Harbyrau
Cyngor Sir Ceredigion yw’r Awdurdod Harbwr Statudol ar gyfer Harbyrau Aberystwyth, Aberaeron a Chei Newydd. Mae cyfuniad o gychod teithio hamdden, pysgota a masnachol yn yr harbyrau hyn, a’r prif weithgaredd yw cychod hamdden preifat.
Y Tîm Gwasanaethau Harbyrau sy’n rheoli’r harbyrau hyn o ddydd i ddydd yn unol â Pholisi Rheoli Harbyrau Ceredigion, Cod Diogelwch Porthladd a Chanllawiau Llywodraethu Da Porthladdoedd.
Mae pob Swyddfa Harbwr ym mhob un o’r Harbyrau yn cael ei staffio gan y Tîm Gwasanaethau Harbyrau yn ystod tymor yr Haf (mis Ebrill-Hydref), a phresenoldeb llai yn ystod tymor y Gaeaf (mis Tachwedd-Mawrth). Mae amserau agor yn amrywio ac felly os oes unrhyw un yn dymuno ymweld â’r swyddfa, fe’u cynghorir i gysylltu â’r Tim Gwasanaethau harbyrau o flaen llaw trwy’r manylion cyswllt â nodir isod.
Mae Cymorthfa Harbyrau yn cael eu cynnal (oni nodir yn wahanol) fel yr amlinellir isod, ac mae croeso i ddeiliaid angori fynychu’r sesiynau galw heibio hyn:
- Aberystwyth – dydd Mawrth olaf pob mis (ac eithrio mis Hydref a mis Mawrth)
- Aberaeron – dydd Mercher olaf pob mis (ac eithrio mis Hydref a mis Mawrth)
- Cei Newydd – dydd Iau olaf pob mis (ac eithrio mis Hydref a mis Mawrth)
I gysylltu â'r Tîm Gwasanaethau Harbwr, defnyddiwch y manylion cyswllt a ddarperir ar tudalen Cysylltwch â ni.
Cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch yn yr Harbyrau
Mae harbyrau'n amgylcheddau gweithio a defnydd wedi’i rannu. Mae'r Gwasanaeth Harbwr bob amser yn ceisio cefnogi a hwyluso eu defnydd diogel cyn belled â'i bod yn rhesymol ac yn ymarferol gwneud hynny. Mae Iechyd a Diogelwch yn gyfrifoldeb ar bawb, ac felly rydym yn annog defnyddwyr yr harbyrau i fod yn rhagweithiol wrth gynnal yr harbyrau fel lleoliadau diogel sy’n medru cael eu mwynhau.
Sut i hysbysu digwyddiad?
Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr harbyrau i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau, damweiniau neu berygl o fewn yr Harbyrau i'r Tîm Gwasanaethau Harbwr.
Gallwch adrodd y digwyddiad i'r Tîm Harbyrau yn Swyddfeydd yr Harbwr yn ystod eu horiau agor neu drwy'r manylion cyswllt a ddarperir ar y dudalen uchod.
Cynllun Amddiffyn yr Arfordir Aberaeron
Mae gwaith Cynllun Amddiffyn yr Arfordir yn digwydd ar hyn o bryd yn Harbwr Aberaeron. Am ddiweddariadau sy'n effeithio ar ddefnyddwyr harbwr, gweler adran Hysbysiad Lleol i Forwyr.
Am wybodaeth gyffredinol am y cynllun, ewch i tudalen Amddiffyn yr Arfordir.