Esemptiad dros dro rhag y Gofynion Trwyddedu
Hysbysiad sy’n eithrio Tŷ Amlfeddiannaeth rhag bod angen trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth arno dros dro yw Hysbysiad Esemptiad Dros Dro.
Gall yr Awdurdod Lleol roi hysbysiad o’r fath os yw’n fodlon bod yr unigolyn neu’r unigolion sy’n rheoli’r eiddo’n bwriadu mynd ati yn y dyfodol agos iawn i sicrhau nad oes angen trwydded ar yr eiddo mwyach.
Dyma enghreifftiau o’r camau neu’r amgylchiadau hynny:
- wrth ddisgwyl i eiddo gael ei werthu gyda meddiant gwag, neu
- os oes bwriad i addasu’r eiddo’n fflatiau, neu
- os yw’r amgylchiadau wedi newid oherwydd bod eiddo wedi peidio â bod yn Dŷ Amlfeddiannaeth am reswm arall, er enghraifft, oherwydd bod nifer y tenantiaid wedi gostwng neu oherwydd mai dim ond un aelwyd fydd yn byw yn yr eiddo
Rhaid bod bwriad i beri i’r eiddo beidio â bod yn Dŷ Amlfeddiannaeth. Pe bai’r Tŷ Amlfeddiannaeth yn cael ei werthu i berchennog arall sy’n bwriadu’i ddefnyddio fel Tŷ Amlfeddiannaeth, ni fyddai’n bodloni’r meini prawf gofynnol.
Os tybir bod hynny’n briodol, rhoddir Hysbysiad Esemptiad Dros Dro am gyfnod o dri mis. Bydd yn rhoi cyfle i’r newidiadau arfaethedig ddigwydd. O dan amgylchiadau eithriadol, gellir rhoi ail Hysbysiad Esemptiad Dros dro i roi esemptiad pellach o dri mis. Gellir rhoi hyd at ddau Hysbysiad Esemptiad Dros Dro. Ar ôl i’r hysbysiadau hyn ddod i ben, bydd angen trwydded ar yr eiddo os yw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth.
Ffurflen Cais am Hysbysiad Eithrio Dros Dro
Os hoffech wneud cais am Trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth, ewch i’n tudalen Gwneud Cais i gael Trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth.