Angori Hir-dymor, Llawr Caled neu Storio Cyfarpar Gweithgaredd Dŵr
Cynghorir darpar ddeiliaid angorfeydd tymor hir neu offer chwaraeon dŵr i gysylltu â'r tîm Gwasanaethau Harbwr trwy'r tudalen Cysylltwch â ni i drafod eu gofynion os ydynt yn dymuno gwneud cais am angorfa yn Harbwr Aberaeron, Aberystwyth neu Gei Newydd.
Lle mae angorfa wag addas a dim rhestr aros bresennol ar gyfer math angorfa mewn ardal benodol mewn Harbwr, yna gellir gwneud cais yn uniongyrchol ar gyfer angorfa. Fodd bynnag, lle nad oes angorfa wag addas na phobl bresennol ar restr aros berthnasol yna gwahoddir ymgeiswyr i ymuno â'r rhestr aros briodol.
Gweinyddir rhestrau aros yn unol â Pholisi Rheoli Harbyrau Ceredigion a bydd dyraniad angorfeydd/cyfleusterau yn unol â'r weithdrefn honno (atodiad 1). Cysylltir â phobl sydd ar y rhestr aros os, a phan fydd angorfa addas ar gael.
Mae ffi rhestr aros na ellir ei ad-dalu i ymuno ag unrhyw un o'r rhestrau aros, mae'r ffi hon yn cael ei nodi yn y ddogfen Ffioedd a Chostau gyfredol.
Yn anffodus, nid yw'n bosibl i'r Tîm Gwasanaethau Harbwr ragweld a darparu amcangyfrif o ran amser aros i angorfa / cyfleuster addas yn unrhyw un o'r Harbyrau lle mae rhestr aros ar hyn o bryd.
Cofiwch nad oes unrhyw hawliau parcio yn cael eu rhoi i unrhyw ddeiliaid angorfa hirdymor neu ddefnyddwyr eraill yr harbyrau. Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr yr harbwr wneud eu trefniadau parcio eu hunain. Mae meysydd parcio talu ac arddangos cyhoeddus yng nghyffiniau pob un o'r harbyrau, gan gynnwys meysydd parcio talu ac arddangos a reolir gan y Cyngor canlynol:
- Aberystwyth: Maes Parcio Promenâd Newydd
- Aberaeron: Maes Parcio Traeth y De
- Cei Newydd: Maes Parcio Stryd y Cware a Maes Parcio Ffordd yr Eglwys
I gael gwybodaeth am feysydd parcio Talu ac Arddangos y Cyngor, ewch i tudalen Parcio a Gorfodi Parcio Sifil.