Hynach nid Oerach - Gofal a Thrwsio
Mae Hynach Nid Oerach yn wasanaeth Cymru-gyfan sy’n helpu pobl hŷn i gadw eu cartrefi yn gynnes a gostwng eu biliau ynni.
Gall Swyddog Ynni Cartref ymweld â'ch cartref i’w asesu, a rhoi cyngor arbenigol am ddim i chi a'ch helpu i gael gafael ar gyllid os oes angen gwaith trwsio neu waith i wella effeithiolrwydd ynni neu gynhesrwydd eich cartref.
Mae'r gwasanaeth ar gyfer pobl sydd:
- yn byw yng Nghymru
- dros 60 oed
- yn berchen ar eu cartref eu hunain neu'n rhentu'n breifat
I ofyn am ymweliad gan y Swyddog Ynni Cartref, cysylltwch â Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ar 01437 766717 neu ewch i wefan Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru.