Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)
System sy’n cael ei defnyddio gan yr Awdurdodau Lleol i asesu pa mor addas yw tai i bobl fyw ynddynt yw’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai. Yn 2006, cymerodd y system hon le’r system flaenorol – ‘y Safon Ffitrwydd’.
Mae’n seiliedig ar yr egwyddor y gellir mynd ati’n wrthrychol i asesu unrhyw annedd, gan gynnwys ei strwythur, ei mynedfa, unrhyw dai allan a’r ardd, i bennu pa mor ddiogel yw’r annedd i’r bobl sy’n byw ynddi ac unrhyw ymwelwyr. O dan y system hon, gellir pennu pa waith y dylid ei gyflawni i sicrhau nad oes peryglon diangen y gellir eu hosgoi yn yr annedd.
Ar sail ystadegau cenedlaethol am yr hyn sy’n achosi damweiniau yn y cartref a chanlyniadau’r damweiniau hynny, mae’r system yn rhoi ‘sgôr’ i unrhyw beryglon y bydd arolygydd yn dod ar eu traws. Cafodd y peryglon eu grwpio mewn 29 categori, fel y gwelwch isod. Wrth asesu unrhyw berygl penodol, caiff yr holl ddiffygion sy’n cyfrannu ato eu hasesu. Gall un diffyg gyfrannu at nifer o wahanol beryglon.
Mae’r sgôr yn seiliedig ar ddwy elfen:
- Pa mor debygol yw hi y bydd math penodol o berygl yn achosi niwed yn ystod y flwyddyn nesaf o’i gymharu â’r hyn y byddech yn ei ddisgwyl mewn eiddo tebyg
- Faint o niwed y mae’r perygl hwnnw’n debygol o’i achosi i’r preswylwyr
Wrth asesu, mae’r awdurdodau lleol yn ystyried y bobl y byddai unrhyw berygl penodol yn effeithio arnynt fwyaf – (‘y grŵp sy’n agored i niwed’). Felly, er enghraifft, caiff Oerni Gormodol ei asesu o safbwynt yr henoed neu blant ifanc.
Os yw’n debygol iawn y bydd damwain neu niwed yn digwydd ac os yw’r canlyniad yn debygol o fod yn ddifrifol i’r grŵp sy’n agored i niwed, bydd y sgôr yn uchel, a gellir pennu ei fod yn ‘Berygl Categori 1’. Mewn achos o’r fath, mae dyletswydd ar yr Awdurdod Lleol i fynd ati i leihau’r risg i’r preswylwyr neu’r darpar breswylwyr. Ar ôl iddo asesu’r risgiau, rhaid i’r Awdurdod ystyried deiliadaeth yr eiddo a ph’run a yw’r preswylwyr presennol yn wynebu risg o’r fath a rhaid iddo benderfynu pa gamau i’w cymryd yn unol â hynny. Er enghraifft, gallai roi hysbysiad gwaith i’r perchennog. Gall y Cyngor ymdrin â pheryglon llai difrifol fel y gwêl yn dda. I gael mwy o wybodaeth am y camau y gellir eu cymryd, ewch i’r dudalen Dyletswyddau a Phwerau'r Awdurdod Lleol.
Wrth gwrs, nid yw’n rhwydd cael gwared ar rai peryglon ar unwaith – er enghraifft grisiau serth – ond bydd modd lleihau’r risg y bydd unigolyn yn cael niwed ar ôl cwympo drwy leoli canllawiau yn y lle iawn. Os nad oes dull ymarferol o leihau’r peryglon at lefel dderbyniol, gall y Cyngor ystyried gwahardd defnyddio’r adeilad neu ran ohono at ddibenion preswyl.
Isod, rhestrir y 29 math o berygl. I gael manylion am y math o ddiffyg a all gyfrannu at y math mwyaf cyffredin o berygl, cewch afael ar y ddogfen ‘Yr Eiddo Delfrydol’ yn yr adran Lawrlwytho, ynghyd â disgrifiad o’r safon sylfaenol lle nad oes unrhyw berygl ar gael. Nid safon ofynnol ar gyfer pob eiddo yw hon; rhaid asesu pob adeilad fesul achos.
Gofynion ffisiolegol
- Tamprwydd a llwydni’n tyfu
- Oerfel gormodol
- Gwres gormodol
- Asbestos ac MMF (Manufactured Mineral Fibres)
- Bioladdwyr
- Carbon monocsid a chynhyrchion hylosgi tanwydd
- Plwm
- Ymbelydredd
- Nwy tanwydd heb ei hylosgi
- Cyfansoddion organig anweddol
Gofynion Seicolegol
- Gorlenwi a lle
- Dieithriaid yn gallu cerdded i mewn
- Golau
- Sŵn
Diogelu rhag haint
- Hylendid domestig, plâu a sbwriel
- Diogelwch bwyd
- Hylendid personol, glanweithdra a draenio
- Cyflenwad dŵr
Diogelu rhag damweiniau
- Codymau sy’n gysylltiedig â’r bath ac ati
- Cwympo ar arwynebau gwastad ac ati
- Cwympo ar risiau ac ati
- Cwympo rhwng lefelau
- Peryglon trydanol
- Tân
- Fflamau, arwynebau poeth ac ati
- Gwrthdaro a chaethiw
- Ffrwydron
- Safle amwynderau a pha mor rhwydd ydynt i’w gweithio ac ati
- Strwythurau sydd wedi cwympo ac elfennau sy’n disgyn