Goleuadau Stryd
Mae ffyrdd sydd wedi eu goleuo’n dda yn cynorthwyo â lleihau nifer y damweiniau traffig a throseddau gan hefyd lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gyfrifol am reoli a chynnal nifer o’r goleuadau stryd yma yng Ngheredigion. Fodd bynnag dylech nodi nad yw pob un o’r goleuadau stryd yn y Sir yn gyfrifoldeb y Cyngor:
- Mae golau ar dir preifat yn aml yn gyfrifoldeb ar y perchennog tir
- Mae’r A487 a’r A44 yn rhan o Asedau Cefnffordd Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy’n gyfrifol am eu cynnal a’u cadw. Os hoffech chi gofnodi nam ar oleuadau ar y Cefnffyrdd ffoniwch 0300 123 1213
Ewch i'r dudalen Goleuadau Traffig Dros Dro am ragor o wybodaeth.
Cofnodi nam neu broblem:
Cyn cofnodi nam neu broblem, sicrhewch fod gennych Rif Uned perthnasol yr Ased er mwyn gallu llenwi’r ffurflen, fel arall ffoniwch 01545 572572.
- Golau Stryd
- Bolard wedi'i oleuo
- Arwydd wedi'i oleuo
- Croesfan Cerddwyr
- Goleuadau traffig (Parhaol)
- Arwydd rhybuddio sy'n fflachio
Mewn argyfwng dylech ffonio 01545 572572, neu os bydd argyfwng y tu allan i oriau swyddfa yng ngogledd y Sir ffoniwch 01970 625277 neu os bydd problem yn ne’r Sir ffoniwch 01239 851604.