Skip to main content

Ceredigion County Council website

Egluro Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ddogfennau cyfreithiol a wneir gan Awdurdodau Priffyrdd sy’n rhoi’r sail gyfreithiol i orfodi gwaharddiadau a chyfyngiadau ar briffyrdd cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cyfyngiadau ar aros a llwytho (llinellau melyn, cyfyngu ar aros mewn cilfannau, cilfannau llwytho, parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas ac ati)
  • Strydoedd unffordd
  • Gwaharddiadau ar droi
  • Terfynau cyflymder
  • Cyfyngiadau ar bwysau, hyd neu led

Mae proses gyfreithiol benodedig y mae’n rhaid i’r Awdurdod ei dilyn wrth gyflwyno Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, yn unol â phwerau cyfreithiol galluogi a geir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd), yn cael ei nodi yn Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 (diwygiedig).

Fel rheol, mae’r Cyngor ond yn gyfrifol am wneud Gorchmynion Rheoleiddio Traffig sy’n berthnasol i’r rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig y mae’n ei gynnal. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gefnffyrdd yr A487 ac A44 yng Ngheredigion. Fodd bynnag, gellir cyflwyno Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar briffyrdd heb eu mabwysiadu dan rai amgylchiadau.

Pwrpas Gorchymyn Rheoleiddio Traffig

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn eu lle i ganiatáu gorfodaeth gan yr Heddlu neu Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor ei hun yn achos cyfyngiadau parcio. Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn cynorthwyo’r Cyngor i:

  • Wella diogelwch ar y ffyrdd
  • Cadw neu wella cymeriad neu amwynder ardal
  • Rhwystro ffordd rhag cael ei defnyddio gan gerbydau anaddas
  • Rhwystro difrod i’r briffordd
  • Rhwystro difrod i unrhyw adeilad ar y briffordd neu’n agos ati
  • Lleihau a rheoli tagfeydd a hwyluso llif traffig

Prif Fathau o Orchmynion Rheoleiddio Traffig

Mae tri phrif fath o Orchymyn Rheoleiddio Traffig:

  • Parhaol
  • Dros Dro
  • Arbrofol

Fel y mae’r teitl yn awgrymu, mae’r rhain yn cyflwyno cyfyngiadau parhaol neu waharddiadau ar y briffordd ond, er hynny, gallant fod yn weithredol yn ystod amserau penodedig, er enghraifft cyfyngiad ar aros mewn cilfan sy’n weithredol o 9am hyd 6pm.

Mae’r broses ar gyfer cyflwyno Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol yn ôl y gyfraith yn cynnwys y camau canlynol:

  1. Ymgynghoriad statudol gyda’r gwasanaethau brys, cyrff cynrychiadol grwpiau defnyddwyr ffordd fel cludwyr ffordd a chwmnïau bysus, Cynghorwyr Sir a Chynghorau Tref/Cymuned.
  2. Ymgynghoriad cyhoeddus drwy hysbysiad ffurfiol (Hysbysiad o Fwriad) yn y wasg leol a’i arddangos ar y safle ar y ffyrdd a effeithir. Mae cyfnod gwrthwynebu o 21 niwrnod yn dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad yn y wasg, a gall partïon â diddordeb wrthwynebu yn ystod y cyfnod hwn. Noder nad oes gofyniad cyfreithiol ar y Cyngor i gysylltu’n benodol â phreswylwyr neu fusnesau unigol ac y byddai gwneud hynny’n gosod baich annioddefol yn aml ar yr adnoddau sydd ar gael.
  3. Caiff unrhyw wrthwynebiad a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori o 21 niwrnod ei ystyried yn ffurfiol drwy Weithdrefn Benderfynu Ddirprwyedig y Cyngor lle gwneir penderfyniad ar sut fydd y cynnig yn cael ei symud yn ei flaen. Os penderfynir bod angen gwneud newidiadau i’r cynnig yn wyneb unrhyw wrthwynebiad, rhaid ail-gynnal y broses ymgynghori lawn.
  4. Ar ôl cwblhau’r camau uchod yn llwyddiannus, bydd y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yna’n cael ei wneud yn ffurfiol a chaiff darpariaeth unrhyw arwydd a llinell angenrheidiol ei chydlynu â’r dyddiad y daw’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig i rym. Cyhoeddir Rhybudd Gwneud yn y wasg leol i roi gwybod bod y Gorchymyn wedi’i wneud.

Gall y broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig gymryd nifer o fisoedd i’w chwblhau yn enwedig os yw gwrthwynebiad yn golygu bod y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cael ei newid a’i ail-hysbysebu. Gall Gorchymyn Rheoleiddio Traffig barhau yn weithredol am gyfnod amhenodol ac os bydd angen i’r Cyngor addasu neu ddirymu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, rhaid iddo ddilyn yr un weithdrefn ag a nodir uchod.

Sut i Wneud Sylwadau neu Wrthwynebu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arfaethedig

Mae’r Hysbysiad o Fwriad yn cynnwys gwybodaeth ar sut i gyflwyno sylwadau neu wrthwynebu cynnig. Rhaid cyflwyno gwrthwynebiad yn ysgrifenedig ac felly gellir ei anfon yn y post neu dros e-bost, a rhaid iddo gynnwys y rhesymau dros wrthwynebu. Rhaid iddo gael ei gyflwyno cyn diwedd y cyfnod ymgynghori a nodir yn glir yn yr Hysbysiad o Fwriad yn y wasg ac ar y safle.

Ac eithrio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig terfynau cyflymder, ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, caiff unrhyw sylwad neu wrthwynebiad a dderbynnir ei ystyried yn ffurfiol gan swyddogion, yr Aelod lleol a’i gyfeirio i Gabinet y Cyngor i benderfynu arno.

O ran Gorchmynion Rheoleiddio Traffig terfynau cyflymder, gall pwerau a ddirprwyir i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol eu defnyddio i ddyfarnu gwrthwynebiadau.

Gall y weithdrefn o wneud penderfyniadau fod yn hir yn dibynnu ar lefel yr adborth a dderbynnir ond, ar gyfartaledd, gall gymryd rhwng 4 ac 16 wythnos. Pan fydd penderfyniad wedi’i wneud, dim ond y rhai a gyflwynodd sylwadau neu wrthwynebiad fydd yn cael eu hysbysu’n ffurfiol o’r canlyniad.

Apeliadau

Os teimlwch nad yw’r Cyngor wedi dilyn y broses gyfreithiol a nodir ar gyfer cyflwyno Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, gallwch apelio i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos o’r adeg pan gafodd y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ei wneud yn ffurfiol.

Gellir gweld manylion Gorchmynion Traffig y mae’r Cyngor yn ymgynghori arnynt ar hyn o bryd neu rai sydd wedi’u gwneud yn ddiweddar, yn dilyn diwedd y broses ymgynghori, yn: Gorchmynion Traffig Arfaethedig/Arbrofol/Diweddar

Mae’r rheoliadau uchod yn rhoi pwerau i’r Awdurdod Lleol gymhwyso cyfyngiadau traffig dros dro i ffyrdd a gynhelir gan arian cyhoeddus. Rydym yn defnyddio Hysbysiadau Rheoleiddio Traffig Dros Dro a Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro i gwmpasu digwyddiadau a gynlluniwyd, gweithgareddau a gwaith ffordd ar/yn y briffordd.

Defnyddir Hysbysiadau Rheoleiddio Traffig Dros Dro a Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro fel rheol i ganiatáu i waith brys neu hanfodol gael ei gyflawni yn ddiogel ar y briffordd, yn nodweddiadol gosod neu wneud gwaith cynnal a chadw ar wasanaethau fel nwy, trydan a dŵr yn ogystal â gwaith cynnal a chadw ar briffyrdd.

Gall Hysbysiadau Rheoleiddio Traffig Dros Dro a Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro gael eu defnyddio i:

  • Gau ffordd neu hawl dramwy gyhoeddus
  • Newid system unffordd bresennol
  • Newid trefniadau presennol ar gyfer parcio ar y ffordd
  • Newid terfynau cyflymder neu gyfyngiadau pwysau presennol
  • Newid troadau presennol i’r dde neu i’r chwith yn unig
  • Atal dros dro Orchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol sy’n bodoli e.e. stryd unffordd, parcio (gan gynnwys cilfannau parcio), i wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel wrth i waith gael ei gyflawni.

HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO: Dan y Rheoliad hwn, mae gan yr Awdurdod Lleol y pŵer i awdurdodi cyfyngiad traffig dros dro dan Hysbysiad, yn bennaf ar gyfer gwaith brys y mae angen gweithredu cyfyngiad ar unwaith ar ei gyfer er mwyn diogelu defnyddwyr y ffordd neu pan fo gwaith wedi’i gynllunio yn cael ei drefnu am 5 niwrnod neu lai.

Mae’r broses o drefnu Hysbysiad Rheoleiddio Traffig Dros Dro yn ei gwneud yn ofynnol i gais gael ei wneud i’r Cyngor Sir, fel yr Awdurdod Priffyrdd Lleol, i’w gymeradwyo.  Rhaid cael isafswm cyfnod rhagarweiniol o 3 wythnos ar geisiadau ar gyfer Hysbysiadau Rheoleiddio Traffig Dros Dro wedi’u cynllunio er mwyn i’r hysbysiad angenrheidiol i Ymgymerwyr Statudol gael ei gyflawni a’r dogfennau gael eu cynhyrchu.  Pan fydd yr Hysbysiad wedi’i gymeradwyo ac yn orfodadwy, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod yr holl systemau rheoli traffig cywir yn eu lle.

GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG: Dan y Rheoliad hwn, mae gan yr Awdurdod Lleol y pŵer i awdurdodi cyfyngiad traffig dros dro dan Orchymyn ar gyfer gwaith wedi’i gynllunio dros 5 niwrnod neu ar gyfer gwaith brys sy’n ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod o 42 niwrnod a ganiateir gan reoliadau’r Hysbysiad. 

Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro yn Orchymyn wedi’i lofnodi a’i selio a gall fod yn ddilys am hyd at 18 mis dan y Rheoliadau.  Rhaid cael isafswm cyfnod rhagarweiniol o 6 wythnos ar geisiadau Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro wedi’u cynllunio er mwyn i’r hysbysiad angenrheidiol i Ymgymerwyr Statudol gael ei gyflawni a’r dogfennau gael eu cynhyrchu.  Rhaid hysbysebu’r cyhoeddiad o fwriad ac o wneud y gorchymyn cyfyngu ar wahân mewn papur newydd lleol.  Pan fydd y Gorchymyn wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod Lleol ac yn orfodadwy, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod yr holl drefniadau rheoli traffig diogel cywir yn eu lle.

A.16a cyfyngiad ar ffyrdd mewn cysylltiad â digwyddiadau penodol: Dan y Rheoliad hwn, mae gan yr Awdurdod Lleol y pŵer i weithredu cyfyngiad dros dro ar gyfer digwyddiad cymdeithasol neu chwaraeon a gynhelir ar y ffordd.  Fodd bynnag, cyn gwneud y Gorchymyn, rhaid i’r Awdurdod Lleol fodloni ei hunan nad yw’n rhesymol ymarferol i’r digwyddiad gael ei gynnal oddi ar y ffordd. 

Rhaid cael isafswm cyfnod rhagarweiniol o 12 wythnos ar geisiadau Gorchymyn Cyfyngu ar gyfer Digwyddiad Arbennig er mwyn caniatáu i hysbysiad gael ei anfon at Bartïon â Diddordeb (h.y. Rhanddeiliaid, Gwasanaethau Brys, Aelodau Lleol) a’r dogfennau angenrheidiol i gael eu cynhyrchu.  Pan fydd y Gorchymyn wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod Lleol ac yn orfodadwy, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod yr holl drefniadau rheoli traffig diogel yn eu lle.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 Adran 21: Dan y Rheoliad hwn, mae gan yr Awdurdod Lleol y pŵer i weithredu cyfyngiad dros dro ar gyfer digwyddiad lle bydd strydoedd yn debygol o fod yn brysur ac yn agored i rwystrau, pan gânt eu defnyddio’n nodweddiadol ar gyfer gorymdeithiau, dathliadau neu ddigwyddiadau â goleuadau.  Fodd bynnag, cyn gwneud y Gorchymyn rhaid i’r Awdurdod Lleol fodloni ei hunan nad yw’n rhesymol ymarferol i’r digwyddiad gael ei gynnal oddi ar y ffordd. 

Rhaid cael isafswm cyfnod rhagarweiniol o 12 wythnos ar geisiadau Gorchymyn Cyfyngu ar gyfer Digwyddiad Arbennig er mwyn caniatáu i hysbysiad gael ei anfon at Bartïon â Diddordeb (h.y. Rhanddeiliaid, Gwasanaethau Brys, Aelodau Lleol).  Pan fydd y Gorchymyn wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod Lleol ac yn orfodadwy, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod yr holl systemau diogelwch traffig diogel yn eu lle.   

I weld manylion ynghylch cau’r ffyrdd a digwyddiadau arbennig gweithredol yng Ngheredigion neu i gael ffurflen gais, ewch i dudalen we Cyngor Sir Ceredigion - Cau Ffyrdd

Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol yn debyg i Orchymyn Rheoleiddio Traffig Parhaol - mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n gosod cyfyngiadau parcio a thraffig ond mae’n para am uchafswm o 18 mis yn unig.  Caiff Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol eu defnyddio i weld a yw’r mesurau a gyflwynir yn gweithio yn ymarferol.

Rydym yn croesawu adborth drwy’r broses gyfan.  Fodd bynnag, rhaid i wrthwynebiad ffurfiol i Orchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol gael ei wneud yn y chwe mis cyntaf o fod mewn grym gan y dylai fod yn seiliedig ar sut mae’r mesurau yn gweithio mewn gwirionedd.

Ar ôl 6 mis, gall y Cyngor benderfynu a oes angen diwygio’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol mewn rhyw ffordd, ei ddirymu neu ei wneud yn barhaol. Bydd y penderfyniad yn dilyn ein proses ffurfiol o wneud penderfyniadau ac mae hyn fel rheol yn golygu mai’r Cabinet fydd yn penderfynu.

Apeliadau

Os teimlwch nad yw’r Cyngor wedi dilyn y broses gyfreithiol a nodir ar gyfer cyflwyno Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol, gallwch apelio i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos o’r adeg pan gafodd y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol ei wneud yn ffurfiol.

Ewch i’n tudalen ymgynghori i weld y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol sydd ar hyn o bryd yn y 6 mis cyntaf o’u gweithredu.

Gwybodaeth am Orchmynion Rheoleiddio Traffig

Mae gwybodaeth am unrhyw Orchymyn Rheoleiddio Traffig sydd ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus i’w gweld ar:
Gorchmynion Traffig Arfaethedig/Arbrofol/Diweddar

Mae gwybodaeth am Orchmynion Rheoleiddio Traffig presennol ar gael drwy gysylltu â: clic@ceredigion.gov.uk

Mae’r rheoliadau sy’n llywodraethu’r broses Gorchmynion Traffig ar gael ar: www.legislation.gov.uk