Gwneud Cais i gael Trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth
At ddibenion ffi’r drwydded Tŷ Amlfeddiannaeth, ystyr ystafell gyfanheddol (habitable room) yw ystafell wely neu ystafell fyw. Nid yw ceginau / ystafelloedd bwyta cyfun na cheginau / ystafelloedd byw cyfun yn cyfrif fel ystafelloedd cyfanheddol oni bai fod angen y gofod byw neu’r gofod bwyta sydd ar gael yn yr ystafelloedd hynny er mwyn bodloni’r safonau gofynnol o ran gofod.
Er enghraifft:
- os yw pedair ystafell wely sengl yn fwy na 10m2 (dim ystafell fyw), ni fydd y gegin / ystafell fwyta yn cyfrif fel ystafell gyfanheddol. Codir tâl am bedair ystafell gyfanheddol wrth wneud cais i gael trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth
- os yw un neu ragor o’r pedair ystafell wely sengl yn llai na 10m2 bydd angen mwy o ofod byw (e.e. naill ai ystafell fyw 9.5m2 neu gegin / ystafell fwyta gyfun 15.5m2). Codir tâl am bum ystafell gyfanheddol
Defnyddiwch y ffurflenni o dan ddewislen I'w lawrlwytho y dudalen a dychwelwch at e-bost i Desh.Housing@Ceredigion.gov.uk neu drwy'r post i Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA.
Mae’n rhaid i bob ffurflen gais gynnwys y dogfennau/tystysgrifau angerheidiol a’r ffi briodol i gael eu hystyried fel ceisiadau llawn. Cyfeiriwch at y rhestr wirio o dan y ddewislen I'w lawrlwytho.