Diogelu Tenant rhag i neb aflonyddu arno na'i droi allan yn Anghyfreithlon
Beth yw aflonyddu?
Gall aflonyddu ddigwydd mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- Bygwth tenant i’w berswadio i adael
- Diffodd gwasanaethau hanfodol, neu gyfyngu arnynt, yn barhaus, fel cyflenwadau nwy, trydan neu ddŵr
- Ymyrryd â phost y tenant
- Ymweliadau rheolaidd diangen gan y landlord neu’i gynrychiolwyr, yn enwedig os byddant yn ymweld yn hwyr y nos neu’n ddirybudd
- Mynd i ystafell neu eiddo’r tenant heb ganiatâd y tenant
- Atal tenant rhag mynd i’r eiddo neu ran o’r eiddo
- Caniatáu i eiddo fynd i’r fath gyflwr fel nad yw’n ddiogel i neb fyw ynddo
- Trais corfforol yn erbyn y tenant
- Aflonyddu ar sail rhyw, hil, anabledd neu rywioldeb
Gallai’r gweithredoedd hyn a gweithredoedd eraill sy’n debygol o roi pwysau ar denant i adael ei lety fod yn gyfystyr ag aflonyddu. Mae aflonyddu’n torri’r gyfraith droseddol a’r gyfraith sifil. I’w amddiffyn ei hun, gall landlord ddweud bod y camau a gymerwyd ganddo’n ‘rhesymol’, er enghraifft mewn argyfwng.
Beth yw troi allan anghyfreithlon?
Troi tenant allan, neu geisio troi tenant allan, heb ddilyn y broses gyfreithiol briodol yw troi allan anghyfreithlon. Dyma rai enghreifftiau cyffredin: newid cloeon (heb ddilyn y drefn briodol) i atal tenant rhag mynd i’r eiddo, neu orfodi tenant i adael drwy ei fygwth, codi braw arno neu ddefnyddio trais yn ei erbyn. Mae gweithredoedd fel cloi drws y toiled neu atal tenant rhag mynd i ran o’r adeilad y mae ganddo hawl i fynd iddo hefyd yn gyfystyr â throi allan anghyfreithlon.
Pwy allai dorri’r deddfau hyn?
Yn ôl y gyfraith, gellir dwyn achos yn erbyn y landlord, ei asiant neu unrhyw berson arall am iddo aflonyddu ar denant neu droi tenant allan yn anghyfreithlon os gellir dangos ei fod yn bwriadu achosi i’r preswylydd adael yr eiddo neu ran ohono neu os oedd ganddo le rhesymol i gredu y gallai ei weithredoedd achosi i’r preswylydd wneud hynny. Gellir erlyn yr unigolyn hwnnw os yw wedi gweithredu’n fwriadol neu’n fyrbwyll.
Beth yw’r gosb am aflonyddu ar denant a’i droi allan yn anghyfreithlon?
Os bydd landlord wedi gweithredu’n anghyfreithlon, mae nifer o gamau y gellir eu cymryd yn ei erbyn. Os oes angen, gellir cymryd pob un o’r camau hyn gyda’i gilydd.
- Gall yr Awdurdod Lleol neu gynrychiolydd y tenant ymyrryd i geisio atal yr aflonyddu rhag digwydd
- Mae gan yr Awdurdod Lleol bŵer i erlyn y sawl sy’n gyfrifol am aflonyddu ar y tenant a/neu’i droi allan yn anghyfreithlon yn y llysoedd troseddol. O’i gael yn euog, gallai wynebu dirwy fawr a/neu ddedfryd o garchar am hyd at ddwy flynedd
- Gall Swyddogion Iechyd Amgylcheddol yr Awdurdod Lleol weithredu os oes angen atgyweirio’r eiddo. Gallant hefyd fynnu bod landlord yn ailgysylltu gwasanaethau hanfodol os ydynt wedi’u datgysylltu
- Gellir dwyn achos cyfreithiol ar ran y tenantiaid yn y Llys Sirol er mwyn iddynt gael iawndal. Gall y tenant fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol i dalu costau’r achos cyfreithiol ac mae gan y llysoedd bwerau i orchymyn lefelau uchel iawn o iawndal. (Gall fod yn ddegau o filoedd o bunnoedd.) Gall y llys roi gwaharddeb i atal yr aflonyddu neu i fynnu bod y landlord yn caniatáu i’r tenant a gafodd ei droi allan yn anghyfreithlon ddychwelyd i’r eiddo
- Gall yr heddlu weithredu pan fydd trais neu ymosodiad wedi digwydd, neu pan fydd rhywun wedi bygwth trais
- Gallai’r landlord golli ei drwydded gan Rentu Doeth Cymru a chael ei orfodi i ddefnyddio rhywun arall i reoli’r eiddo ar ei ran neu i roi’r gorau i rentu’n gyfan gwbl
Mae’n amlwg ei bod yn bwysig i’r landlord a’r tenant weithredu’n briodol bob amser a therfynu tenantiaeth gan ddilyn y drefn gyfreithiol gywir. Mae cyngor a chymorth ar gael i landlordiaid i sicrhau eu bod yn dilyn y drefn briodol.
Pwy sy’n cael eu hamddiffyn rhag iddynt gael eu troi allan yn anghyfreithlon?
Mae Deddf Amddiffyn rhag Troi Allan 1977 yn amddiffyn y rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw mewn llety rhent. Mae hyn yn golygu nad oes modd eu gorfodi i adael eu cartrefi heb ddilyn y broses gyfreithiol briodol. Felly, fel rheol, rhaid i’r landlord roi rhybudd priodol i’r tenant (ar hyn o bryd rhaid rhoi chwech fis o rybudd yn ysgrifenedig os yw’r tenant wedi cydymffurfio â’r cytundeb tenantiaeth). Os yw’r tenant yn penderfynu peidio â gadael ar ddiwedd y cyfnod hwn, rhaid i’r landlord gael gorchymyn llys i feddiannu’r eiddo. Ar yr amod ei fod wedi dilyn y drefn briodol, bydd y llys yn rhoi gorchymyn i’r landlord a gall fod rhaid i’r tenant dalu’r costau. Os oes angen, gall beilïaid sydd wedi’u hawdurdodi gan warant llys ddefnyddio grym rhesymol i droi’r tenant allan.
O orfodi rhywun o’i gartref drwy unrhyw ddull arall ac eithrio gorchymyn llys, gall fod yn gyfystyr â throi allan anghyfreithlon. Mae troi allan anghyfreithlon yn torri’r gyfraith droseddol a’r gyfraith sifil.
Ble i gael cymorth a chyngor
- Gallwch gael cyngor am faterion cyfreithiol gan gyfreithiwr sy’n arbenigo ym maes tai neu gan Gyngor ar Bopeth
- Gall Shelter Cymru roi cyngor am faterion sy’n gysylltiedig â thai ac mewn rhai achosion gall weithredu fel cynrychiolydd cyfreithiol
- Gall fod modd i Wasanaeth Tai Cyngor Sir Ceredigion roi rhywfaint o gyngor i chi neu roi gwybod i chi ble i gael cyngor ynghylch terfynu tenantiaeth