Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth 2024
Gan ddefnyddio ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Tai 2004 ac ar ôl ymgynghori â thrigolion y sir, penderfynodd Cyngor Sir Ceredigion gyflwyno Cynllun Trwyddedu Ychwanegol mewn rhannau penodol o’r sir yr oedd yn tybio y byddent yn elwa ar gynllun o’r fath.
Mae hyn yn golygu bod angen i berchnogion rhai mathau ychwanegol o Dai Amlfeddiannaeth yn yr ardaloedd hyn wneud cais i gael trwydded Tai Amlfeddiannaeth. Mae’r gofynion trwyddedu gorfodol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth (Rhan 2, Deddf Tai 2004) yn dal i fod yn berthnasol i’r sir gyfan.
O ran Tai Amlfeddiannaeth a feddiannwyd gan dri neu ragor o bobl gan ffurfio tri neu fwy o deuluoedd ar wahân, waeth beth fo nifer y lloriau, yn wardiau'r Sir canlynol:
- Aberystwyth - Gogledd
- Aberystwyth - Canol
- Aberystwyth - Penparcau
- Aberystwyth - Rheidol
- Aberystwyth - Bronglais
- Llanbadarn Fawr - Padarn
- Llanbadarn Fawr - Sulien
- Faenor
O ran tai Amlfeddiannaeth a feddiannwyd gan bump neu ragor o bobl, gan ffurfio dau neu fwy o deuluoedd ar wahân, waeth beth fo nifer y lloriau, mae yr holl Sir yng nghynnwys.
O ran Tai Amlfeddiannaeth adran 257, mae’r sir gyfan wedi’i chynnwys.
Daeth y cynllun trwyddedu ychwanegol hwn i rym ar 10fed Gorffennaf 2024 a bydd ar parhau am bum mlynedd.