Arwyddion Rhybudd
Mae arwyddion rhybudd fel arfer yn arwyddion triongl gydag ymyl coch, cefndir gwyn a symbol du. Fel y nodir yn y Llawlyfr Arwyddion Ffyrdd (gweler Traffic signs manual - GOV.UK) maent yn cael eu defnyddio i dynnu sylw gyrwyr at beryglon posib o’u blaen. Maent yn dynodi bod angen i ddefnyddwyr y ffordd fod yn arbennig o ofalus ac efallai y bydd angen iddynt arafu eu cyflymder neu gyflawni gweithred arall.
Mae arwyddion rhybudd priodol yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd. Fodd bynnag, fel y nodwyd ym mhennod pedwar y Llawlyfr Arwyddion Ffyrdd, ni ddylid eu defnyddio’n rhy aml. Os ydynt yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at amgylchiadau sydd eisoes yn amlwg, gall hyn danseilio gwerth yr arwyddion a lleihau eu heffeithiolrwydd ar y cyfan. Felly, mae’n rhaid ystyried pob cais y mae’r Awdurdod yn ei dderbyn yn ofalus cyn penderfynu a yw arwydd yn briodol ai peidio.
Gellir gosod arwyddion rhybudd ar fyrddau llwyd neu felyn er mwyn eu gwneud yn fwy amlwg mewn lleoliadau lle mae cefndir tywyll neu gymhleth.
Mae pedwaredd bennod y Llawlyfr Arwyddion Ffyrdd yn cynnwys rheoliadau ac argymhellion ynghylch defnyddio gwahanol fathau o arwyddion rhybudd. Mae’r rhain yn helpu i nodi’r gwahanol leoliadau ac amgylchiadau lle gallai gwahanol fathau o arwyddion rhybudd fod yn briodol. Maent hefyd yn darparu canllawiau penodol ynghylch pryd nad yw arwyddion rhybudd yn briodol.
Wrth asesu cais am arwyddion rhybudd, mae’n rhaid i’r Awdurdod gydymffurfio â’r Llawlyfr Arwyddion Ffyrdd. Yn ogystal, bydd yr Awdurdod yn ystyried ystod o ffactorau, gan gynnwys:
- y perygl dan sylw, pa mor ddifrifol ydyw, a faint o awgrym ohono sydd eisoes;
- natur y gwrthdrawiadau sydd wedi bod yn y lleoliad hwnnw yn y gorffennol;
- cyflymder traffig ar hyd y rhan honno o’r ffordd;
- amgylchiadau’r ffordd a’r arwyddion eraill sydd ar hyd y ffordd honno, er mwyn sicrhau cysondeb.
Dan Ddeddf Priffyrdd 1980, nid oes dyletswydd ar yr Awdurdod Priffyrdd i ddarparu arwyddion rhybudd. Nid yw diffyg arwyddion rhybudd yn dirymu cyfrifoldeb gyrwyr i yrru yn unol ag amgylchiadau’r ffordd, amodau tywydd a thraffig.