Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cynnal Perthynas Dda

Beth yw Aflonyddu?

Gall aflonyddu ddigwydd mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Bygwth tenant i’w berswadio i adael
  • Diffodd gwasanaethau hanfodol, neu gyfyngu arnynt, fel cyflenwadau nwy, trydan neu ddŵr
  • Ymyrryd â phost y tenant
  • Ymweliadau rheolaidd diangen gan y landlord neu’i gynrychiolwyr, yn enwedig os byddant yn ymweld yn hwyr y nos neu’n ddirybudd
  • Mynd i ystafell neu eiddo’r tenant heb ganiatâd y tenant
  • Atal tenant rhag mynd i’r eiddo neu ran o’r eiddo
  • Caniatáu i eiddo fynd i’r fath gyflwr fel nad yw’n ddiogel i neb fyw ynddo
  • Trais corfforol yn erbyn y tenant
  • Aflonyddu ar sail rhyw, hil, anabledd neu rywioldeb

Gallai’r gweithredoedd hyn a gweithredoedd eraill sy’n debygol o roi pwysau ar denant i adael ei lety fod yn gyfystyr ag aflonyddu. Mae aflonyddu’n drosedd ac mae’n torri’r gyfraith sifil.

Beth yw troi allan anghyfreithlon?

Troi tenant allan, neu geisio troi tenant allan, heb ddilyn y broses gyfreithiol briodol yw troi allan anghyfreithlon. Dyma rai enghreifftiau cyffredin: newid cloeon (heb ddilyn y drefn briodol) i atal tenant rhag mynd i’r eiddo, neu orfodi tenant i adael drwy ei fygwth, codi braw arno neu ddefnyddio trais yn ei erbyn. Mae gweithredoedd fel cloi drws y toiled neu atal tenant rhag mynd i ran o’r adeilad y mae ganddo hawl i fynd iddo hefyd yn gyfystyr â throi allan anghyfreithlon.

Pwy allai dorri’r deddfau hyn?

Yn ôl y gyfraith, gellir dwyn achos yn erbyn y landlord, ei asiant neu unrhyw unigolyn arall am iddo aflonyddu ar denant neu droi tenant allan yn anghyfreithlon os gellir dangos ei fod yn bwriadu achosi i’r preswylydd adael yr eiddo neu ran ohono neu os oedd ganddo le rhesymol i gredu y gallai ei weithredoedd achosi i’r preswylydd wneud hynny. Gellir erlyn yr unigolyn hwnnw os yw wedi gweithredu’n fwriadol neu’n fyrbwyll.

Beth yw’r gosb am aflonyddu ar denant a’i droi allan yn anghyfreithlon?

Os bydd landlord wedi gweithredu’n anghyfreithlon, mae nifer o gamau y gellir eu cymryd yn ei erbyn. Os oes angen, gellir cymryd pob un o’r camau hyn gyda’i gilydd.

  • Gall yr Awdurdod Lleol neu gynrychiolydd y tenant ymyrryd i geisio atal yr aflonyddu rhag digwydd
  • Mae gan yr Awdurdod Lleol bŵer i erlyn y sawl sy’n gyfrifol am aflonyddu ar y tenant a/neu’i droi allan yn anghyfreithlon yn y llysoedd troseddol. O’i gael yn euog, gallai wynebu dirwy fawr a/neu ddedfryd o garchar am hyd at ddwy flynedd
  • Gall Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod Lleol weithredu os oes angen atgyweirio’r eiddo. Gallant hefyd fynnu bod landlord yn ailgysylltu gwasanaethau hanfodol os ydynt wedi’u datgysylltu
  • Gellir dwyn achos cyfreithiol ar ran y tenantiaid yn y Llys Sirol er mwyn iddynt gael iawndal. Gall y tenant fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol i dalu costau’r achos cyfreithiol ac mae gan y llysoedd bwerau i orchymyn lefelau uchel iawn o iawndal. (Gall fod yn ddegau o filoedd o bunnoedd.) Gall y llys roi gwaharddeb i atal yr aflonyddu neu i fynnu bod y landlord yn caniatáu i’r tenant a gafodd ei droi allan yn anghyfreithlon ddychwelyd i’r eiddo
  • Gall yr heddlu weithredu pan fydd trais neu ymosodiad wedi digwydd, neu pan fydd rhywun wedi bygwth trais

Mae’n amlwg ei bod yn bwysig i’r landlord a’r tenant weithredu’n briodol bob amser a therfynu tenantiaeth gan ddilyn y drefn gyfreithiol gywir. Mae cyngor a chymorth ar gael i landlordiaid i i sicrhau eu bod yn dilyn y drefn briodol.

