Lansio Cychod Ymwelwyr
Ar hyn o bryd mae tri opsiwn ar gyfer gyrru cwch i’r dŵr yn Harbyrau Ceredigion, ar y sail isod.
- Y dydd
- Yr wythnos
- Blynyddol (01/04 - 31/03)
Os hoffech lansio eich cwch yn un o’r tri harbwr sydd gennym yng Ngheredigion (Aberaeron, Aberystwyth a Chei Newydd), cwblhewch a dychwelwch y ffurflen gais lansio a manylion y cyfnod lansio y byddwch yn rhoi cais amdani, ynghyd â chopi o drwydded eich cwch. Bydd eich cais yna’n cael ei adolygu, a byddwch yn cael gwybod am y canlyniad maes o law (tudalen gyswllt isod).
Os bydd eich cais cychwynnol yn cael ei gymeradwyo, byddwch yn derbyn rhif trwydded y mae’n ofynnol i chi wneud taliad drwy borth Taliadau Ar-lein Cyngor Ceredigion neu drwy ganolfan gyswllt y Cyngor, Clic (yn ystod oriau swyddfa arferol yn unig) drwy ffonio 01545 570881.
Trwy ddefnyddio’r porth Taliadau Ar-lein, dylch ddilyn y camau isod:
- Clicio ar y botwm Taliadau Ar-lein.
- Dewis Arall o’r ddewislen.
- Dewis Gwasanaethau Harbwr o’r rhestr ddewis Maes Gwasanaeth.
- Dewis y Ffî Lansio / Ymwelwyr berthnasol.
- Nodi’r rhif cyfeirio trwydded.
- Os yn dewis ffi lansio/ ymwelwyr dydd neu wythnos nodwch nifer y diwrnodau / wythnosau sy'n ofynnol.
- Rhowch eich enw a'ch cyfeiriad.
- Os ydych yn dewis ffi lansio/ ymwelwyr dydd neu wythnos, rhowch gyfanswm y ffi sydd i'w thalu (nifer y diwrnodau / wythnosau x ffi diwrnod / wythnos).
- Cliciwch ar Parhau.
- Gwiriwch grynodeb y manylion ac yna cliciwch y botwm Gwneud Taliad.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud y taliad.
Sylwch na fydd gennych awdurdodiad i'w lansio hyd nes y derbynnir cadarnhad eich bod wedi llwyddo i wneud y taliad priodol. Ar ôl talu'r ffi lansio briodol, byddwch yn cael eich clirio i'w lansio mewn unrhyw dri o Harbyrau Ceredigion am y cyfnod y gwneir cais amdano.
Mae'r ffioedd lansio wedi'u nodi yn y ddogfen Cyllid a Ffioedd gyfredol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn lansio, eisiau gwneud cais, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Harbwr trwy'r tudalen Cysylltwch â ni.
Cofiwch nad oes unrhyw hawliau parcio yn cael eu rhoi i unrhyw ddeiliaid angorfa hirdymor neu ddefnyddwyr eraill yr harbwr. Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr yr harbwr wneud eu trefniadau parcio eu hunain. Mae meysydd parcio talu ac arddangos cyhoeddus yng nghyffiniau pob un o'r harbyrau, gan gynnwys meysydd parcio talu ac arddangos canlynol a reolir gan y Cyngor:
- Aberystwyth: Maes Parcio Promenâd Newydd
- Aberaeron: Maes Parcio Traeth y De
- Cei Newydd: Maes Parcio Stryd y Cware a Maes Parcio Ffordd yr Eglwys
I gael gwybodaeth am barcio a meysydd parcio Talu ac Arddangos y Cyngor, ewch i tudalen Parcio a Gorfodi Parcio Sifil.