Cynllun Lesio Cymru
Beth yw Cynllun Lesio Cymru?
Cynllun peilot a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yw Cynllun Lesio’r Sector Rhentu Preifat sydd â’r nod o alluogi mwy o bobl i rentu tai fforddiadwy, o safon, dros gyfnod hir yn y sector rhentu preifat, gyda chymorth i denantiaid. Darparu diogelwch i denantiaid a hyder i landlordiaid.
Mae’n gynllun sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a manteision i’r deiliaid contract ac i’r landlord preifat. Y bwriad yw y bydd y denantiaeth yn llwyddiant i’r naill a’r llall.
Mae’r cynllun yn cynnig pecyn llawn i landlordiaid preifat o ran rheoli’r eiddo, gan gynnwys atgyweirio a chynnal a chadw ac incwm rhent wedi ei warantu hyd yn oed pan na fo deiliaid contract yn yr eiddo.
Byddwn yn rhoi cymorth parhaus i’r deiliaid contract i’w helpu i ddod yn fwy annibynnol a chynnal tenantiaeth lwyddiannus.
Beth all y cynllun ei gynnig i Landlordiaid Preifat?
Bydd perchnogion eiddo yn elwa ar y canlynol:
- Lesoedd gyda Chyngor Sir Ceredigion am gyfnodau o 5 - 20 mlynedd, gan ddibynnu ar amodau
- Taliadau rhent wedi’u gwarantu am hyd y les ar gyfradd berthnasol y Lwfans Tai Lleol
- Cyngor Sir Ceredigion yn rheoli’r tenantiaethau yn llwyr dros gyfnod y les
- Hyd at £5000, fel grant, i wella’r eiddo er mwyn sicrhau ei fod o’r safon y cytunwyd arni neu i gynyddu sgôr yr EPC i lefel C. Mae cyllid grant ychwanegol posib o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag
- Mae grant hefyd wedi'i gyflwyno i wella effeithlonrwydd thermol eiddo. Disgwylir i'r cyllid hwn fod ar gael tan ddiwedd mis Mawrth 2025, fodd bynnag mae'n ddangosol ac felly ni ellir ei warantu
- Ni fydd perchennog yr eiddo yn gyfrifol am dalu treth y cyngor na’r biliau cyfleustodau
- Gwarant o gymorth priodol i deiliaid contract drwy gydol oes y les
Hoffech chi rentu eich eiddo i ni?
Rydym yn awyddus i lesio eiddo wedi’i ddodrefnu neu heb ei ddodrefnu, am bum mlynedd neu fwy, i ddarparu cartrefi i drigolion Ceredigion.
Mae angen eiddo o wahanol fath a maint arnom ledled prif ardaloedd y sir.
Os byddwch yn lesio eich eiddo i ni bydd angen i chi:
- Ddarparu tystysgrifau Diogelwch Nwy, Diogelwch Trydan a Pherfformiad Ynni (byddwn ni yn gyfrifol am unrhyw wasanaethu yn ystod cyfnod y les)
- Darparu Yswiriant Adeiladau (gan gynnwys Atebolrwydd Cyhoeddus)
- Dangos cadarnhad eich bod wedi gwneud trefniadau yswiriant a chael caniatâd benthyciwr morgais ar gyfer cymryd rhan yn y cynllun (nid yw hyn yn cynnwys morgais prynu-i-rentu safonol)
- Bodloni’r safonau eiddo gorfodol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru (mae grant ar gael i wella eiddo fel ei fod yn cyrraedd y safon y cytunwyd arni)
- Darparu copi o dystysgrif y Gofrestrfa Tir i gadarnhau perchnogaeth yr eiddo
- Bod yn gyfrifol am dalu unrhyw daliadau gwasanaeth sy'n gysylltiedig â'r eiddo ac unrhyw waith allanol i'r eiddo
Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth. Cysylltwch â ni i drafod ymhellach.
Mae rhagor o wybodaeth ar dudalennau Cynllun Lesio Cymru: canllawiau Llywodraeth Cymru.