Pwy sy’n cael eu hamddiffyn rhag iddynt gael eu troi allan yn anghyfreithlon?

Mae Deddf Amddiffyn rhag Troi Allan 1977 yn amddiffyn y rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw mewn llety rhent. Mae hyn yn golygu nad oes modd eu gorfodi i adael eu cartref heb ddilyn y broses gyfreithiol briodol. Felly, fel rheol, rhaid i’r landlord roi rhybudd priodol i’r tenant (fel arfer rhaid rhoi dau fis o rybudd yn ysgrifenedig os yw’r tenant wedi cydymffurfio â’r cytundeb tenantiaeth). Os yw’r tenant yn penderfynu peidio â gadael ar ddiwedd y cyfnod hwn, rhaid i’r landlord gael gorchymyn llys i adennill meddiant o’r eiddo. Ar yr amod ei fod wedi dilyn y drefn briodol, bydd y llys yn rhoi gorchymyn i’r landlord a gall fod rhaid i’r tenant dalu’r costau. Os oes angen, gall beilïaid sydd wedi’u hawdurdodi gan warant llys ddefnyddio grym rhesymol i droi’r tenant allan.

O orfodi rhywun o’i gartref drwy unrhyw ddull arall ac eithrio gorchymyn llys, gall fod yn gyfystyr â throi allan anghyfreithlon. Gallai’r asiantaethau sy’n gorfodi’r gyfraith gynnal ymchwiliad troseddol i’r achos. Mae troi allan anghyfreithlon yn torri’r gyfraith droseddol a’r gyfraith sifil. Peidiwch â mentro torri’r gyfraith. Gofynnwch am gyngor bob amser

Fel rheol, bydd modd terfynu tenantiaeth yn gyfreithlon ac adennill meddiant o’r eiddo. Mae’n bwysig i bob parti bod tenantiaeth yn cael ei therfynu’n gyfreithlon. Yn y pen draw, bydd modd i’r landlord adennill meddiant o’r eiddo’n gyflymach drwy ddilyn y drefn briodol.

Ble i gael cymorth a chyngor

  • Gallwch gael cyngor am faterion cyfreithiol gan gyfreithiwr sy’n arbenigo ym maes tai neu gan Gyngor ar Bopeth
  • Gallech ystyried ymuno â chymdeithas landlordiaid a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi am ystod eang o faterion, gan gynnwys y ffordd gywir o roi rhybudd a chael gorchymyn ildio meddiant gan y llysoedd
  • Cysylltwch â’r Adran Tai, trwy Fy Nghyfrif neu Clic, i allu rhoi rhywfaint o gyngor i chi neu ddweud wrthych ble y gallwch gael cyngor ar ddod â thenantiaeth i ben

Os ydych chi am derfynu tenantiaeth (neu drwydded) ac adennill meddiant o’ch eiddo, rhaid i chi roi rhybudd i’ch tenant drwy roi gwybod iddo pryd yr hoffech i’r denantiaeth (neu’r drwydded) ddod i ben a’r dyddiad hwyraf y mae’n rhaid iddo adael yr eiddo.

Bydd y math o rybudd a hyd y rhybudd yn dibynnu ar y math o denantiaeth, p’un a yw’n drwydded ai peidio, a’r rheswm dros ofyn i’r tenant adael.

