Contractau Meddiannaeth Safonol
Gelwir tenantiaid a deiliaid trwydded yn ddeiliaid contract o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016. Mae gan ddeiliaid contract gontractau meddiannaeth (sy'n disodli trefniadau tenantiaeth a thrwydded).
Mae 2 fath o gontract meddiannaeth:
- Contract diogel: i'w ddefnyddio gan landlordiaid cymunedol
- Contract safonol: dyma'r contract diofyn ar gyfer y sector rhentu preifat ond gall awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ei ddefnyddio mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, contract safonol â chymorth o fewn llety â chymorth)
Mae 4 math o delerau a all fod yn rhan o gontractau meddiannaeth:
- Materion Allweddol: er enghraifft, enwau'r landlord a deiliad y contract a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract
- Telerau Sylfaenol: yn cwmpasu agweddau pwysicaf y contract, gan gynnwys sut mae'r landlord yn cael meddiant a rhwymedigaethau'r landlord o ran atgyweiriadau
- Telerau Atodol: yn delio â'r materion mwy ymarferol o ddydd i ddydd sy'n berthnasol i'r contract meddiannaeth. Er enghraifft, y gofyniad i hysbysu'r landlord os yw'r eiddo yn mynd i gael ei adael yn wag am 4 wythnos neu fwy
- Telerau Ychwanegol: yn rhoi sylw i unrhyw faterion eraill y cytunwyd arnynt yn benodol, er enghraifft teler sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes. Rhaid i unrhyw delerau ychwanegol fod yn deg, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015
Mae'n ofynnol i chi roi datganiad ysgrifenedig o'r contract meddiannaeth i bob deiliad contract (mae hwn yn disodli eich tenantiaeth neu gytundeb trwydded presennol). Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig gynnwys holl delerau'r contract.
Ar gyfer contractau rhent newydd mae'n rhaid rhoi’r datganiad ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad meddiannu o dan y contract. Gellir rhoi’r datganiad ysgrifenedig ar ffurf copi caled neu'n electronig (os yw deiliad y contract yn cytuno).
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Contractau meddiannaeth safonol: canllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae templedi ac enghreifftiau o bob contract i’w gweld ar dudalen Rhentu cartrefi: datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol Llywodraeth Cymru.