Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cymryd Camau Niwsans Preifat

Mae modd rhoi diffiniad eang o niwsans fel rhywbeth sy'n cael effaith afresymol ar ddefnydd a mwynhad rhywun o'u cartref a'u heiddo.

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn nodi'r materion y gellir eu dosbarthu fel niwsans. Dim ond am niwsans a restrir yn y ddeddfwriaeth y mae modd cymryd camau dan DDA 1990. Mae'r rhestr yn cynnwys pethau fel sŵn, mwg, mygdarth neu olau artiffisial. Gan eu bod wedi cael eu nodi mewn 'statud' neu 'ddeddfwriaeth', cyfeirir at faterion niwsans fel 'niwsans statudol' yn aml.

Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd dan y Ddeddf i gymryd camau rhesymol ac ymarferol er mwyn ymchwilio i gwynion a wneir ynghylch niwsans. Er mwyn gweithredu, rhaid bod y niwsans yn amharu ar iechyd neu'n niwsans. Er mwyn pennu a oes modd i ni weithredu, byddwn yn ystyried;

  • Graddau'r niwed a achosir
  • Lleoliad y broblem, a phwy y mae'n effeithio arnynt
  • Pa mor aml a pha mor hir y mae'r niwsans yn para ac ar ba adeg o'r dydd y mae'n digwydd
  • Pa mor rhesymol yw'r gweithgarwch

Os oes modd i ni benderfynu bod niwsans statudol yn digwydd, gallwn weithredu, fel arfer ar ffurf Hysbysiad Atal, er mwyn atal y broblem rhag codi eto.

Weithiau, y rheswm dros y ffaith nad oes modd i ni weithredu yw oherwydd nad oes gennym ddigon o dystiolaeth i'w dangos i'r Llys, gan na fu modd i ni fod yn dyst i'r problemau, er enghraifft os bydd y niwsans yn digwydd yn afreolaidd.

Yn yr achosion hyn, efallai y byddwch yn dymuno ystyried a ydych chi'n dymuno cymryd eich camau preifat eich hun. Mae modd i chi wneud hyn gan ddefnyddio'r un ddeddfwriaeth, Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Ni fydd angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr, ond efallai yr hoffech geisio cyngor cyfreithiol cyn dilyn y trywydd hwn. Bydd angen i chi ddangos i'r Llys eich bod wedi ceisio datrys y broblem eich hun trwy ysgrifennu at yr unigolyn sy'n achosi'r broblem yn eich barn chi.

Bydd angen i chi ddangos eich tystiolaeth, gan gynnwys pa mor aml y mae hyn yn digwydd, am faint y mae'n para, a sut mae'n effeithio arnoch chi. Bydd angen i chi gofio bod y prawf yn un gwrthrychol, felly rhaid bod y niwsans yn un sy'n effeithio ar y 'dyn cyffredin'. Nid yw'r gyfraith yn ystyried unrhyw sensitifrwydd neu ddisgwyliad penodol, megis eich patrymau gweithio sifft. Dylech fod yn hyderus y byddwch yn ennill yr achos. Os oes gennych chi unrhyw amheuon, dylech ystyried a yw hyn oherwydd nad oes niwsans yn bodoli yn yr ystyr cyfreithiol.

Os yw'r unigolyn dan sylw yn torri'r gyfraith trwy fod yn dreisgar, yn fygythiol neu'n ymosodol, neu os ydynt yn aflonyddu arnoch, dylech gysylltu â'r heddlu.

Yr hyn y mae modd i chi ei wneud

Cyn gwneud cwyn ffurfiol, dylech geisio datrys y broblem mewn ffordd anffurfiol trwy siarad â'r unigolyn. Os ydych yn pryderu ynghylch cysylltu â nhw, ysgrifennwch lythyr atynt sy'n esbonio'r broblem mewn ffordd eglur, gan gadw at y ffeithiau.