Ar gyfer y rhan fwyaf o’r tenantiaethau, bydd rhaid i chi roi rhybudd ar ffurf benodol, gan roi gwybodaeth a rhybuddion penodol ynddo. Fel arfer, bydd rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig. Gallwch gael gafael ar rybudd safonol gan werthwyr deunydd ysgrifennu cyfreithiol.

Mae gennych hawl awtomatig i gymryd meddiant o’r eiddo ar ddiwedd tenantiaeth fyrddaliol sicr, ar yr amod eich bod wedi rhoi rhybudd priodol i’r tenant bod angen iddo adael. Fodd bynnag, bydd rhaid i chi fynd i’r Llys i gael gorchymyn ildio meddiant os nad yw’r tenant am adael.

Terfynu tenantiaeth fyrddaliol sicr

Pan fydd y cyfnod penodol wedi dod i ben (6 neu 12 mis fel rheol – darllenwch y cytundeb tenantiaeth), mae gan y landlord hawl awtomatig i gymryd meddiant o’r eiddo heb roi unrhyw reswm. I gymryd meddiant o’r eiddo, fodd bynnag, rhaid i’r landlord gyflwyno hysbysiad Adran 21 (Deddf Tai 1988) gan roi o leiaf 2 fis o rybudd (o’r dyddiad nesaf y bydd y rhent yn ddyledus) bod angen i’r tenant adael. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch y drefn briodol i’w dilyn. Os na fyddwch yn cyflwyno hysbysiad yn briodol, gall fod oedi cyn bod modd i chi adennill meddiant o’r eiddo.

Os bydd y tenant yn gadael yr eiddo yn ystod cyfnod y rhybudd, gallwch ddychwelyd i’ch eiddo ac ni fydd angen i chi gysylltu â’r llysoedd i gael cymorth.

Os bydd cyfnod y rhybudd yn dod i ben heb i’r tenant adael yr eiddo, bydd angen i chi ddechrau ar y broses o’i droi allan drwy’r llysoedd. Ni ddylech geisio cael y tenant i adael yr eiddo drwy rym. Os bydd y llysoedd yn gweld yn dda, byddant yn trefnu i chi adennill meddiant o’r eiddo.

Terfynu tenantiaeth fyrddaliol sicr yn gynnar

Mewn rhai achosion, gall y landlord geisio adennill meddiant o’r eiddo cyn i’r cyfnod penodol ddod i ben. Er enghraifft:

  • Os yw’r tenant ar ei hôl hi yn talu’r rhent (rhaid i’r swm gyfateb i’r hyn a nodir yn Neddf Tai 1988)
  • Os yw’r tenant wedi difrodi’r eiddo
  • Os yw’r landlord am fyw yn yr eiddo fel ei brif gartref

Mae 17 sail dros derfynu tenantiaeth yn gynnar. I gymryd meddiant o’r eiddo, rhaid i’r landlord gyflwyno hysbysiad o dan Adran 8 (Deddf Tai 1988). Mae’r rhybudd i adael yn amrywio o bythefnos i ddeufis, gan ddibynnu ar y rheswm dros gymryd meddiant. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch y drefn briodol i’w dilyn. Os na fyddwch yn cyflwyno hysbysiad yn briodol, gall fod oedi cyn bod modd i chi gymryd meddiant o’r eiddo.

Os bydd y tenant yn gadael yr eiddo yn ystod cyfnod y rhybudd, gallwch ddychwelyd i’ch eiddo ac ni fydd angen i chi gysylltu â’r llysoedd i gael cymorth.

Os bydd cyfnod y rhybudd yn dod i ben heb i’r tenant adael yr eiddo, bydd angen i chi ddechrau ar y broses o’i droi allan drwy’r llysoedd.

Terfynu cytundeb trwydded

Gall fod gan eich tenant drwydded yn hytrach na thenantiaeth, a hynny fel rheol os yw’n byw yn eich cartref gyda chi fel lletywr (neu lojer) heb fod ganddo hawl neilltuedig i fynd i’w ystafell. Gallwch derfynu trwydded drwy gyflwyno ‘rhybudd i adael’. Bydd hyd y rhybudd yn dibynnu ar y cytundeb, ond yn aml bydd angen rhoi o leiaf bedair wythnos o rybudd.

