Sut i Dalu Neu Herio Hysbysiad Tâl Cosb
Sut mae talu Hysbysiad Talu Cosb?
Gellir talu'r Hysbysiad Talu Cosb:
- trwy'r post, gyda siec, archeb bost neu gerdyn debyd/credyd. Anfonwch eich taliad i:
Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru
Blwch Post 273
Rhyl
LL18 9EJ - tros y ffôn gyda'ch cerdyn debyd/credyd (mae hon yn llinell dalu tros y ffôn wedi'i hawtomeiddio 08456 032 877)
- ar-lein, ymwelwch ag www.wppp.org.uk gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar-lein.
- mynd eich hun i unrhyw le talu Allpay (Swyddfa Bost/Man talu). Gwnewch yn siwr eich bod yn mynd â'r Hysbysiad Talu Cosb gyda chi fel bod modd sganio'r cod bar.
Rhaid i chi roi'r cyfeirnod ar yr Hysbysiad Talu Cosb wrth wneud y taliad.
Sut mae herio Hysbysiad Talu Cosb?
Os byddwch yn anghytuno â'r penderfyniad i roi Hysbysiad Talu Cosb, gallwch ysgrifennu at Bartneriaeth Prosesu Cosbau Cymru cyn pen 28 diwrnod o ddyddiad cyflwyno'r rhybudd, gan roi eich rhesymau neu esboniad pam eich bod yn teimlo y dylid dileu'r Hysbysiad Talu Cosb. Os daw eich her i law o fewn y 14 diwrnod cyntaf, bydd yr opsiwn ynghylch talu'r pris disgownt o 50% yn dal i fod ar gael hyd nes y bydd yr her wedi'i hystyried a phenderfyniad wedi'i wneud.
Rhaid anfon yr her yn ysgrifenedig. Gallwch gyflwyno'ch her yn un o'r ffyrdd canlynol:
- Trwy'r post – anfonwch at Bartneriaeth Prosesu Cosbau Cymru, Blwch Post 273, Rhyl, LL18 9EJ
- Ar ffacs – anfonwch at 01745 839246
- Ar e-bost - pcn-query@wppp.org.uk
Yn eich her, cofiwch sicrhau eich bod yn nodi rhif deg digid yr Hysbysiad Talu Cosb (e.e. GI01234321) a'chenw a'ch cyfeiriad fel y gallwn ni ysgrifennu atoch chi.
Os na fyddwch yn fodlon â chanlyniad yr her anffurfiol, gallwch gyflwyno her ffurfiol o ddyddiad derbyn yr Hysbysiad i'r Perchennog. Rhaid cyflwyno'r her hon cyn pen 28 diwrnod o ddyddiad derbyn yr Hysbysiad i'r Perchennog.
Os nad ydych yn fodlon â'r ffaith bod eich her ffurfiol wedi'i wrthod, gallwch gyflwyno apêl ffurfiol gyda'r Tribiwnlys Cosb Traffig, gwasanaeth dyfarnu apeliadau parcio cenedlaethol Mae'n rhaid cyflwyno'r apêl bellach hon i'r Tribiwnlys o fewn 28 diwrnod i wrthod yr her.
Bydd Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru yn cyflawni rhywfaint o'r gwaith gweinyddu ar ran Ceredigion. Serch hynny, mae Ceredigion wedi cytuno ar bob polisi a bydd staff Cyngor Ceredigion yn ymwneud â phob cam o'r broses herio.