Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Phroblemau yn y Gymdogaeth
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys cymdogion sy’n swnllyd neu’n ymddwyn yn ddifrïol, taflu sbwriel a graffiti. Gall achosi i chi deimlo’n ofnus, yn grac ac o dan fygythiad.
Mae’r Awdurdod Lleol a’r Heddlu, ynghyd â sefydliadau eraill, yn cydweithio mewn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol i fynd i’r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cwynion am Sŵn
Mae gan bawb hawl i fwynhau llonyddwch yn eu cartrefi. Os ydych yn teimlo bod sŵn gormodol yn effeithio ar y llonyddwch hwn, er enghraifft cŵn sy’n cyfarth yn barhaus, sŵn o dafarndai neu glybiau’n hwyr y nos neu sŵn peiriannau, gall yr Awdurdod Lleol ymchwilio i weld beth sy’n achosi’r broblem. Gall hyn arwain at gymryd camau yn erbyn y sawl sy’n creu’r sŵn. Os ydych am wneud cwyn, cysylltwch â Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd drwy anfon e-bost at publicprotection@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 572 105.
Mae niwsans sŵn yn cael ei asesu ar y sail hon
- a yw’r sŵn yn ‘rhesymol’ o ystyried yr ardal
- pa mor aml y mae’r sŵn yn digwydd
- ar faint o bobl y mae’r sŵn yn effeithio
Caiff pob achos ei asesu yn ôl teilyngdod ac ar sail pa mor sensitif yw unigolyn cyffredin. Y peth cyntaf y bydd yr Awdurdod Lleol yn ei wneud fydd gofyn i chi lenwi ‘dyddiadur’ i bennu pa fath o sŵn sydd i’w glywed, pa mor aml y mae’n digwydd a phryd y mae’n digwydd. O wneud hynny, bydd modd i’r swyddog sy’n ymchwilio bennu a yw’r sŵn yn peri niwsans, pa mor aml y mae’n digwydd a pha mor ddifrifol yw’r sŵn.
Byddem hefyd yn eich annog chi i ddefnyddio’r Ap Sŵn, y gallwch ei lawrlwytho i’ch ffôn i recordio sŵn. Gallwch gyflwyno eich cwyn drwy’r Ap Sŵn.
Os oes rheswm dros wneud hynny, caiff y sŵn ei recordio am 6 diwrnod cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi. Bydd y sawl sy’n creu’r sŵn yn cael gwybod am yr ymchwiliad cyn i unrhyw sŵn gael ei recordio. Mewn achosion difrifol, gall yr Awdurdod Lleol roi hysbysiad diddymu i gyfyngu ar amseroedd neu lefel y sŵn a gall roi dirwyon o hyd at £20,000.
Os yw’r sŵn yn dod o safle neu ddigwyddiad trwyddedig, dylech gysylltu ag Adain Drwyddedu’r Awdurdod Lleol drwy ffonio 01545 572179 neu e-bostio publicprotection@ceredigion.gov.uk.
Perthi uchel
Yn aml gall anghydfodau ynghylch perthi terfyn arbennig o uchel fod yn ddadleuol. Ni all yr Awdurdod Lleol ymwneud â hwy ond o dan amgylchiadau penodol ac ar ôl i chi roi cynnig ar ffyrdd eraill o ddatrys y broblem. Siaradwch â’ch cymydog, defnyddiwch wasanaeth cyfryngu a chadwch gofnodion o bob cam a gymerir. Bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw wasanaeth mae’r Awdurdod Lleol yn ei gynnig.
Cwynion am ymddygiad mewn Tai Amlfeddiannaeth
Os caiff yr Awdurdod Lleol gŵyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol o Dŷ Amlfeddiannaeth, byddwn yn mynd i’r afael â hyn trwy landlord a rheolwyr yr eiddo. Mae dyletswydd ar unigolyn sy’n gyfrifol am Dŷ Amlfeddiannaeth i’w reoli’n briodol ac mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad y tenantiaid.
Troi allan
Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn sail i droi tenant allan o adeilad, hyd yn oed os yw’r denantiaeth ond newydd ddechrau. Dylai landlordiaid sydd eisiau cael gwared ar denantiaid gwrthgymdeithasol o’u heiddo geisio cyngor cyfreithiol am y ffordd gywir o wneud hyn.
Landlordiaid sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol
Os yw’ch landlord yn ymddwyn mewn ffordd fygythiol tuag atoch, edrychwch ar ein tudalen Diogelu Tenant rhag i neb aflonyddu arno na'i droi allan yn Anghyfreithlon i gael mwy o wybodaeth.
Yr hyn y gallwch ei wneud
- Meddyliwch sut y bydd eraill yn ystyried eich ymddygiad ac ymddygiad y sawl sy’n ymweld â chi
- Ystyriwch eich lefelau sŵn eich hunan, e.e. cŵn yn cyfarth neu gerddoriaeth
- Os ydych yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, cadwch ddyddiadur gan nodi’r hyn sy’n digwydd a phryd mae’n digwydd
- Ffoniwch yr heddlu os yw’r ymddygiad yn ymosodol neu’n fygythiol
Adolygu achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol – Beth yw hyn?