Os oes gan eich tenant denantiaeth neu drwydded neilltuedig (er enghraifft, os yw’n byw gyda chi, neu mewn llety gwyliau neu hostel), dim ond ‘rhybudd rhesymol’ y bydd rhaid i chi ei roi, sef un cyfnod rhent fel rheol.

Aflonyddu a throi allan anghyfreithlon

Os na fyddwch yn dilyn y drefn briodol i gymryd meddiant o’r eiddo, gallech gael eich erlyn am aflonyddu ar denant a/neu’i droi allan yn anghyfreithlon. Gall hyn arwain at ddirwyon mawr a dedfryd o garchar mewn rhai achosion. Gallech gael eich erlyn drwy achos troseddol neu achos sifil a gall y tenant neu’i gynrychiolydd neu’r Awdurdod Lleol ddwyn achos yn eich erbyn. I gael mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n gyfystyr ag aflonyddu, ewch i’n tudalen Diogelu Tenant rhag i neb aflonyddu arno na'i droi allan yn Anghyfreithlon.

Cyngor cyfreithiol

Mae bob amser yn syniad da gofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch y ffordd gywir o derfynu cytundeb tenantiaeth neu drwydded. Os na fyddwch yn dilyn y drefn gywir ac yn defnyddio’r ffurf gywir, efallai na fydd yr hysbysiad yn dal dŵr o safbwynt cyfreithiol. Os byddwch wedi gwneud cais am orchymyn ildio meddiant, efallai y bydd y llys yn gwrthod derbyn eich cais. Os felly, bydd rhaid i chi ailddechrau’r trafodion, gan beri oedi diangen.

O bryd i’w gilydd, gall y berthynas rhwng y landlord a’r tenant chwalu. Gallwch wneud sawl peth i helpu i gadw’r berthynas yn gyfeillgar ac i sicrhau bod yr eiddo’n cael gofal.

Byddwch yn broffesiynol

Un rheol gyffredinol bwysig i’w dilyn wrth ymdrin â’ch tenant yw bod yn gwrtais ac yn broffesiynol bob amser – hyd yn oed os nad yw’r tenant yn ymddwyn yn yr un ffordd. Gall hyn helpu i sicrhau nad yw’r tenant yn teimlo’ch bod chi’n aflonyddu arno.

Dewch i wybod beth sy’n digwydd

Ewch i’r eiddo rhent o bryd i’w gilydd i gadw llygad ar unrhyw faterion cynnal a chadw neu unrhyw broblemau o ran y cymdogion. Dylech ystyried llunio rhestr cynnal a chadw ar ddechrau’r cyfnod rhentu.

Cofiwch – os ydych yn bwriadu mynd i’r eiddo, rhaid i chi roi rhybudd rhesymol i’ch tenant cyn i chi wneud hynny – 24 awr fel arfer. Os na fyddwch yn rhoi digon o rybudd neu os byddwch yn ymweld â’r eiddo’n rhy aml, gall y tenant deimlo’ch bod yn aflonyddu arno. Efallai y gallech gasglu’r arian rhent unwaith y mis a thrafod unrhyw broblemau o ran yr eiddo ar yr un pryd.

Siaradwch â’r cymdogion i gael gwybod am ymddygiad eich tenantiaid. Ydyn nhw’n cael partïon swnllyd bob nos? Ydyn nhw bob amser yn tarfu ar y cymdogion? Ydy’r heddlu wedi cael eu galw erioed? Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod popeth yn iawn. Byddwch yn rhagweithiol a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sy’n digwydd.

Gweithredwch yn brydlon

Pan fydd angen cyflawni unrhyw waith cynnal a chadw, gwnewch hynny’n brydlon i ddatrys y broblem. Cofiwch y byddwch chi’n dal i fod yn berchen ar yr eiddo ar ôl i’r tenant symud oddi yno, felly mae angen i chi sicrhau bod yr eiddo’n cael gofal. Os bydd oedi diangen ac os bydd problemau dŵr neu broblemau trydanol yn codi o hyd, bydd yn creu chwerwder a drwgdybiaeth.

