Cynllun Rheoli Gwastraff Porthladd
Mae cyfleusterau derbyn gwastraff ar gael ym mhob un o'r harbyrau ac ar gyfer defnydd deiliaid angorfa hamdden yn unig yn unol â Rheoliadau Llongau Masnach a Llongau Pysgota (Cyfleusterau Derbyn Gwastraff Porthladd) 2003.
Mae'r cyfleusterau hyn i'w defnyddio yn unol â chymeradwyaeth MCA y Cyngor Cynllun Rheoli Gwastraff Porthladd (CRhGP).
Ar gyfer mynediad i'r cyfleuster neu unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sy'n gysylltiedig â PWMP cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Harbwr. Gellir dod o hyd i wybodaeth gysylltiedig ar y dudalen Cysylltwch â ni.