Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig Mannau Parcio Oddi ar y Stryd

Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ddogfennau cyfreithiol a wneir sy'n rhoi'r sail gyfreithiol ar gyfer gorfodi gwaharddiadau a chyfyngiadau mewn Mannau Parcio Oddi ar y Stryd (Meysydd Parcio).

Mae’r dogfennau hyn yn gallu cwmpasu, ond efallai nad ydynt yn gyfyngedig i:

  • Pennu ffioedd a thaliadau am ddefnyddio mannau parcio
  • Esemptiadau rhag talu ffioedd a thaliadau
  • Rhoi cyfyngiadau ar
    • y mathau o gerbydau sy'n gallu defnyddio man parcio
    • oriau gweithredu'r man parcio
    • yr amser hiraf y gellir parcio cerbyd mewn man parcio
  • Oriau gweithredu man parcio

Mae'r broses gyfreithiol y mae'n rhaid i'r Awdurdod ei dilyn i gyflwyno gorchymyn rheoleiddio traffig yn unol â phwerau cyfreithiol galluogi a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) wedi'i nodi yn Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 (diwygiwyd).

Mae manylion y Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig cyfredol ar gyfer Mannau Parcio Cyngor Sir Ceredigion sydd ar waith i'w gweld isod.

Gorchymyn

Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Strd) 2025