Teithio Llesol
Yma cewch wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud ar Deithiau Llesol yng Ngheredigion.
Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio, gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded a beicio ar gyfer siwrneiau bob dydd.
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 mae gofyn i Gyngor Sir Ceredigion greu Map o Lwybrau’r Dyfodol yn gosod ein rhaglen 15 mlynedd o welliannau i lwybrau teithio llesol.
Er mwyn cyflawni’r ddyletswydd hon mae’n rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi Map o’r Llwybrau Presennol sy'n dangos llwybrau sy’n addas ar gyfer cerdded neu feicio ac sy’n bodloni'r safonau a nodwyd yng Nghanllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Ein Gweledigaeth – Cynigion ar gyfer Teithio Llesol yn ardal Aberystwyth
Cynhyrchwyd y fideo 3D yma o’r awyr ym mis Mawrth 2025 i ddangos sut fydd cynllun Teithio Llesol Waunfawr i IBERS yn rhyng-gysylltu cymunedau Penrhyn-coch a Bow Street drwy Gomins Coch. Hefyd mae’n dangos cynigion at y dyfodol i gysylltu’r llwybrau presennol gyda chanol tref Aberystwyth a’r cymunedau cyfagos, fel rhan o’r rhwydwaith cerdded a beicio ehangach.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu’r gwelliannau a ddangosir ar gyfer Llwybrau’r Dyfodol, a dylid nodi na ellir gwarantu eto y bydd y rhain yn cael eu cyflawni yn y dyfodol.
Mae’r llwybrau ar Gefnffyrdd yr A44 a’r A487 yn dod dan gyfrifoldeb Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) a Llywodraeth Cymru, sy’n rheoli’r rhwydwaith Cefnffyrdd.
Mae’r fideo hwn wedi’i ariannu gan Grant Craidd Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru sy’n cael ei weinyddu gan Drafnidiaeth Cymru.

Map o'r Rhwydwiath Teithio Llesol - Llwybrau Presennol Ceredigion a Llwybrau'r Dyfodol (2022)
Map o'r Rhwydwiath Teithio Llesol
Mapiau o’r Llwybrau Presennol a Mapiau Rhwydwaith Integredig o 2018 (er gwybodaeth)
Mapiau o’r Llwybrau Presennol a Mapiau Rhwydwaith Integredig
Map Teithio Llesol Aberystwyth
Map Teithio Llesol Aberystwyth
Seiclwch Ceredigion
Seiclwch Ceredigion
Adroddiadau Teithio Llesol Blynyddol
Adroddiadau Teithio Llesol Blynyddol
Cynigion Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Waunfawr i IBERS
Waunfawr i IBERS
Oriel Delweddau Teithio Llesol
Oriel Delweddau Teithio Llesol