Skip to main content

Ceredigion County Council website

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn gwneud cais?

Troseddau sy’n Gysylltiedig â Thrwyddedu

Mae’r gyfraith yn cynnwys sawl mesur i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â’r drefn o drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth. Dyma’r troseddau:

  • methu â thrwyddedu Tŷ Amlfeddiannaeth
  • mynd tu hwnt i nifer y meddianwyr a bennir yn y drwydded
  • methu â chydymffurfio ag unrhyw amodau a bennir yn y drwydded

Gall unrhyw unigolyn sy’n ymwneud â’r gwaith o reoli Tŷ Amlfeddiannaeth gael ei erlyn am fethu â thrwyddedu Tŷ Amlfeddiannaeth gyda’r Awdurdod Lleol. Gall y dirwyon am fethu â chydymffurfio fod yn llym (hyd at £20,000). Gall rhywun sy’n wynebu achos am gyflawni’r drosedd hon ddefnyddio’r amddiffyniad fod cais llawn eisoes wedi’i gyflwyno ond nad oes penderfyniad wedi’i wneud arno hyd yma. Ym mhob achos, gellir defnyddio’r amddiffyniad fod esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio â’r gofyniad.

Os bydd deiliad trwydded yn methu â chydymffurfio ag amodau’r drwydded, gall gael ei erlyn yn y llysoedd a gall gael dirwy o hyd at £5,000.

Canlyniadau pellach os na fyddwch yn gwneud cais am drwydded Tŷ Amlfeddiannaeth

  • Efallai y bydd unrhyw un sy’n denant mewn ‘Tŷ Amlfeddiannaeth didrwydded’ yn gallu gwneud cais am Orchymyn Ad-dalu Rhent. Gall hyn beri iddi fod yn ofynnol i’r landlord ad-dalu hyd at 12 mis o arian rhent i’r tenantiaid
  • Ni roddir ‘hysbysiad adran 21’ mewn perthynas â thenantiaeth fyrddaliol ar gyfer ‘Tŷ Amlfeddiannaeth didrwydded’ cyhyd a’i fod yn parhau i fod yn Dŷ Amlfeddiannaeth
  • Os yw’r Awdurdod Lleol yn fodlon nad yw’n debygol iawn y bydd Tŷ Amlfeddiannaeth yn cael ei drwyddedu, mae dyletswydd arno i ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli’r eiddo hyd nes i drefniadau trwyddedu boddhaol gael eu gwneud. Gwneir hyn drwy gyfrwng Gorchymyn Rheoli Dros Dro am gyfnod o hyd at flwyddyn. Bydd yr Awdurdod Lleol yn rheoli'r eiddo ac yn adennill y costau o'r rhent neu'r perchennog. Ni allant aseinio tenantiaeth newydd heb gytundeb y perchennog. Mae'r Gorchymyn Rheoli Dros Dro yn caniatáu i'r Awdurdod Lleol wneud yn siŵr;
    • Bod camau’n cael eu cymryd ar unwaith i ddiogelu iechyd, diogelwch neu les y rhai sy’n byw yn y tŷ, neu
    • Fod camau’n cael eu cymryd ar unwaith i ddiogelu iechyd, diogelwch neu les y meddianwyr neu’r tirfeddianwyr eraill yn yr ardal, a
    • Bod unrhyw gamau priodol eraill yn cael eu cymryd i sicrhau bod y tŷ’n cael ei reoli’n briodol hyd nes bod modd trwyddedu’r Tŷ Amlfeddiannaeth neu hyd nes i Orchymyn Rheoli Terfynol gael ei wneud
  • Gall yr Awdurdod Lleol hefyd roi gorchymyn rheoli pan fydd angen iddo wneud hynny i ddiogelu meddianwyr neu gymdogion Tŷ Amlfeddiannaeth rhag ‘niwed’ (ac eithrio oherwydd amodau ffisegol). At y dibenion hyn, gellir tybio bod troi meddianwyr allan yn anghyfreithlon yn gyfystyr â ‘niwed’
  • Gellir dilyn y Gorchymyn Rheoli Dros Dro gan Orchymyn Rheoli Terfynol am hyd at gyfnod o 5 mlynedd lle nad yw'r landlord wedi cydymffurfio â'r rheoliadau. O dan orchymyn rheoli terfynol bydd yr Awdurdod Lleol yn gyfrifol am yr eiddo, gan gynnwys gallu rhoi tenantiaethau newydd ac adennill yr holl gostau trwy'r rhent. Bydd rhent dros ben yn cael ei ad-dalu i'r perchennog
  • Gall fod canlyniadau cyfreithiol eraill (gan ddibynnu ar yr yswiriant a’r morgais sydd ar waith ac ati)
  • Os caiff landlordiaid neu reolwyr eu herlyn am fethu â thrwyddedu Tŷ Amlfeddiannaeth neu am dorri amod trwydded, mae hefyd yn debygol NA fyddant yn cael eu hystyried yn ‘unigolion addas a phriodol’. Gan hynny, ni fydd modd iddynt gael trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth ar gyfer unrhyw eiddo arall sy’n cael ei reoli ganddynt
  • Yn ogystal, mae hyn yn debygol o effeithio ar eu gallu i gael trwydded trwy Rentu Doeth Cymru ac o ganlyniad ni fyddant yn gallu rheoli unrhyw un o'u heiddo rhent