Gallwch ystyried gwasanaeth cyfryngu hefyd. Ystyr cyfryngu yw pan fydd unigolyn diduedd – sydd wedi cael hyfforddiant mewn delio â thrafodaethau anodd rhwng 2 ochr wahanol – yn cyflawni rôl dyfarnwr mewn anghydfod. Efallai y codir ffi am wasanaeth cyfryngu, ond bydd hwn yn rhatach o hyd na chyflogi cyfreithiwr a chymryd camau cyfreithiol. Mae modd i chi weld gwasanaethau cyfryngu ar wefan Civil Mediation Council.

Os na chaiff y broblem ei datrys, bydd angen i chi ysgrifennu at yr unigolyn dan sylw, gan nodi'r rheswm dros y gŵyn a'u hysbysu, os na fyddant yn gwneud unrhyw beth i stopio neu leihau'r niwsans, y byddwch chi'n ystyried cymryd camau preifat dan adran 82 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Ar ôl i chi anfon y llythyr, bydd angen i chi ddechrau cadw dyddiadur o'r adegau pan fo'r niwsans yn digwydd a sut y mae'n effeithio arnoch chi. Efallai yr hoffech gasglu tystiolaeth gan bobl arall sy'n cael eu heffeithio gan y niwsans hefyd, megis ffrindiau neu gymdogion. Mae modd i chi ddefnyddio'r tudalennau Cofnod niwsans sydd ynghlwm os ydych yn dymuno.

Byddwch yn ofalus, fodd bynnag, os byddwch yn penderfynu eich bod yn dymuno recordio neu ffilmio fideo o'r niwsans. Gall y math hwn o dystiolaeth fod yn ddefnyddiol iawn, ond er mwyn osgoi unrhyw gamau rhag cael eu cymryd yn eich erbyn chi, dylech sicrhau eich bod wedi dweud wrth yr unigolyn yr ydych yn eu recordio y byddwch chi'n casglu tystiolaeth yn fath ffordd efallai. Gallwch eu hysbysu o hyn yn eich llythyr cychwynnol. Os byddwch yn cymryd unrhyw dystiolaeth ffotograffig neu ar ffurf fideo, dylech sicrhau ei fod yn cofnodi'r niwsans yn unig, a dim byd arall, neu efallai y bydd modd iddynt ddwyn achos yn eich erbyn am dresbasiad ar breifatrwydd.

Peidiwch ag anghofio cadw copïau o'r holl ohebiaeth a anfonwyd neu a gafwyd ynghylch eich mater.

Os bydd y niwsans yn parhau, bydd angen i chi hysbysu'r unigolyn sy'n achosi'r broblem y byddwch chi'n gwneud cais i Lys yr Ynadon am gamau, a dylech sicrhau eich bod wedi rhoi o leiaf 3 diwrnod o rybudd iddynt. Os yw'r Llys yn fodlon bod gennych chi achos, rhoddir amser a dyddiad gwrandawiad i chi. Bydd y Llys yn ysgrifennu at yr unigolyn sy'n achosi'r broblem yn eich barn chi.

Codir tâl am y gwrandawiad Llys. Os byddwch chi'n ennill, efallai y bydd modd i chi adennill unrhyw gostau y bydd gofyn i chi eu talu. Os na fyddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd gofyn i chi dalu costau'ch gwrthwynebydd.

Yr hyn y mae modd i ni ei wneud

Os ydych chi'n credu bod gennych chi broblem niwsans statudol, ac os nad ydym wedi ymchwilio i'r mater yn barod, cysylltwch â ni ar publicprotection@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 572105. Weithiau, gallwn ddefnyddio deddfwriaeth arall er mwyn mynd i'r afael â phroblemau niwsans. Byddwn yn penderfynu hyn ar ôl i ni gynnal rhai ymchwiliadau am y niwsans.

Os ydym wedi ymchwilio i'r broblem yn barod, a phenderfynu nad oes gennym ddigon o dystiolaeth er mwyn gweithredu yn ei gylch fel niwsans statudol, bydd angen i chi ystyried a ydych yn dymuno cymryd eich camau preifat eich hun.