n hyfforddiant galwedigaethol. Darperir hefyd Wasanaethau Cerdd a Gwasanaethau Ieuenctid.
- Fel oedolyn, gall hyn gynnwys defnyddio canolfannau Chwaraeon, defnyddio Llyfrgell, cerdded llwybr Arfordir Ceredigion (a hawliau tramwy cyhoeddus eraill), cofrestru i bleidleisio mewn Etholiad, cyflwyno cais Rheoliadau Cynllunio neu Adeiladu, bwyta mewn sefydliadau bwyd diogel a rheoledig, mynychu Amgueddfa neu Theatr y Cyngor, casglu eich sbwriel (ac yna ei waredu neu ei ailgylchu), defnyddio safle Gwastraff Cartref, gyrru ar Briffyrdd a Phontydd a gaiff eu cynnal a’u cadw (gan gynnwys graeanu’r ffyrdd dros y gaeaf), defnyddio gwasanaeth Bws cyhoeddus, goleuadau stryd ynghynn ar eich stryd a’r gallu i alw’r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn argyfwng.
- Yn ddiweddarach, bydd preswylydd yn elwa o brisiau tocynnau teithio rhatach, ond yn y pen draw efallai y bydd angen mynediad at wasanaethau Gofal a Chymorth (gan ddefnyddio staff gofal cymdeithasol gwerthfawr sy’n derbyn cyflog sydd o leiaf yn Gyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru). Gall hyn gynnwys cefnogaeth a chyfarpar er mwyn gallu byw’n Annibynnol, gofal yn y cartref a lle mewn Cartref Gofal Preswyl. Gall hefyd gynnwys, yn y pen draw, Gwasanaeth y Crwner o bosib a chofrestru marwolaeth.
Dadansoddiad Cyllideb
Beth mae pob Gwasanaeth yn ei gostio?
Mae’r Cyllidebau ar gyfer pob Gwasanaeth wedi’u crynhoi yn y tabl isod:
Gwasanaethau |
2024/25 Gwasanaeth Cyllidebau |
Ychwanegu |
Llai |
2024/25 Cyllideb Net y Cyngor Sir (gan gynnwys Ardollau) |
Cyswllt Cwsmeriaid, TGCh a Digidol |
6,673 |
1,228 |
(6,388) |
1,513 |
Gwasanaethau Democrataidd |
5,187 |
800 |
(3,430) |
2,557 |
Yr Economi ac Adfywio |
3,724 |
3,227 |
(4,176) |
2,775 |
Cyllid a Chaffael |
21,417 |
1,455 |
(23,649) |
(777) |
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol |
20,025 |
7,102 |
- |
27,127 |
Cyfreithiol a Llywodraethu |
1,691 |
215 |
(1,259) |
647 |
Pobl a Threfniadaeth |
2,413 |
310 |
(2,024) |
699 |
Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd |
2,518 |
687 |
(175) |
3,030 |
Porth Cymorth Cynnar |
4,066 |
4,669 |
- |
8,735 |
Porth Cynnal |
38,720 |
3,690 |
- |
42,410 |
Porth Gofal |
17,537 |
3,139 |
- |
20,676 |
Ysgol a Diwylliant |
58,068 |
14,227 |
- |
72,295 |
Grŵp Arweiniol |
5,454 |
352 |
- |
5,806 |
Ardollau, Premiwm Treth y Cyngor a Chronfeydd Wrth Gefn |
6,079 |
- |
- |
6,079 |
193,572 |
41,101 |
(41,101) |
193,572 |
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Atodiad 3 adroddiad y Gyllideb a ystyriwyd gan y Cyngor Llawn ar 29/02/24 - Agenda Cyngor ar Ddydd Iau, 29ain Chwefror, 2024. Gellir dangos y costau uniongyrchol y gellir eu rheoli o ran Gwasanaethau'r Cyngor (ac eithrio unrhyw ailddyrannu o ran y Gwasanaethau Cymorth neu daliadau cyfalaf megis Dibrisio) ar gyfer 2024/25 fel hyn:
Bydd 75% o gyllideb y Cyngor yn cael ei wario ar Ysgolion a Dysgu Gydol Oes, Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gydol Oes, a Phriffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol. Ar ôl darparu ar gyfer costau sefydlog (ar y cyfan) eraill (sef Lwfansau’r Aelodau, Ardoll yr Awdurdod Tân, Costau Ariannu Cyfalaf a Chynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor), mae hyn yn gadael dim ond 14% (£27.2m) ar gyfer holl Wasanaethau eraill y Cyngor.