Yn 2014 cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ganllawiau diwygiedig er mwyn defnyddio’n effeithiol y pwerau newydd i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a oedd yn cynnwys mesur newydd o'r enw ‘Adolygiadau achos ymddygiad gwrthgymdeithasol’ (a elwir yn ffurfiol yn ‘Sbardun Cymunedol’). Mae adolygu’r achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn caniatáu i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus ofyn am adolygiad o'u hachos, gan sicrhau bod asiantaethau yn atebol am y ffordd y rhoddir sylw ‘r ymddygiad. Er mwyn bodloni'r trothwy ar gyfer gweithredu adolygiad o’r achos ymddygiad gwrthgymdeithasol, rhaid bod yr ymgeisydd wedi:
- Adrodd tri digwyddiad ar wahân sy'n ymwneud â'r un broblem dros y chwe mis diwethaf i'r Cyngor, yr Heddlu neu landlord, ac nid oes camau effeithiol wedi cael eu cymryd; neu
- Adrodd am un digwyddiad neu drosedd lle'r oedd casineb yn gymhelliad* (oherwydd hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth drawsryweddol) i'r heddlu yn ystod y chwe mis diwethaf ac nid oes camau effeithiol wedi cael eu cymryd; neu
- Mae unigolyn ar lefel uchel briodol o fewn awdurdod cyfrifol yn adolygu'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr holl bartïon ac maent o'r farn bod tystiolaeth ddigonol i ysgogi adolygiad achos waeth beth fo rôl y sawl sy’n gwneud cais am adolygu achos ymddygiad gwrthgymdeithasol.
*Caiff trosedd gasineb ei diffinio fel unrhyw drosedd a gyflawnir yn erbyn unigolyn neu eiddo a gaiff ei chymell gan elyniaeth tuag at rywun ar sail ei anabledd go iawn neu dybiedig, ei hil, ei grefydd, ei hunaniaeth rhyw neu ei gyfeiriadedd rhywiol, a bod hyn yn ffactor wrth bennu pwy sy'n destun yr erledigaeth. Nid oes rhaid i ddioddefwr fod yn aelod o grŵp ac yn wir, gallai unrhyw un fod yn ddioddefwr trosedd gasineb.
Rhaid gwneud pob adroddiad cyn pen 30 diwrnod o'r digwyddiad ac mae'n rhaid gwneud y cais am yr adolygiad cyn pen 6 mis o'r adroddiad cyntaf. Caiff adroddiad a wneir i sawl asiantaeth ar yr un pryd neu oddeutu'r un pryd ynghylch yr un digwyddiad ei ystyried fel un adroddiad. Nid yw'n fwriad adolygu achosion hanesyddol, neu'r rhai a adroddwyd yn ddiweddar yn unig, lle nad yw asiantaethau wedi cael cyfle rhesymol i ymateb.
Sut allaf i ofyn am adolygiad o achos ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Ar draws rhanbarth Dyfed-Powys, Heddlu Dyfed-Powys yw'r pwynt cyswllt ar gyfer adolygu achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir gwneud cais ar-lein, mewn neges e-bost, trwy ffonio 101 neu drwy ofyn am ffurflen gais yn ysgrifenedig – Am fanylion pellach, trowch at wefan Heddlu Dyfed-Powys. Nid dim ond y dioddefwr ei hun sy'n gallu gofyn am adolygu’r achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol, er bod yn rhaid i'r sawl sy'n gofyn am adolygu achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar eu rhan gael eu caniatâd cyn gwneud cais. Ar ôl sicrhau caniatâd, gall yr adolygiad o’r achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol gael ei ddefnyddio gan unrhyw unigolyn megis aelod o'r teulu, ffrind, gofalwr, cynghorydd, Aelod o Senedd Cymru, Aelod Seneddol neu unrhyw unigolyn proffesiynol arall ar ran dioddefwr.
Gall yr adolygiad o’r achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol gael ei ddefnyddio gan unigolyn o unrhyw oed.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Ar ôl cael cais am adolygu’r achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd yr ymgeisydd yn cael llythyr cydnabyddiaeth cyn pen 5 diwrnod gwaith. Bydd asiantaethau yn ystyried y cais ac yn cysylltu â'r dioddefwr cyn pen 15 diwrnod gwaith i'w hysbysu os ydynt wedi bodloni'r trothwy. Os cytunir y bodlonwyd y trothwy, bydd asiantaethau partner yn cynnal adolygiad achos lle y caiff gwybodaeth sy'n ymwneud â'r achos, gan gynnwys unrhyw gamau a gymerwyd yn flaenorol, ei hystyried, a chaiff penderfyniad ei wneud ynghylch a yw camau gweithredu ychwanegol yn bosibl. Hysbysir yr ymgeisydd o ganlyniad yr adolygiad panel. Gellir gwneud apêl i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu pan fodlonir un o'r mesurau canlynol;
- Mae'r penderfyniad a roddwyd, a oedd yn amlinellu pam nad oedd yr achos wedi bodloni'r trothwy ar gyfer adolygu achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol, wedi methu cynnig digon o fanylder er mwyn deall pam nas cynhaliwyd adolygiad
- Mae'r adolygiad o'r achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi methu ystyried proses, polisi neu brotocol perthnasol
- Mae'r adolygiad o'r achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi methu ystyried gwybodaeth ffeithiol berthnasol
Rhaid gwneud apeliadau i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu cyn pen 28 diwrnod. Bydd y 28 diwrnod yn cychwyn o ddyddiad;
- Y llythyr sy'n hysbysu'r ymgeisydd nad yw ei gais wedi bodloni'r trothwy ar gyfer adolygu'r achos; neu
- Y Llythyr sy'n ei hysbysu o ganlyniad yr adolygiad achos