Dewiswch gwmni y gallwch ymddiried ynddo a rhowch wybod iddo fod angen iddo roi rhybudd i’ch tenant er mwyn mynd i’r tŷ i gyflawni unrhyw waith unioni. Ni ddylech fyth roi allwedd i’r contractiwr er mwyn iddo fynd i’r tŷ o’i ran ei hunan, oni bai eich bod wedi cytuno ar hynny ymlaen llaw gyda’r tenant ar gyfer pob problem cynnal a chadw.

Dylech fynd i’r afael â phroblemau o ran talu’r rhent cyn gynted ag y byddant yn codi. Dylai’ch cytundeb ganiatáu i’r rhent gael ei dalu’n rheolaidd ar ddiwrnod penodol o’r wythnos, y mis neu’r flwyddyn. Os bydd tenant yn methu taliad, rhowch wybod iddo ar unwaith a gofynnwch iddo dalu’r arian. Os bydd ôl-ddyledion rhent difrifol yn cronni, mae’r gyfraith yn caniatáu i chi gael eich eiddo’n ôl os byddwch yn dilyn y weithdrefn briodol.

Cadwch gofnodion cywir

Cadwch gofnod manwl o unrhyw drafodion cyfreithiol neu ariannol rhyngoch chi a’ch tenant, yn ogystal ag unrhyw ohebiaeth ffurfiol neu anffurfiol. Mae’n bwysig eich bod yn cadw cofnod o unrhyw faterion cynnal y chadw yr ydych wedi ymdrin â nhw, yn ogystal ag unrhyw rybuddion yr ydych wedi’u rhoi neu unrhyw geisiadau yr ydych wedi’u gwneud, a hynny er mwyn i chi allu cyfeirio atynt os bydd angen yn y dyfodol. Cadwch gopïau o bob e-bost a phob llythyr rhyngoch chi a’ch tenant, a nodwch ddyddiad a manylion unrhyw sgyrsiau ffôn.

Aflonyddu

Os byddwch yn ymddwyn mewn rhai ffyrdd penodol tuag at y tenant, efallai y byddwch yn aflonyddu arno. Os byddwch yn ymweld yn rhy aml, yn enwedig heb drefnu ymlaen llaw, yn ymyrryd â’r post neu’r gwasanaethau (nwy, trydan ac ati), yn eich gadael eich hun i mewn i’r eiddo ac ati, gallech gael eich erlyn am aflonyddu. Gall hyn arwain at ddirwy fawr ac, mewn rhai achosion, at ddedfryd o garchar. Gallech gael eich erlyn drwy achos troseddol neu achos sifil, a gall y tenant, ei gynrychiolwyr neu’r Awdurdod Lleol eich erlyn. I gael mwy o wybodaeth am aflonyddu, ewch i’r tudalen Diogelu Tenant rhag i neb aflonyddu arno na'i droi allan yn Anghyfreithlon.

Troi allan anghyfreithlon

Troi tenant allan, neu ymgais i wneud hynny, heb ddilyn y drefn gyfreithiol briodol yw troi allan anghyfreithlon. Ymhlith yr enghreifftiau cyffredin mae newid y cloeon (heb ddilyn y broses briodol) i atal y tenant rhag mynd i’r eiddo, neu orfodi’r tenant i adael drwy ei fygwth, drwy godi ofn arno neu drwy gyflawni trais yn ei erbyn. Gall cloi drws y toiled neu atal y tenant rhag mynd i ran o’r adeilad y mae ganddo hawl i fynd iddi hefyd fod yn gyfystyr â throi allan anghyfreithlon.

Os bydd popeth arall yn methu ac os na fydd modd adfer y berthynas, bydd y gyfraith yn caniatáu i chi adennill meddiant o’ch eiddo, ar yr amod eich bod wedi dilyn y drefn briodol wrth gytuno ar drefniadau’r denantiaeth. Rhaid gwneud hyn drwy ddilyn y drefn briodol. Cewch hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen am adennill meddiant.