Gwneir Addasiadau ar gyfer y rhain:
* yn cynnwys Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir (o’r Grŵp Arweiniol), Ffioedd Cyfreithiol (o Gyfreithiol a Llywodraethu) a Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (o Bobl a Threfniadaeth)
** yn cynnwys PFI Penweddig (o Gyllid a Chaffael)
Band |
Gwerth Annedd o |
Gwerth Annedd hyd at |
Rhan o'r Dreth Sylfaenol |
Cyngor Ceredigion |
Heddlu Dyfed-Powys |
£ |
£ |
£ c |
£ c |
£ c | £ c |
A |
- |
44,000 |
6ed/9 |
1,150.70 |
221.35 |
B |
44,001 |
65,000 |
7fed/9 |
1,342.48 |
258.25 |
C |
65,001 |
91,000 |
8fed/9 |
1,534.27 |
295.14 |
D |
91,001 |
123,000 |
9fed/9 |
1,726.05 |
332.03 |
E |
123,001 |
162,000 |
11eg/9 |
2,109.62 |
405.81 |
F |
162,001 |
223,000 |
13eg/9 |
2,493.18 |
479.60 |
G |
223,001 |
324,000 |
15fed/9 |
2,876.75 |
553.38 |
H |
324,001 |
424,000 |
18fed/9 |
3,452.10 |
664.06 |
I |
424,001 |
- |
21ain/9 |
4,027.45 |
774.74 |
Mae eitemau arbennig ychwanegol yn ddyledus i archebiannau Cynghorau Tref/Cymuned fel a gwelir ar y rhestr isod:
EITEMAU ARBENNIG TRETH Y CYNGOR 2024-2025 |
|||
Tref neu Gymuned |
Archebiant 2023-2024 | Archebiant 2024-2025 | Treth y Cyngor (Band D) |
£ c |
£ c |
£ c |
|
Aberystwyth |
578,990.00 |
635,275.00 |
151.58 |
Aberaeron |
42,592.00 |
46,824.00 |
58.24 |
Aberteifi |
85,735.05 |
90,022.00 |
47.96 |
Llanbedr Pont Steffan |
39,000.00 |
43,000.00 |
42.64 |
Cei Newydd |
16,876.29 |
38,260.00 |
45.00 |
Borth |
23,467.00 |
34,599.69 |
43.80 |
Ceulanamaesmawr |
16,000.00 |
16,000.00 |
36.56 |
Blaenrheidol |
4,525.00 |
4,706.00 |
22.43 |
Genau'r Glyn |
9,500.00 |
10,000.00 |
27.22 |
Llanbadarn Fawr |
43,281.00 |
49,281.00 |
55.17 |
Llangynfelin |
7,000.00 |
8,250.00 |
29.48 |
Llanfarian |
14,700.00 |
22,700.00 |
29.30 |
Llangwyryfon |
3,668.00 |
4,500.00 |
17.17 |
Llanilar |
7,000.00 |
7,200.00 |
14.77 |
Llanrhystud |
8,600.00 |
11,600.00 |
24.98 |
Melindwr |
7,000.00 |
7,500.00 |
13.94 |
Pontarfynach |
3,500.00 |
3,500.00 |
13.69 |
Tirymynach |
19,500.00 |
19,500.00 |
23.64 |
Trawsgoed |
5,200.00 |
5,200.00 |
11.36 |
Trefeurig |
13,000.00 |
18,000.00 |
22.41 |
Faenor |
33,427.00 |
33,812.00 |
40.84 |
Ysgubor-y-Coed |
3,500.00 |
3,850.00 |
22.92 |
Llanddewi Brefi |
9,500.00 |
14,400.00 |
46.83 |
Llangeitho |
5,500.00 |
5,500.00 |
14.62 |
Lledrod |
2,321.00 |
2,553.00 |
7.93 |
Nantcwnlle |
2,200.00 |
2,500.00 |
6.56 |
Tregaron |
22,000.00 |
25,000.00 |
44.40 |
Ysbyty Ystwyth |
3,000.00 |
2,500.00 |
11.49 |
Ystrad Fflur |
7,213.00 |
7,574.00 |
23.89 |
Ystrad Meurig |
2,184.52 |
2,410.66 |
14.00 |
Ciliau Aeron |
6,000.00 |
6,000.00 |
13.89 |
Henfynyw |
7,000.00 |
7,000.00 |
13.25 |
Llanarth |
9,481.50 |
10,903.73 |
14.54 |
Llandysiliogogo |
10,267.92 |
12,834.90 |
22.69 |
Llainfair Clydogau |
3,500.00 |
7,000.00 |
23.03 |
Llanfihangel Ystrad |
9,950.00 |
9,950.00 |
14.44 |
Llangybi |
4,000.00 |
4,600.00 |
15.96 |
Llanllwchaearn |
11,340.00 |
11,566.80 |
22.84 |
Llansantffraed |
24,000.00 |
28,000.00 |
43.77 |
Llanwenog |
15,000.00 |
15,000.00 |
25.08 |
Llanwnnen |
3,465.00 |
3,568.95 |
16.20 |
Dyffryn Arth |
14,720.00 |
14,550.00 |
24.12 |
Aberporth |
41,100.00 |
46,298.66 |
39.32 |
Beulah |
25,000.00 |
25,000.00 |
27.98 |
Llandyfriog |
15,000.00 |
26,000.00 |
30.10 |
Llandysul |
47,758.48 |
50,737.14 |
39.72 |
Llangoedmor |
30,000.00 |
32,400.00 |
53.45 |
Llangrannog |
10,500.00 |
10,500.00 |
23.16 |
Penbryn |
12,000.00 |
12,500.00 |
16.00 |
Troedyraur |
11,000.00 |
12,000.00 |
17.48 |
Y Ferwig |
24,600.00 |
24,600.00 |
36.47 |
Cyfanswm |
1,375,662.76 |
1,547,027.53 |