Y Priffyrdd Dros Y Gaeaf
Yn y gaeaf, mae'r Cyngor yn cadw golwg ar y tywydd a'r rhagolygon ac yn rhoi lorïau ar waith i daenu graean ar y ffyrdd er mwyn atal rhew rhag ffurfio ac eira rhag pentyrru a chaledu.
Mae swch eira ar bobl lori sy'n galluogi'r gyrwyr i wthio'r eira at ymyl y ffordd, yn ogystal â chyfarpar cyfathrebu electronig sy'n galluogi'r Cyngor i fonitro lleoliad a chynnydd pob lori. Eir ati ymlaen llaw i gynllunio pa ffyrdd a gaiff eu graeanu, fel y gellir trin y ffyrdd mwyaf hanfodol, yn gyntaf. Mae'r Cyngor hefyd yn darparu biniau graean a halen er mwyn galluogi pobl i fynd i'r afael â mannau trafferthus yn eu hardaloedd eu hunain.
Swyddogaeth y Cyngor Sir
Cawn ragolygon y tywydd yn ddyddiol gan MetDesk gan arbenigwyr profiadol sy'n monitro'r tywydd drwy gydol y dydd a'r nos saith niwrnod yr wythnos.
Os tybir y bydd rhew neu eira bydd y Cyngor Sir yn rhoi graean ar ffyrdd sydd wedi eu pennu ymlaen llaw y penderfynwyd mai nhw yw'r rhai mwyaf allweddol i fwyafrif o ddefnyddwyr ffyrdd Ceredigion. Mae'r ffyrdd hyn yn ymestyn am oddeutu 458 cilometr, sy'n cynrychioli tua 20% o rwydwaith ffyrdd Ceredigion ac yn cynnwys system yr holl gefnffyrdd, y prif ffyrdd a'r ffyrdd B, C a di-ddosbarth pwysig.
Yn ystod cyfnodau hir o dywydd garw, ac ar ôl gorffen trin system y Cefnffyrdd, y Prif Ffyrdd a ffyrdd eraill a nodwyd fel y prif rwydwaith, gellir trin ffyrdd eraill, llwybrau troed, llwybrau beiciau a meysydd parcio yn nhrefn eu blaenoriaeth.
Os bydd eira wedi cronni, bydd sychau eira confensiynol yn clirio'r ffyrdd ac os bydd tywydd eithriadol o wael, defnyddir chwythwyr eira, cloddwyr a rhawiau llwytho.
Mae gan yr adran hefyd nifer o finiau graean at ddefnydd gyrwyr a cherddwyr, ac mae'r rheiny i'w cael yn bennaf ar rannau o'r rhwydwaith nad ydynt ar y ffyrdd sydd wedi eu pennu ymlaen llaw, mewn mannau trafferthus hysbys ar hyd a lled y sir.
Ffyrdd a gaiff eu Graeanu Ymlaen Llaw
Mae Cyngor Sir Ceredigion ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cyflawni gwaith cynnal a chadw ar y priffyrdd dros y gaeaf.
Adnoddau Ceredigion
Cedwir cyfanswm o 8,884 tunnell o raean yn y ddau ddepo Priffyrdd yn Aberystwyth a Penrhos ger Llandysul. Fe'i taenir ar y ffordd gerbydau gan fflyd fodern o cerbyd gyda thîm o weithredwyr cymwys yn eu gyrru, gan sicrhau y gwneir y defnydd gorau a mwyaf effeithiol o'r cyfarpar a'r adnoddau gwerthfawr.
Ni all y Cyngor ddarparu halen i unigolion preifat
Caiff halen y Cyngor ei storio’n rhydd (ac nid mewn bagiau) mewn depos prysur lle ceir nifer fawr o beiriannau a thraffig yn symud yn gyson. Nid yw’n briodol nac yn ddiogel caniatáu preswylwyr i ymweld â’r ardaloedd gwaith yma. Hefyd yn ystod y gaeaf os bydd achos yn codi defnyddir yr holl staff fydd ar gael ac o’r herwydd ni fyddant ar gael i gynorthwyo aelodau unigol o’r cyhoedd.
Cynlluniwyd yn ofalus lefel yr halen a gedwir gan y Cyngor er mwyn sicrhau y caiff ein gwasanaeth yn ystod y gaeaf ei redeg yn effeithiol. Byddai darparu halen i unigolion yn achosi straen annerbyniol ar ein hadnoddau prin yn enwedig os bydd tywydd gwael yn parhau am gyfnod hir.
Bydd storfeydd DIY neu fasnachwyr adeiladu fel arfer yn medru darparu halen at ddefnydd priodol.
Gyrru yn y Gaeaf
Dyma ambell air o gyngor:
- Dylai gyrwyr gynllunio eu taith yn ofalus.
- Fel y bo'n bosibl, defnyddio'r ffyrdd sydd wedi'u cynnwys yn y rhwydwaith a raeanir ymlaen llaw.
- Mewn tywydd rhewllyd mae'n hanfodol eich bod yn gyrru'n fwy gofalus.
- Arafwch cynted ag y gwelwch fod yno rew.
- Llywiwch yn ysgafn gan osgoi brecio'n galed.
- Cadwch yn ddigon pell draw o gerbydau gwasanaeth y gaeaf a byddwch yn dra gofalus wrth eu goddiweddyd, mae'r lorïau graeanu wedi'u dylunio i daenu graean ar led y ffordd gyfan.
Er ein bod yn gwneud ein gorau, cofiwch fod tywydd y gaeaf yn gallu gwneud y ffyrdd yn beryglus. Disgwylir bod gyrwyr yn medru gyrru yn ôl cyflwr y ffordd. Dylech gofio hefyd pan fo'r tymheredd yn isel, gall rhew aros mewn rhai llefydd anghysbell, boed hynny cyn graeanu neu ar ôl.