Skip to main content

Ceredigion County Council website

Mapiau o’r Llwybrau Presennol a Mapiau Rhwydwaith Integredig o 2018 (er gwybodaeth)

Map Rhwydwaith Integredig

Fel rhan o’n hymrwymiad i gynnig gwell darpariaeth i gerddwyr a beicwyr yng Ngheredigion, byddwn yn cynhyrchu Map Rhwydwaith Integredig, yn gosod ein rhaglen 15 mlynedd o welliannau i lwybrau teithio llesol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â gwella llwybrau seiclo a cherdded yn yr Ardaloedd Dynodedig ar gyfer Teithio Llesol sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, cyflwynwyd y Mapiau Rhwydwaith Integredig i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2017. Ar ôl hynny, cymeradwywyd y mapiau gan y Gweinidog ar 27 Chwefror 2018 a gallwch eu gweld isod:

Aberystwyth

Aberteifi (Sylwer bod y llwybrau yn Llandudoch o fewn Cyngor Sir Penfro)

Llanbedr Pont Steffan (Sylwer bod y llwybrau yng Nghwmann o fewn Cyngor Sir Gâr)

Noder: dyhead yn unig yw’r llwybrau ar hyn o bryd ac nid oes sicrwydd y bydd yr Awdurdod yn medru cael y cyllid na’r grantiau ar gyfer eu hadeiladu. Serch hynny, byddwn yn gwneud pob ymdrech i wneud ceisiadau am gyllid lle bynnag y bo modd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y dylai'r Mapiau Rhwydwaith Integredig a'r Mapiau Llwybrau Presennol gael eu hailgyflwyno ar 31 Rhagfyr 2021.

Map Llwybrau Teithio Llesol Presennol

Er mwyn cyflawni’r ddyletswydd hon, mae’n rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi Map o’r Llwybrau Presennol sy'n dangos llwybrau sy’n addas ar gyfer cerdded neu feicio ac sy’n bodloni'r safonau a nodwyd yng Nghanllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Bydd y Map o’r Llwybrau Presennol yn ddefnyddiol i bobl sydd am gynllunio eu siwrneiau cerdded a beicio ymlaen llaw.

Bydd hefyd yn fodd i fesur y cynnydd yn natblygiad rhwydweithiau cerdded a beicio Ceredigion, wrth i lwybrau newydd gael eu sefydlu a’u hychwanegu at y Map o’r Llwybrau Presennol dros amser.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2017, cafodd y Map Llwybrau Presennol ei ddiwygio a’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Os hoffech gopi papur o’r Mapiau Llwybrau Presennol, neu gopïau mewn unrhyw fformat arall, cysylltwch â ni.

Nid yw’r mapiau’n dangos yr holl lwybrau posibl, fodd bynnag, mae’r llwybrau a ddangosir wedi cael eu harchwilio sy’n dangos eu bod yn bodloni’r safonau a nodwyd yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru.

Mapiau Llwybrau Presennol:

Aberystwyth

Aberteifi

Llanbedr Pont Steffan

Dylid Darllen y Map o’r Llwybrau Cerdded a Beicio Presennol ar y cyd â’r Datganiad ac Esboniad, sy’n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am nifer o lwybrau llai nad ydynt yn bodloni’r safonau a nodir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru, ond sy’n dal i gynnig cysylltiadau defnyddiol yn y rhwydwaith yn gyffredinol.