Ralïau Moduron Ar Y Briffordd Gyhoeddus
Mae dau brif fath o rali foduron – rali ar ffordd gaeëdig a rali ar ffordd agored.
Rali ar ffordd gaeëdig
Gall ralïau moduron ffordd gaeëdig gael eu hawdurdodi ar gyfer priffyrdd cyhoeddus ar yr amod bod y ffyrdd dan sylw ar gau i’r cyhoedd drwy Orchymyn Traffig Dros Dro a wneir neu a awdurdodir gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae trefnwyr y math hwn o ddigwyddiad yn talu am gost hyn. Mae’r math hwn o ddigwyddiad yn caniatáu rasys neu dreialon cyflymder rhwng cerbydau modur a/neu yn erbyn y cloc.
Rali ar ffordd agored
Nid yw ralïau moduron ffordd agored yn caniatáu rasys neu dreialon cyflymder. Dyma’r sefyllfa o ran ralïau moduron ar y briffordd gyhoeddus:
- Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdodi’r math hwn o ddigwyddiad. Rhoddir caniatâd i ddigwyddiadau oddi ar y briffordd gyhoeddus lle mae’r trywydd yn defnyddio neu’n croesi hawl dramwy gyhoeddus (o dan Adran 33 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988).
- Ar yr amod bod cerbyd wedi’i drethu, ei yswirio, â thystysgrif MOT ddilys lle bo angen ac yn gymwys i fod ar yr heol, a bod y gyrrwr yn meddu ar drwydded yrru ddilys ac yswiriant, gall unrhyw aelod o'r cyhoedd, wrth gwrs, ddefnyddio unrhyw briffordd gyhoeddus ar unrhyw adeg. Mae pob aelod o'r cyhoedd yn gorfod dilyn y cyfyngiadau (e.e. terfynau cyflymder, system unffordd ac ati) a’r rheoliadau cyffredinol (e.e. ildio ar gyffordd, llinell wen ddwbl ar ganol y ffordd) ar unrhyw ran o’r briffordd gyhoeddus. Sylwer y byddai unrhyw achos posibl o dorri’r rheolau uchod yn fater i’r heddlu ei ystyried; nid oes gan Gyngor Sir Ceredigion unrhyw bŵer o ran gorfodi’r rhain.
- Mae Adran 12 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 yn nodi fod person sy’n hyrwyddo neu’n cymryd rhan mewn ras neu dreial cyflymder rhwng cerbydau modur ar briffordd gyhoeddus yn euog o drosedd.
- Serch hynny, mae’n bosib cyflwyno elfen gystadleuol i ralïau moduron ffordd agored a hynny drwy annog gyrwyr i gyrraedd man penodol erbyn amser penodol. Ni ddylid pennu amserlen neu gyflymder fyddai’n annog neu’n gofyn bod cystadleuwyr, wrth iddynt ddefnyddio priffordd sydd ar agor i’r cyhoedd, yn cyrraedd cyflymder cyfartalog rhwng dau bwynt a fyddai’n uwch na’r canlynol:
-
- 30mya yn achos pob priffordd oni bai am draffyrdd.
- cyfartaledd o hyd at 20mya yn achos rhannau sy’n rhedeg ar is-ffyrdd o dan 4m o led yng ngolau dydd.
- 25mya yn achos unrhyw ddosbarth o gerbyd sy’n destun terfyn cyflymder cenedlaethol is na char (e.e. fan).
- 20mya i geir ar rannau niwtral (ardaloedd sensitif, poblog) ar wahân i ffyrdd Dosbarth A neu B.
- rhaid peidio â rhoi bonws am fynd yn gyflymach na’r cyflymderau cyfartalog a nodir uchod. Rhaid rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol i’r cystadleuwyr i’w galluogi i gyfrifo - o flaen llaw - y cyflymder y gofynnir iddynt ei wneud ar gyfartaledd.